Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3, yn lle “28 Mai” rhodder “27 Awst”.

(3Hepgorer Rhan 3A.

(4Ar ôl rheoliad 17(4) mewnosoder—

(4A) Nid yw is-baragraffau (a) a (b)(i) a (ii) o baragraff (1) yn gymwys i—

(a)sinemâu;

(b)meysydd chwaraeon;

(c)theatrau.

(5Yn rheoliad 25(2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), hepgorer “14B,”.

(6Hepgorer rheoliad 29.

(7Hepgorer rheoliad 38.

(8Yn rheoliad 48(1), hepgorer “49A,”.

(9Hepgorer rheoliad 49A.

(10Yn rheoliad 53(1)(c), hepgorer “49A,”.

(11Yn rheoliad 57—

(a)ym mharagraff (4)(b)(ii), ar ôl “cynulliad” mewnosoder “yn y digwyddiad”;

(b)ym mharagraff (7), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “gweithgaredd “wedi ei drefnu”” rhodder “cynulliad yn gynulliad “rheoleiddiedig””;

(c)ym mharagraff (8), ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “gweithgaredd” rhodder “cynulliad”.

(12Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 1(2)(a), ar ôl “11 oed” mewnosoder “, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd”;

(b)ym mharagraff 2—

(i)yn is-baragraff (2)(a), ar ôl 11 oed mewnosoder

, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy nag—

(i)6 aelwyd yn achos cynulliad o dan do, neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig, neu

(ii)30 aelwyd, yn achos cynulliad yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig;

(ii)yn is-baragraff (5)—

(aa)ym mharagraff (i)—

(i)yn y geiriau o flaen isbaragraff (i), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso digwyddiad o’r fath” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do neu’n hwyluso cynulliad o’r fath ac”;

(ii)yn is-baragraff (i), yn lle “fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono” rhodder “yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo”;

(bb)ym mharagraff (j)—

(i)yn y geiriau o flaen isbaragraff (i), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso digwyddiad o’r fath” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf Certified copy from legislation.gov.uk Publishing 6 yn yr awyr agored neu’n hwyluso cynulliad o’r fath ac”;

(ii)yn is-baragraff (i), yn lle “fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono oni bai bod y gweithgaredd” rhodder “yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau ynddo, oni bai bod y cynulliad”;

(cc)ym mharagraff (k), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig, neu hwyluso’r cynulliad hwnnw”.

(c)ym mharagraff 4(3), yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)pan fo—

(i)arddangosiad ffilm,

(ii)perfformiad theatraidd,

(iii)marchnad, neu

(iv)gwasanaeth crefyddol,

yn cael ei gynnal neu ei chynnal mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw neu yn yr awyr agored, nid yw i’w drin neu i’w thrin fel digwyddiad;

(d)nid yw digwyddiad chwaraeon elît i’w drin fel digwyddiad os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.;

(d)ym mharagraff 5—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal.;

(ii)hepgorer is-baragraff (2);

(iii)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(4A) Caiff gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir gan Weinidogion Cymru mewn awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1) addasu rheoliadau 16, 17 a 17A (gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws) am gyfnod penodedig i’r graddau y mae’n gymwys i’r fangre lle y cynhelir y digwyddiad.

(13Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn is-baragraff (1)(b)—

(aa)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “4” rhodder “6”;

(bb)yn is-baragraff (i), ar ôl “11 oed” mewnosoder “, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd”;

(ii)yn is-baragraff (2)—

(aa)ym mharagraff (a), ar ôl “o dan do” mewnosoder “neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig”;

(bb)hepgorer paragraff (aa);

(cc)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.;

(iii)yn is-baragraff (3B), yn lle “is-baragraffau (2)(aa)(i), (2)(b)(ii) a (3A)” rhodder “is-baragraff (3A)”;

(iv)yn is-baragraff (6)(i)—

(aa)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do neu’n hwyluso’r cynulliad hwnnw ac”;

(bb)yn is-baragraff (i), yn lle “fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono” rhodder “yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo”;

(v)yn is-baragraff (6)(j)—

(aa)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r cynulliad hwnnw ac”;

(bb)yn is-baragraff (i), yn lle “fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd” rhodder “yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo, oni bai bod y cynulliad”;

(vi)yn is-baragraff (6)(k), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, neu’n hwyluso’r cynulliad hwnnw”;

(b)ym mharagraff 4(3), yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)pan fo—

(i)arddangosiad ffilm,

(ii)perfformiad theatraidd,

(iii)marchnad, neu

(iv)gwasanaeth crefyddol,

yn cael ei gynnal neu ei chynnal mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw neu yn yr awyr agored, nid yw i’w drin neu i’w thrin fel digwyddiad;

(d)nid yw digwyddiad chwaraeon elît i’w drin fel digwyddiad os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.;

(c)ym mharagraff 5—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal.;

(ii)hepgorer is-baragraff (2);

(iii)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(4A) Caiff gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir gan Weinidogion Cymru mewn awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1) addasu rheoliadau 16, 17 a 17A (gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws) am gyfnod penodedig i’r graddau y mae’n gymwys i’r fangre lle y cynhelir y digwyddiad.

(14Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 2(6)—

(i)ym mharagraff (g)—

(aa)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do neu’n hwyluso’r cynulliad hwnnw ac”;

(bb)yn is-baragraff (i), yn lle “fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono” rhodder “yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo”;

(ii)ym mharagraff (h)—

(aa)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw ac”;

(bb)yn is-baragraff (i), yn lle “fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono” rhodder “yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethu gwirfoddol ynddo”;

(b)ym mharagraff 3(6)—

(i)ym mharagraff (j)—

(aa)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do neu’n hwyluso’r cynulliad hwnnw ac”;

(bb)yn is-baragraff (i), yn lle “fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono” rhodder “yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo”;

(ii)ym mharagraff (k)—

(aa)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw ac”;

(bb)yn is-baragraff (i), yn lle “fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd” rhodder “yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo, oni bai bod y cynulliad”;

(cc)ym mharagraff (l), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig neu’n hwyluso’r cynulliad hwnnw”;

(c)ym mharagraff 5(3), yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)pan fo—

(i)marchnad, neu

(ii)gwasanaeth crefyddol,

yn cael ei chynnal neu ei gynnal mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw neu yn yr awyr agored, nid yw i’w thrin neu i’w drin fel digwyddiad;

(d)nid yw’r canlynol i’w trin fel digwyddiadau—

(i)arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;

(ii)perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;

(iii)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.;

(d)ym mharagraff 6—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal.;

(ii)hepgorer is-baragraff (2);

(iii)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(4A) Caiff gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir gan Weinidogion Cymru mewn awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1) addasu rheoliadau 16, 17 a 17A (gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws) am gyfnod penodedig i’r graddau y mae’n gymwys i’r fangre lle y cynhelir y digwyddiad.;

(e)ym mharagraff 9(4), yn lle “gweithgaredd wedi ei drefnu” rhodder “cynulliad rheoleiddiedig”;

(f)yn lle paragraff 10 rhodder—

Esemptiad rhag y gofyniad i gau: lleoliadau ar gyfer priodasau a dathliadau o fywydau pobl ymadawedig

10.  Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—

(a)caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd—

(i)i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre, neu ddathlu digwyddiad o’r fath yn y fangre;

(ii)at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath;

(b)caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer dathlu bywyd person ymadawedig agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol ar gyfer dathliad o’r fath yn y fangre.

(15Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 1(4)(f)—

(i)ym mharagraff (ii), hepgorer “neu” ar y diwedd;

(ii)ym mharagraff (iii), yn lle “;” rhodder “, neu”;

(iii)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

(iv)gydag 1 person arall nad yw’n aelod o aelwyd neu aelwyd estynedig y person nac yn ofalwr y person, ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall;;

(b)ym mharagraff 2(4)(i)—

(i)ym mharagraff (i), mewnosoder “neu” ar y diwedd;

(ii)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ii)gydag 1 person arall ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall,;

(c)ym mharagraff 4(3), yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)pan fo—

(i)marchnad, neu

(ii)gwasanaeth crefyddol,

yn cael ei chynnal neu ei gynnal mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw neu yn yr awyr agored, nid yw i’w thrin neu i’w drin fel digwyddiad.

(16Yn Atodlen 5, paragraff 1, yng Ngholofn 3 o’r tabl, yn lle “3” rhodder “2”.

(17Hepgorer Atodlen 5A.