Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022

Enwi, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2022.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “contract cyfyngedig” yr un ystyr ag a roddir i “restricted contract” yn Neddf 1977;

mae i “contract diogel wedi ei drosi” (“converted secure contract”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn Neddf 2016 (gweler paragraff 1(1) o Atodlen 12 i Ddeddf 2016);

mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn Neddf 2016 (gweler adran 7 o Ddeddf 2016);

ystyr “Deddf 1977” (“1977 Act”) yw Deddf Rhenti 1977(1);

ystyr “Deddf 1985” (“1985 Act”) yw Deddf Tai 1985(2);

ystyr “Deddf 1986” (“1986 Act”) yw Deddf Ansolfedd 1986(3);

ystyr “Deddf 1988” (“1988 Act”) yw Deddf Tai 1988(4);

ystyr “Deddf 1989” (“1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(5);

ystyr “Deddf 1996” (“1996 Act”) yw Deddf Tai 1996(6);

ystyr “Deddf 2004” (“2004 Act”) yw Deddf Tai 2004(7);

ystyr “Deddf 2014” (“2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014(8);

ystyr “Deddf 2016” (“2016 Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

ystyr “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yw’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 257 o Ddeddf 2016 fel y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf honno i rym;

ystyr “Gorchymyn 1988” (“1988 Order”) yw Gorchymyn Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Gwybodaeth am Rent) 1988(9);

ystyr “Gorchymyn 1997” (“1997 Order”) yw Gorchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) 1997(10);

ystyr “Gorchymyn 2013” (“2013 Order”) yw Gorchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Credyd Cynhwysol) 2013(11);

ystyr “Rheoliadau 1985” (“1985 Regulations”) yw Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Cynllun Hawl i Atgyweirio) 1985(12);

ystyr “Rheoliadau 1994” (“1994 Regulations”) yw Rheoliadau Tenantiaid Diogel Awdurdodau Lleol (Digolledu am Welliannau) 1994(13);

ystyr “Rheoliadau Canlyniadol 2022” (“2022 Consequential Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022(14);

ystyr “Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022” (“2022 Secondary Consequential Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022(15);

mae i “tenantiaeth fyrddaliol warchodedig” yr un ystyr ag a roddir i “protected shorthold tenancy” yn Neddf 1977.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)