xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1602 (Cy. 332)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020

Gwnaed

am 2.49 p.m. ar 18 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.00 p.m. ar 18 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 19.12.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDiwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Hepgor gwledydd a thiriogaethau o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esemptLL+C

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 19.12.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2LL+C

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—

(i)o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii)cyn 4.00 a.m. ar 19 Rhagfyr 2020.

(2Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 19.12.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDiwygiad i Ran 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiad i Ran 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio RhyngwladolLL+C

4.—(1Mae Rhan 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 8(2)(b) mewnosoder—

(c)person—

(i)nad yw’n ofynnol iddo ynysu mwyach o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Lloegr) 2020(3) yn rhinwedd rheoliad 4(13A) o’r Rheoliadau hynny,

(ii)sydd yng Nghymru am un neu ragor o’r rhesymau a restrir yn rheoliad 10(4)(b) i (k) o’r Rheoliadau hyn, a

(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 19.12.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 2.49 p.m. ar 18 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor y cofnodion ar gyfer Gweriniaeth Namibia, Uruguay ac Ynysoedd y Wyryf yr Unol Daleithiau.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod, yn rheoliad 8(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, eithriad ychwanegol i’r gofyniad i ynysu a nodir yn rheoliad 8(1) i egluro’r sefyllfa o ran person sy’n dod i Gymru sydd wedi ei ryddhau o ynysiad yn Lloegr gan reoliad 4(13A) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Lloegr) 2020 (O.S. 2020/568).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.