- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
59.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cymysgu’r papurau pleidleisio o dan reol 55(10) neu 57(4).
(2) Rhaid canfod canlyniad y bleidlais drwy gyfrif y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd.
(3) Rhaid datgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i’r ymgeiswyr eraill, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, wedi ei ethol neu wedi eu hethol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.
(5) Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.
(6) Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif prif ardal sy’n dymuno gosod eu sêl, a
(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: