- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
31.—(1) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 4(1), a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)os nad yw P yn byw yn yr annedd lle y mae’r toriad honedig yn digwydd, caiff y swyddog gyfarwyddo U i symud P o’r annedd, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(2) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 6(1) neu (3) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(3) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 9 a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U—
(i)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(1), i fynd â P i fan y tu allan i Gymru,
(ii)mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(2), i atal P rhag ymadael â Chymru neu i fynd â P yn ôl i Gymru, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(4) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 12(2) neu 14(2) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(5) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod plentyn yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn rheoliad 22(1) neu 23(1), caiff y swyddog gyfarwyddo unrhyw unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.
(6) At ddibenion paragraffau (1) i (4), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: