Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

47.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan fo—

(i)hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1),

(ii)y gofal yn rhan o ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(iii)y gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(2);

(b)ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;

(c)ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigon i alluogi cysylltiad â’r person, (gan gynnwys rhif ffôn, ac, mewn perthynas â pherson mewn mangre reoleiddiedig, y dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);

(d)ystyr “swyddog olrhain cysylltiadau” yw—

(i)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen at ddibenion y gwasanaeth iechyd (o fewn ystyr “the health service” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3) neu adran 108 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(4));

(ii)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan awdurdod lleol,

sydd wedi ei ddynodi at ddibenion Rhan 4 gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(5) neu awdurdod lleol.

(e)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

(f)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;

(g)ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;

(h)ystyr “llety gwyliau neu lety teithio” yw llety mewn mangre o fath a restrir ym mharagraffau 8 i 11 o Ran 1 o Atodlen 2;

(i)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(j)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989(6);

(k)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

(l)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

(m)ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;

(n)mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 21(1);

(o)mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;

(p)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;

(iii)unrhyw berson sy’n feichiog;

(iv)unrhyw blentyn;

(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(7).

(2Yn y Rheoliadau hyn, o ran cyfeiriadau at “annedd breifat”—

(a)maent yn cynnwys cwch preswyl ac unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, tŷ allan neu unrhyw atodyn arall i’r annedd;

(b)nid ydynt yn cynnwys y canlynol—

(i)llety gwyliau neu lety teithio;

(ii)llety mewn gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, o fewn yr ystyr a roddir i’r termau hynny gan Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

(iii)llety cyfiawnder troseddol.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;

(b)mae digwyddiad yn achlysur—

(i)sydd wedi ei gynllunio a’i amserlennu at ddiben penodol, a

(ii)pan fo unrhyw nifer o bobl yn yr un lle at y diben hwnnw, pa un a ydynt yn cymryd rhan mewn cynulliad ai peidio.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(8);

(b)mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithgaredd “wedi ei drefnu”—

(a)os yw wedi ei drefnu gan—

(i)busnes,

(ii)corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,

(iii)clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu

(iv)corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a

(b)os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—

(i)cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(9), pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a

(ii)cydymffurfio â gofynion rheoliadau 21(2) a 24(1).

(6At ddibenion paragraff (5)(b)—

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;

(b)mae rheoliad 21(2) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—

(i)y man lle y mae’r gweithgaredd yn digwydd yn fangre reoleiddiedig at ddibenion y rheoliad hwnnw, a

(ii)y person sy’n trefnu’r gweithgaredd oedd y person cyfrifol mewn perthynas â’r fangre reoleiddiedig honno.

(5)

A sefydlwyd gan O.S 2009/2058 (Cy. 177)

(6)

1989 p. 41. Gweler Rhan 1 o’r Ddeddf, y mae diwygiadau amrywiol wedi eu gwneud iddi, gan gynnwys gan Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (p. 22) ac O.S. 2019/1458.

(7)

Diwygiwyd adran 60 gan adran 65 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(9)

O.S. 1992/3242. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2005/1541, O.S. 2015/21 ac O.S. 2015/1637 .

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources