xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 11Darpariaethau Diogelu

RHAN 2Diogelu Network Rail Infrastructure Limited

11.  Mae darpariaethau’r Rhan hon yn cael effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a Network Rail a, phan fo paragraff 15 yn gymwys, unrhyw berson arall y rhoddir hawliau neu rwymedigaethau iddo gan y paragraff hwnnw.

12.  Yn y Rhan hon—

mae “adeiladu” yn cynnwys cwblhau, gosod, newid ac ailadeiladu ac mae i “adeiladu” ac “wedi ei adeiladu” ystyron cyfatebol;

ystyr “peiriannydd” yw peiriannydd a benodir gan Network Rail at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “trwydded rhwydwaith” yw’r drwydded rhwydwaith, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, a roddwyd i Network Rail gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer pwerau o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(1);

ystyr “Network Rail” yw Network Rail Infrastructure Limited ac unrhyw gwmni cysylltiedig i Network Rail Infrastructure Limited sy’n dal eiddo at ddibenion rheilffordd, ac at ddiben y diffiniad hwn ystyr “cwmni cysylltiedig” yw unrhyw gwmni sydd (o fewn ystyr adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(2)) sy’n gwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited, sy’n is-gwmni i Network Rail Infrastructure Limited neu sy’n is-gwmni arall i gwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited;

mae “planiau” yn cynnwys trawsluniau, dyluniadau, data dylunio, meddalwedd, lluniadau, rhagofynion, adroddiadau ar bridd, cyfrifiadau, disgrifiadau (gan gynnwys disgrifiadau o ddulliau adeiladu), cynigion fesul cam, rhaglenni a manylion y graddau y bwriedir meddiannu eiddo rheilffordd ac amseriad a hyd hynny;

ystyr “gweithdrefnau gweithredol rheilffyrdd” yw gweithdrefnau a bennir o dan unrhyw gytundeb ynglŷn â mynediad (fel y’i diffiniwyd yn Neddf Rheilffyrdd 1993(3)) neu brydles gorsaf;

ystyr “eiddo rheilffordd” yw unrhyw reilffordd sy’n eiddo i Network Rail ac—

(a)

unrhyw orsaf, tir, gweithfeydd, cyfarpar ac offer sy’n eiddo i Network Rail neu sy’n gysylltiedig ag unrhyw gyfryw reilffordd; a

(b)

unrhyw hawddfraint neu fuddiant arall mewn eiddo a ddelir neu a ddefnyddir gan Network Rail at ddibenion y cyfryw reilffordd neu weithfeydd, cyfarpar neu offer;

ystyr “gwaith penodedig” yw cymaint o unrhyw un o’r gweithfeydd ar y tir ag sydd wedi’i leoli ar, ar draws, o dan, dros neu o fewn 15 metr i eiddo rheilffordd, neu a all effeithio ar eiddo rheilffordd mewn unrhyw ffordd.

13.—(1Pan fo’n ofynnol o dan y Rhan hon i Network Rail roi ei gydsyniad neu ei gymeradwyaeth mewn cysylltiad ag unrhyw fater, mae’r cydsyniad hwnnw neu’r gymeradwyaeth honno yn ddarostyngedig i’r amod bod Network Rail yn cydymffurfio ag unrhyw weithdrefnau gweithredol perthnasol rheilffordd, ac unrhyw rwymedigaethau o dan ei drwydded rhwydwaith neu o dan statud.

(2I’r graddau y mae unrhyw waith penodedig neu gaffael neu ddefnyddio eiddo rheilffordd yn ddarostyngedig neu y gall fod yn ddarostyngedig i weithdrefnau gweithredol rheilffordd, rhaid i Network Rail—

(a)cydweithredu â’r ymgymerwr gyda’r nod o osgoi oedi amhriodol a sicrhau cydymffurfiaeth rhwng unrhyw blaniau a gymeradwyir gan y peiriannydd a gofynion sy’n deillio o’r gweithdrefnau hynny; a

(b)defnyddio ei ymdrechion rhesymol i osgoi unrhyw wrthdaro sy’n codi rhwng cymhwyso’r gweithdrefnau hynny a gweithredu’r prosiect awdurdodedig yn briodol yn unol â’r Gorchymyn hwn.

14.—(1Ni chaniateir i’r ymgymerwr arfer y pwerau a roddir gan

(a)erthygl 12 (gollwng dŵr );

(b)erthygl 14 (pŵer i arolygu ac ymchwilio i dir);

(c)erthygl 22 (pŵer i gaffael tir);

(d)erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau a gosod cyfamodau cyfyngol);

(e)erthygl 26 (pŵer i gaffael is-bridd yn unig);

(f)erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd);

(g)erthygl 29 (defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd);

(h)erthygl 34 (pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill );

(i)erthygl 35 (hawliau preifat dros dir);

(j)erthygl 40 (pŵer i docio coed sy’n gorhongian dros y gweithfeydd awdurdodedig a gwaredu gwrychoedd );

(k)erthygl 44 ac Atodlen 10 i’r Gorchymyn (ymgymerwyr statudol); neu

(l)y pwerau a roddwyd gan adran 11(3) o Ddeddf 1965,

mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo rheilffordd oni bai bod y cyfryw bwerau yn cael eu harfer gyda chydsyniad Network Rail.

(2Ni chaniateir i’r ymgymerwr drwy arfer y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn atal mynediad i unrhyw eiddo rheilffordd i gerddwyr na cherbydau, onid atelir y cyfryw fynediad gyda chydsyniad Network Rail.

(3Ni chaniateir i’r ymgymerwr arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 271 neu 272 o Ddeddf 1990, nac Atodlen 10 i’r Gorchymyn hwn, mewn perthynas ag unrhyw hawl mynediad sydd gan Network Rail i eiddo rheilffordd ond caniateir dargyfeirio’r cyfryw hawliau mynediad gyda chydsyniad Network Rail.

(4Ni chaniateir i’r ymgymerwr o dan bwerau’r Gorchymyn hwn gaffael neu ddefnyddio neu gaffael hawliau newydd, na cheisio gosod unrhyw gyfamodau cyfyngol, dros unrhyw eiddo rheilffordd, na diddymu unrhyw hawliau presennol sydd gan Network Rail mewn cysylltiad ag eiddo unrhyw drydydd parti, ac eithrio gyda chydsyniad Network Rail.

(5Pan ofynnir i Network Rail roi ei gydsyniad yn unol â’r paragraff hwn, ni chaniateir iddo atal y cyfryw ganiatâd yn afresymol ond caiff ei roi yn ddarostyngedig i amodau rhesymol.

15.—(1Rhaid i’r ymgymerwr cyn cychwyn ar adeiladu unrhyw waith penodedig ddarparu planiau priodol a digonol o’r gwaith hwnnw i Network Rail ar gyfer cymeradwyaeth resymol y peiriannydd ac ni chaniateir cychwyn ar y gwaith penodedig ac eithrio yn unol â’r cyfryw blaniau ag a gymeradwywyd yn ysgrifenedig gan y peiriannydd neu ag a setlwyd drwy gymrodeddu.

(2Ni chaniateir i’r peiriannydd o dan is-baragraff (1) atal cymeradwyaeth nac oedi cyn rhoi cymeradwyaeth yn afresymol, ac os nad yw’r peiriannydd, erbyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y darparwyd y cyfryw blaniau i Network Rail, wedi mynegi ei fod yn anghymeradwyo’r planiau hynny nac wedi nodi’r seiliau dros eu hanghymeradwyo, caiff yr ymgymerwr gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r peiriannydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo fynegi cymeradwyaeth neu anghymeradwyaeth o fewn cyfnod pellach o 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r peiriannydd yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan yr ymgymerwr. Os nad yw’r peiriannydd wedi mynegi cymeradwyaeth nac anghymeradwyaeth erbyn diwedd y cyfnod pellach o 28 diwrnod, bernir bod y peiriannydd wedi cymeradwyo’r planiau fel y’u cyflwynwyd.

(3Os yw Network Rail, erbyn diwedd 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd hysbysiad ysgrifenedig i’r peiriannydd o dan is-baragraff (2), yn hysbysu’r ymgymerwr bod Network Rail ei hun yn dymuno adeiladu unrhyw ran o waith penodedig a fydd neu a all, ym marn y peiriannydd, effeithio ar sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu weithrediad diogel traffig ar reilffyrdd Network Rail yna, os yw’r ymgymerwr yn dymuno bod y cyfryw ran o’r gwaith penododig yn cael ei hadeiladu, rhaid i Network Rail ei hadeiladu mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl ar ran yr ymgymerwr ac er boddhad rhesymol yr ymgymerwr yn unol â’r planiau a gymeradwywyd neu y bernir eu bod wedi cael eu cymeradwyo neu eu setlo o dan y paragraff hwn ac o dan oruchwyliaeth (pan fo’n briodol ac os y’i rhoddir) yr ymgymerwr.

(4Wrth fynegi ei gymeradwyaeth o’r planiau, caiff y peiriannydd bennu unrhyw weithfeydd diogelu (boed yn rhai dros dro neu barhaol) a ddylai, ym marn y peiriannydd, gael eu cyflawni cyn cychwyn ar adeiladu gwaith penodedig er mwyn sicrhau diogelwch neu sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu barhad gweithrediad diogel ac effeithlon rheilffyrdd Network Rail neu wasanaethau gweithredwyr sy’n eu defnyddio (gan gynnwys adleoli, datgomisiynu a gwaredu unrhyw weithfeydd, cyfarpar ac offer sy’n angenrheidiol oherwydd gwaith penodedig ac er cysur a diogelwch teithwyr y gall y gweithfeydd penodedig effeithio arnynt), a rhaid i’r cyfryw weithfeydd diogelu ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion hynny gael eu hadeiladu gan Network Rail neu gan yr ymgymerwr, os dymuna Network Rail felly, a rhaid i’r cyfryw weithfeydd diogelu gael eu cyflawni ar draul yr ymgymerwr, yn y naill achos neu’r llall mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl, a rhaid i’r ymgymerwr beidio â chychwyn ar adeiladu’r gweithfeydd penodedig nes bod y peiriannydd wedi hysbysu’r ymgymerwr bod y gweithfeydd diogelu wedi cael eu cwblhau er boddhad rhesymol y peiriannydd.

16.—(1Rhaid i unrhyw weithfeydd penodedig ac unrhyw weithfeydd diogelu sydd i’w hadeiladu yn rhinwedd paragraff 15(4), pan gychwynnir arnynt, gael eu hadeiladu—

(a)mor gyflym ag y bo’n rhesymol bosibl yn unol â’r planiau a gymeradwywyd neu y barnwyd eu bod wedi cael eu cymeradwyo neu eu setlo o dan baragraff 5;

(b)o dan oruchwyliaeth (pan fo’n briodol ac os y’i rhoddir) y peiriannydd ac er boddhad rhesymol y peiriannydd;

(c)yn y cyfryw fodd ag sy’n achosi cyn lleied o ddifrod ag y bo’n bosibl i eiddo rheilffordd;

(d)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fel nad ydynt yn ymyrryd â defnydd rhydd, di-dor a diogel o unrhyw un o reilffyrdd Network Rail na’r traffig arnynt a’r defnydd o eiddo rheilffordd gan deithwyr nac yn eu rhwystro.

(2Os achosir unrhyw ddifrod i eiddo rheilffordd neu os achosir unrhyw ymyriad neu rwystr oherwydd adeiladu gwaith penodedig neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig, rhaid i’r ymgymerwr, er gwaethaf unrhyw gyfryw gymeradwyaeth, unioni’r cyfryw ddifrod a rhaid iddo dalu pob traul resymol i Network Rail y gall Network Rail fynd iddi a digollediad am unrhyw golled a achosir i Network Rail drwy unrhyw gyfryw ddifrod, ymyriad neu rwystr

(3Nid oes dim yn y Rhan hon yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr o ran—

(a)unrhyw ddifrod, costau, treuliau neu golled y gellir ei briodoli neu ei phriodoli i esgeuluster Network Rail neu ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau; neu

(b)unrhyw atebolrwydd ar Network Rail o ran unrhyw ddifrod, costau, treuliau neu golled y gellir ei briodoli neu ei phriodoli i esgeuluster yr ymgymerwr neu ei weision, ei gontractwr neu ei asiantau.

17.  Rhaid i’r ymgymerwr—

(a)ar bob adeg ddarparu cyfleusterau rhesymol i’r peiriannydd gael mynediad i waith penodedig wrth iddo gael ei adeiladu; a

(b)darparu’r holl gyfryw wybodaeth i’r peiriannydd ag y caiff y peiriannydd yn rhesymol ofyn amdani o ran gwaith penodedig neu’r dull o’i adeiladu.

18.  Rhaid i Network Rail ar bob adeg ddarparu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr a’i asiantau gael mynediad i unrhyw weithfeydd a gyflawnir gan Network Rail o dan y Rhan hon wrth iddynt gael eu hadeiladu a rhaid iddo roi’r cyfryw wybodaeth i’r ymgymerwr ag y caiff yn rhesymol ofyn amdani o ran y cyfryw weithfeydd neu’r dull o’u hadeiladu.

19.—(1Os oes unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau parhaol neu dros dro i eiddo rheilffordd yn rhesymol angenrheidiol o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu yn ystod y cyfnod o 24 mis ar ôl cwblhau’r gwaith hwnnw er mwyn sicrhau diogelwch eiddo rheilffordd neu barhad gweithrediad diogel ac effeithlon rheilffordd Network Rail, caiff y cyfryw newidiadau ac ychwanegiadau gael eu cyflawni gan Network Rail, ac os yw Network Rail yn rhoi hysbysiad rhesymol i’r ymgymerwr o’i fwriad i gyflawni’r cyfryw newidiadau neu ychwanegiadau (y mae’n rhaid iddynt gael eu pennu yn yr hysbysiad), rhaid i’r ymgymerwr dalu cost resymol y newidiadau a’r ychwanegiadau hynny i Network Rail gan gynnwys, mewn perthynas ag unrhyw gyfryw newidiadau ac ychwanegiadau ag y bo’n barhaol, swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli’r cynnydd mewn costau y gellir disgwyl y bydd Network Rail yn mynd iddynt yn rhesymol wrth gynnal a chadw, gweithio a, phan fo’n angenrheidiol, adnewyddu unrhyw gyfryw newidiadau neu ychwanegiadau.

(2Os yw Network Rail, pan fo’r ymgymerwr yn adeiladu gwaith penodedig, yn hysbysu’r ymgymerwr bod Network Rail ei hun yn dymuno adeiladu’r rhan honno o’r gwaith penodedig sydd, ym marn y peiriannydd, yn peryglu sefydlogrwydd eiddo rheilffordd neu weithrediad diogel traffig ar reilffyrdd Network Rail yna, os yw’r ymgymerwr yn penderfynu bod y rhan honno o’r gwaith penodedig i’w hadeiladu, rhaid i Network Rail ymgymryd ag adeiladu’r rhan honno o’r gwaith penodedig a rhaid i’r ymgymerwr, er gwaethaf unrhyw gymeradwyaeth o’r gwaith penodedig o dan baragraff 15(1), dalu pob traul resymol i Network Rail y gall Network Rail fynd iddi a digollediad am unrhyw golled a achosir i Network Rail drwy gwblhau’r gwaith penodedig gan Network Rail.

(3Rhaid i’r peiriannydd, mewn cysylltiad â’r symiau wedi eu cyfalafu y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn a pharagraff 20(a) ddarparu’r cyfryw fanylion am y fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r symiau hynny ag y caiff yr ymgymerwr yn rhesymol ofyn amdanynt.

(4Os bydd cost cynnal a chadw, gweithio neu adnewyddu eiddo rheilffordd yn lleihau o ganlyniad i unrhyw gyfryw newidiadau neu ychwanegiadau, rhaid i swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli’r cyfryw arbedion gael ei wrthgyfrif yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy gan yr ymgymerwr i Network Rail o dan y paragraff hwn.

20.  Rhaid i’r ymgymerwr ad-dalu’r holl ffioedd, costau, taliadau a threuliau yr eir iddynt gan Network Rail i Network Rail—

(a)wrth adeiladu unrhyw ran o waith penodedig ar ran yr ymgymerwr fel y’i darperir gan baragraff 15(3) neu wrth adeiladu unrhyw weithfeydd diogelu o dan baragraff 15(4) gan gynnwys, mewn cysylltiad ag unrhyw weithfeydd diogelu parhaol, swm wedi ei gyfalafu sy’n cynrychioli cost cynnal a chadw ac adnewyddu’r gweithfeydd hynny;

(b)mewn cysylltiad â chymeradwyaeth y peiriannydd o blaniau a gyflwynir gan yr ymgymerwr a goruchwyliaeth y peiriannydd dros adeiladu gwaith penodedig;

(c)mewn cysylltiad â defnyddio neu gaffael gwasanaethau unrhyw arolygwyr, signalwyr, gwylwyr a phersonau eraill y mae’n rhesymol angenrheidiol eu penodi i archwilio, signalu, gwylio a goleuo eiddo rheilffordd ac i atal, i’r graddau y bo’n rhesymol angenrheidiol, ymyriad, rhwystr, perygl neu ddamwain sy’n codi o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig;

(d)mewn cysylltiad ag unrhyw waith traffig arbennig o ganlyniad i unrhyw gyfyngiadau cyflymder y gall, ym marn y peiriannydd, fod yn ofynnol eu gosod oherwydd neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig neu drwy amnewid neu ddargyfeirio gwasanaethau a all fod yn rhesymol angenrheidiol am yr un rheswm; ac

(e)mewn cysylltiad ag unrhyw oleuadau dros dro ychwanegol ar eiddo rheilffordd yng nghyffiniau’r gweithfeydd penodedig, sef goleuadau sy’n rhesymol angenrheidiol oherwydd neu o ganlyniad i adeiladu gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig.

21.—(1Yn y paragraff hwn—

ystyr “EMI”, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yw ymyrraeth electromagnetig â chyfarpar Network Rail a achosir gan weithredu’r gweithfeydd alltraeth pan fo’r cyfryw ymyrraeth ar lefel sy’n cael effaith andwyol ar weithrediad diogel cyfarpar Network Rail;

ystyr “cyfarpar Network Rail” yw unrhyw linellau, cylchedau, gwifrau, cyfarpar neu offer (pa un a ydynt wedi eu haddasu neu wedi eu gosod fel rhan o’r gweithfeydd ar y tir ai peidio) sy’n eiddo i Network Rail neu a ddefnyddir gan Network Rail at ddiben darlledu neu dderbyn ynni trydanol signalu radio, telegraffig, teleffonig, trydanol, electronig neu ddull cyffelyb arall o signalu neu ddulliau cyfathrebu eraill.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i EMI dim ond i’r graddau na ellir priodoli’r cyfryw EMI i unrhyw newid yng nghyfarpar Network Rail a wneir ar ôl cymeradwyo’r planiau o dan baragraff 15(1) ar gyfer y rhan berthnasol o’r gweithfeydd ar y tir sy’n achosi EMI (oni bai bod yr ymgymerwr wedi cael ei hysbysu’n ysgrifenedig cyn i’r cynlluniau hynny gael eu cymeradwyo am y bwriad i wneud y cyfryw newid).

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i’r ymgymerwr, wrth ddylunio ac adeiladu’r prosiect awdurdodedig, weithredu pob mesur angenrheidiol i atal EMI a rhaid iddo gadarnhau ar y cyd â Network Rail (y mae’r ddau barti yn gweithredu’n rhesymol) drefniadau priodol i ddilysu eu heffeithiolrwydd.

(4Er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth yr ymgymerwr ag is-baragraff (3)—

(a)rhaid i’r ymgymerwr ymgynghori â Network Rail mor gynnar ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn nodi holl gyfarpar Network Rail a all fod mewn perygl o EMI, ac wedi hynny rhaid iddo barhau i ymgynghori â Network Rail (cyn ac ar ôl i blaniau o dan 15(1) gael eu cyflwyno’n ffurfiol) er mwyn nodi holl achosion posibl EMI a’r mesurau sy’n ofynnol i gael gwared arnynt;

(b)rhaid i Network Rail ddarparu’r holl wybodaeth sydd ym meddiant Network Rail i’r ymgymerwr y mae’r ymgymerwr wedi gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad â chyfarpar Network Rail a nodir yn unol â pharagraff (a); ac

(c)rhaid i Network Rail ganiatáu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr archwilio cyfarpar Network Rail a nodir yn unol â pharagraff (a).

(5Mewn unrhyw achos pan gadarnheir na ellir yn rhesymol atal EMI ond drwy addasiadau i gyfarpar Network Rail, rhaid i Network Rail beidio ag atal yn afresymol ei gydsyniad i addasiadau i gyfarpar Network Rail, ond rhaid i’r modd atal a’r dull o’u cwblhau gael eu dewis yn ôl disgresiwn rhesymol Network Rail, ac mewn perthynas â’r cyfryw addasiadau mae paragraff 15(1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r is-baragraff hwn.

(6Os, ar unrhyw adeg cyn cychwyn gweithrediad rheolaidd y gweithfeydd ar y tir ac er gwaethaf unrhyw fesurau a fabwysiadwyd yn unol ag is-baragraff (3), bydd profi neu gomisiynu’r prosiect awdurdodedig yn achosi EMI, rhaid i’r ymgymerwr ar unwaith ar ôl cael ei hysbysu gan Network Rail am y cyfryw EMI naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar (y cyfryw hysbysiad ar lafar i’w gadarnhau’n ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei roi) beidio â defnyddio (neu beri peidio â defnyddio) cyfarpar yr ymgymerwr sy’n achosi’r cyfryw EMI ar unwaith nes bod pob mesur angenrheidiol wedi cael ei weithredu i unioni’r cyfryw EMI drwy addasu ffynhonnell y cyfryw EMI neu (o dan yr amgylchiadau, ac yn ddarostyngedig i’r cydsyniad a bennir yn is-baragraff (5) i gyfarpar Network Rail).

(7Os bydd EMI wedi digwydd—

(a)rhaid i’r ymgymerwr ddarparu cyfleusterau rhesymol i Network Rail gael mynediad at gyfarpar yr ymgymerwr wrth ymchwilio i’r cyfryw EMI;

(b)rhaid i Network Rail ddarparu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr gael mynediad at gyfarpar Network Rail wrth ymchwilio i’r cyfryw EMI; a

(c)rhaid i Network Rail ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol ychwanegol sydd yn ei feddiant y mae’r ymgymerwr wedi gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad â chyfapar Network Rail neu’r cyfryw EMI.

(8Pan fo Network Rail yn cymeradwyo addasiadau i gyfarpar Network Rail yn unol ag is-baragraffau (5) neu (6)—

(a)rhaid i Network Rail ganiatáu cyfleusterau rhesymol i’r ymgymerwr archwilio’r rhan berthnasol o gyfarpar Network Rail; a

(b)rhaid i unrhyw addasiadau i gyfarpar Network Rail a gymeradwyir yn unol â’r is-baragraffau hynny gael eu cyflawni a’u cwblhau gan yr ymgymerwr yn unol â pharagraff 16.

(9I’r graddau na fyddai’n ei wneud fel arall, mae’r indemniad ym mharagraff 25(1) yn gymwys i gostau a threuliau yr aethpwyd iddynt yn rhesymol neu golledion a achoswyd i Network Rail drwy weithredu darpariaethau’r paragraff hwn (gan gynnwys costau yr aethpwyd iddynt mewn cysylltiad ag ystyried cynigion, cymeradwyo planiau, goruchwylio ac archwilio gweithfeydd a hwyluso mynediad at gyfarpar Network Rail) neu o ganlyniad i unrhyw EMI y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddi.

(10At ddiben paragraff 20(a), bernir bod unrhyw addasiadau i gyfarpar Network Rail o dan y paragraff hwn yn weithfeydd diogelu y cyfeirir atynt yn yr is-baragraff hwnnw.

(11Mewn perthynas ag unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y paragraff hwn, bydd y cyfeiriad yn erthygl 49 (cymrodeddu) at Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn cael ei ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

22.  Os ar unrhyw adeg ar ôl i waith penodedig gael ei gwblhau, nad yw’n waith sydd wedi ei freinio yn Network Rail, bydd Network Rail yn hysbysu’r ymgymerwr bod cyflwr cynnal a chadw unrhyw ran o’r gwaith penodedig yn ymddangos fel pe bai’n cael effaith andwyol ar weithrediad eiddo rheilffordd, rhaid i’r ymgymerwr, ar ôl cael y cyfryw hysbysiad, gymryd y cyfryw gamau ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i roi’r gwaith penodedig hwnnw yn y cyfryw gyflwr cynnal a chadw fel nad yw’n effeithio’n andwyol ar eiddo rheilffordd

23.  Ni chaniateir i’r ymgymerwr ddarparu unrhyw olau nac arwydd na signal goleuedig ar waith penodedig neu mewn cysylltiad â gwaith penodedig yng nghyffiniau unrhyw reilffordd sy’n eiddo i Network Rail oni bai ei fod wedi ymgynghori â Network Rail yn gyntaf a rhaid iddo gydymffurfio â gofynion rhesymol Network Rail o ran atal amryfusedd rhwng y cyfryw olau neu arwydd neu signal goleuedig neu olau arall a ddefnyddir i reoli, cyfarwyddo neu sicrhau diogelwch traffig ar y rheilffordd.

24.  Rhaid i unrhyw dreuliau ychwanegol y gall Network Rail fynd iddynt yn rhesymol wrth newid, ailadeiladu neu gynnal a chadw eiddo rheilffordd o dan unrhyw bwerau sy’n bodoli ar adeg gwneud y Gorchymyn hwn oherwydd bodolaeth gwaith penodedig, cyhyd â bod rhybudd blaenorol o 56 diwrnod am gychwyn y cyfryw newid, ailadeiladu neu gynnal a chadw wedi cael ei roi i’r ymgymerwr, gael eu had-dalu gan yr ymgymerwr i Network Rail.

25.—(1Rhaid i’r ymgymerwr dalu pob cost, tâl, iawndal a thraul resymol i Network Rail na ddarperir ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn y Rhan hon y gellir ei (h)achosi i Network Rail neu y gall Network Rail yn rhesymol fynd iddo neu iddi—

(a)oherwydd adeiladu neu gynnal a chadw gwaith penodedig neu fethiant gwaith penodedig; neu

(b)oherwydd unrhyw weithred neu anwaith gan yr ymgymerwr neu gan unrhyw berson a gyflogir ganddo neu gan ei gontractwr neu eraill tra byddant wedi eu penodi i ymgymryd â gwaith penodedig; a rhaid i’r ymgymerwr indemnio Network Rail a pharhau i indemnio Network Rail rhag ac yn erbyn pob hawliad ac archeb am dâl sy’n codi o ganlyniad i waith penodedig neu mewn cysylltiad â gwaith penodedig neu unrhyw gyfryw fethiant, weithred neu anwaith; ac nid yw’r ffaith y gall unrhyw weithred fod wedi ei chyflawni gan Network Rail ar ran yr ymgymerwr neu yn unol â phlaniau a gymeradwywyd gan y peiriannydd neu yn unol ag unrhyw ofyniad gan y peiriannydd neu o dan oruchwyliaeth y peiriannydd (os y’i cyflawnwyd heb esgeuluster ar ran Network Rail neu unrhyw berson a gyflogir ganddo neu gan ei gontractwyr neu ei asiantau) yn esgusodi’r ymgymerwr rhag unrhyw atebolrwydd o dan y Rhan hon.

(2Rhaid i Network Rail roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw gyfryw hawliad neu archeb am dâl, ac ni chaniateir setlo’r cyfryw hawliad neu archeb am dâl na chyfaddawdu yn ei gylch neu yn ei chylch heb gydsyniad yr ymgymerwr ymlaen llaw.

(3Rhaid i’r symiau sy’n daladwy gan yr ymgymerwr o dan is-baragraff (1) gynnwys swm sy’n hafal i’r costau perthnasol.

(4Yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gytundeb rhwng Network Rail a gweithredwr trenau o ran amseriad neu ddull talu’r costau perthnasol mewn cysylltiad â’r gweithredwr trenau hwnnw, rhaid i Network Rail dalu’n brydlon swm unrhyw symiau y mae Network Rail yn eu derbyn o dan is-baragraff (1) sy’n ymwneud â chostau perthnasol y gweithredwr trenau hwnnw i bob gweithredwr trenau.

(5Mae’r rhwymedigaeth o dan is-baragraff (3) i dalu’r costau perthnasol i Network Rail, os bydd diffyg, yn uniongyrchol orfodadwy gan unrhyw weithredwr trenau dan sylw i’r graddau y byddai’r cyfryw symiau yn daladwy i’r gweithredwr hwnnw yn unol ag is-baragraff (4).

(6Yn y paragraff hwn—

ystyr “costau perthnasol” yw’r costau, y colledion uniongyrchol a’r treuliau (gan gynnwys colli refeniw) y mae pob gweithredwr trenau yn mynd iddynt o ganlyniad i unrhyw gyfyngiad ar y defnydd o rwydwaith rheilffyrdd Network Rail o ganlyniad i adeiladu, cynnal a chadw neu fethiant gwaith penodedig, neu unrhyw gyfryw weithred neu anwaith ag a grybwyllir yn is-baragraff (1);

ystyr “gweithredwr trenau” yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu fel gweithredwr trên drwy drwydded o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.

26.  Rhaid i Network Rail, ar ôl cael cais gan yr ymgymerwr, o bryd i’w gilydd roi amcangyfrifon ysgrifenedig am ddim o’r costau, y taliadau, y treuliau ac atebolrwyddau eraill i’r ymgymerwr y mae’r ymgymerwr neu y bydd yr ymgymerwr yn atebol amdanynt o dan y Rhan hon (gan gynnwys swm y costau perthnasol a grybwyllir ym mharagraff 25) ynghyd â’r cyfryw wybodaeth ag sy’n galluogi’r ymgymerwr yn rhesymol i asesu rhesymoldeb unrhyw gyfryw amcangyfrif neu hawliad a wneir neu sydd i’w wneud yn unol â’r Rhan hon (gan gynnwys unrhyw hawliad sy’n ymwneud â’r costau rhesymol).

27.  Wrth asesu unrhyw symiau sy’n daladwy i Network Rail o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried unrhyw gynnydd yn y symiau a hawlir y gellir ei briodoli i unrhyw gam a gymerir gan Network Rail neu unrhyw gytundeb y mae Network Rail yn ymrwymo iddo os nad oedd y cam hwnnw na’r cytundeb hwnnw yn rhesymol angenrheidiol a bod Network Rail wedi cymryd y cam hwnnw neu wedi ymrwymo i’r cytundeb hwnnw gyda’r bwriad o gael yr ymgymerwr i dalu’r symiau hynny o dan y Rhan hon neu o gynyddu’r symiau sydd felly’n daladwy.

28.  Caiff yr ymgymerwr a Network Rail, yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth Network Rail â thelerau ei drwydded rhwydwaith, ymrwymo i gytundebau, a’u gweithredu, ar gyfer trosglwyddo i’r ymgymerwr—

(a)unrhyw eiddo rheilffordd a ddangosir ar blaniau gweithfeydd a phlan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr;

(b)unrhyw diroedd, gweithfeydd neu eiddo arall a ddelir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfryw eiddo rheilffordd; ac

(c)unrhyw hawliau a rhwymedigaethau (boed yn rhai statudol ai peidio) sydd gan Network Rail sy’n ymwneud ag unrhyw eiddo rheilffordd.

29.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn, nac mewn unrhyw ddeddfiad a gorfforir gyda’r Gorchymyn hwn neu a gymhwysir gan y Gorchymyn hwn, yn rhagfarnu nac yn effeithio ar weithrediad Rhan 1 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993.

30.  Rhaid i’r ymgymerwr, heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr ardystir y planiau gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 46 (ardystio planiau etc), roi set o blaniau i Network Rail sy’n ymwneud â’r gweithfeydd penodedig ar ffurf disg gyfrifiadurol sydd â chof darllen yn unig.

(1)

1993 p. 43. Diwygiwyd adran 8 gan baragraff 4 o Atodlen 17 a Rhan 4 o Atodlen 31 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38), paragraffau 3 a 5 o Atodlen 2 i Ddeddf Rheilffyrdd a Diogelwch Trafnidiaeth 2003 (p. 20) a pharagraff 3 o Atodlen 1 a Rhan 1 o Atodlen 13 i Ddeddf Rheilffyrdd 2005 (p. 14).

(3)

Diffinnir “cytundeb ynglŷn â mynediad” yn adran 83.