Enwi, cychwyn a dehongliI11
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “contract cyfyngedig” yr un ystyr ag a roddir i “restricted contract” yn Neddf 1977;
mae i “contract diogel wedi ei drosi” (“converted secure contract”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn Neddf 2016 (gweler paragraff 1(1) o Atodlen 12 i Ddeddf 2016);
mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn Neddf 2016 (gweler adran 7 o Ddeddf 2016);
ystyr “Deddf 1977” (“1977 Act”) yw Deddf Rhenti 19772;
ystyr “Deddf 1985” (“1985 Act”) yw Deddf Tai 19853;
ystyr “Deddf 1986” (“1986 Act”) yw Deddf Ansolfedd 19864;
ystyr “Deddf 1988” (“1988 Act”) yw Deddf Tai 19885;
ystyr “Deddf 1989” (“1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 19896;
ystyr “Deddf 1996” (“1996 Act”) yw Deddf Tai 19967;
ystyr “Deddf 2004” (“2004 Act”) yw Deddf Tai 20048;
ystyr “Deddf 2014” (“2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 20149;
ystyr “Deddf 2016” (“2016 Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
ystyr “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yw’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 257 o Ddeddf 2016 fel y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf honno i rym;
ystyr “Gorchymyn 1988” (“1988 Order”) yw Gorchymyn Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Gwybodaeth am Rent) 198810;
ystyr “Gorchymyn 1997” (“1997 Order”) yw Gorchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) 199711;
ystyr “Gorchymyn 2013” (“2013 Order”) yw Gorchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Credyd Cynhwysol) 201312;
ystyr “Rheoliadau 1985” (“1985 Regulations”) yw Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Cynllun Hawl i Atgyweirio) 198513;
ystyr “Rheoliadau 1994” (“1994 Regulations”) yw Rheoliadau Tenantiaid Diogel Awdurdodau Lleol (Digolledu am Welliannau) 199414;
ystyr “Rheoliadau Canlyniadol 2022” (“2022 Consequential Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 202215;
ystyr “Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022” (“2022 Secondary Consequential Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 202216;
mae i “tenantiaeth fyrddaliol warchodedig” yr un ystyr ag a roddir i “protected shorthold tenancy” yn Neddf 1977.