xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1172 (Cy. 242)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022

Gwnaed

am 4.05 p.m. ar 9 Tachwedd 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Tachwedd

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 255(1)(b) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).

Enwi, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2022.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “contract cyfyngedig” yr un ystyr ag a roddir i “restricted contract” yn Neddf 1977;

mae i “contract diogel wedi ei drosi” (“converted secure contract”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn Neddf 2016 (gweler paragraff 1(1) o Atodlen 12 i Ddeddf 2016);

mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag a roddir iddo yn Neddf 2016 (gweler adran 7 o Ddeddf 2016);

ystyr “Deddf 1977” (“1977 Act”) yw Deddf Rhenti 1977(2);

ystyr “Deddf 1985” (“1985 Act”) yw Deddf Tai 1985(3);

ystyr “Deddf 1986” (“1986 Act”) yw Deddf Ansolfedd 1986(4);

ystyr “Deddf 1988” (“1988 Act”) yw Deddf Tai 1988(5);

ystyr “Deddf 1989” (“1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(6);

ystyr “Deddf 1996” (“1996 Act”) yw Deddf Tai 1996(7);

ystyr “Deddf 2004” (“2004 Act”) yw Deddf Tai 2004(8);

ystyr “Deddf 2014” (“2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014(9);

ystyr “Deddf 2016” (“2016 Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

ystyr “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yw’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 257 o Ddeddf 2016 fel y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf honno i rym;

ystyr “Gorchymyn 1988” (“1988 Order”) yw Gorchymyn Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Gwybodaeth am Rent) 1988(10);

ystyr “Gorchymyn 1997” (“1997 Order”) yw Gorchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) 1997(11);

ystyr “Gorchymyn 2013” (“2013 Order”) yw Gorchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Credyd Cynhwysol) 2013(12);

ystyr “Rheoliadau 1985” (“1985 Regulations”) yw Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Cynllun Hawl i Atgyweirio) 1985(13);

ystyr “Rheoliadau 1994” (“1994 Regulations”) yw Rheoliadau Tenantiaid Diogel Awdurdodau Lleol (Digolledu am Welliannau) 1994(14);

ystyr “Rheoliadau Canlyniadol 2022” (“2022 Consequential Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022(15);

ystyr “Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022” (“2022 Secondary Consequential Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022(16);

mae i “tenantiaeth fyrddaliol warchodedig” yr un ystyr ag a roddir i “protected shorthold tenancy” yn Neddf 1977.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 1LL+CAchosion Adennill Meddiant

Tenantiaethau diogelLL+C

2.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 83(1)(17) (achosion adennill meddiant neu derfynu: gofynion hysbysu cyffredinol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 83ZA(2)(18) (gofynion hysbysu mewn perthynas ag achos adennill meddiant ar sail absoliwt oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

(c)adran 83A(1)(19) (gofynion ychwanegol mewn perthynas ag achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

(d)adran 83A(2)(20), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

(e)adran 83A(3)(21), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(f)adran 83A(4)(22) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a ychwanegir Sail 2A o Atodlen 2 i Ddeddf 1985 at yr hysbysiad hwnnw cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

(g)adran 83A(5)(23), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(h)adran 84(1)(24) (seiliau meddiant a gorchmynion adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(i)adran 84(2)(25), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(j)adran 84(3)(26), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(k)adran 84(4)(27), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83(3) o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(l)adran 84A(1) i (9)(28) (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(m)adran 85(29) (disgresiwn estynedig y llys mewn achosion adennill meddiant penodol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(n)adran 85ZA(1) a (2)(30) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant ar sail absoliwt am ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig;

(o)adran 85ZA(3) i (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

(p)adran 85A(31) (achosion adennill meddiant ar seiliau nad ydynt yn rhai absoliwt: ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(q)Atodlen 2(32) (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo;

(r)Atodlen 2A(33) (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol: troseddau difrifol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022—

(a)mae adran 83(3)(b) ac 83(4)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “twelve months after the date so specified, or six months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “twelve months after the date so specified”,

(b)mae adran 83ZA(9)(b) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith, ond fel pe bai “12 months after the date so specified, or 6 months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “12 months after the date so specified”, ac

(c)mae cyfeiriad at adeg pan fo’r hysbysiad yn parhau i fod mewn grym yn adran 83A(1) a (2) o Ddeddf 1985 (fel y’i harbedir gan baragraff (1)(c) a (d) o’r rheoliad hwn) i’w ddarllen yn unol â hynny.

(3Mae paragraff (2) o’r rheoliad hwn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

(4Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys yn unol ag adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(5Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022 a Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Sail Absoliwt ar gyfer Meddiannu am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) (Y Weithdrefn Adolygu) (Cymru) 2014(34) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 85ZA o Ddeddf 1985 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(6Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 82(2)(35) o Ddeddf 1985 (diogelwch deiliadaeth) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 84 neu 84A o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig.

(7Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 83 neu 83ZA o Ddeddf 1985 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(8Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 83(1)(b) o Ddeddf 1985 yn gymwys iddo yn cael effaith pa un a oedd y llys wedi hepgor y gofyniad i gyflwyno hysbysiad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Tenantiaethau sicrLL+C

3.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 7(36) (gorchmynion adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8(37) o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(b)adran 8(1)(38) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

(c)adran 8(2), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

(d)adran 8(5)(39), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig pan na fo’r llys hyd hynny wedi arfer ei bŵer a roddir gan adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988;

(e)adran 8A(1)(40) (gofynion hysbysu ychwanegol: sail trais domestig), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig;

(f)adran 8A(2) a (3), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig (pa un a ychwanegir Sail 14A cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

(g)adran 9(41) (disgresiwn estynedig y llys mewn hawliadau meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(h)adran 9A(42) (achos adennill meddiant ar seiliau nad ydynt yn rhai absoliwt: ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(i)adran 10(2) (darpariaethau arbennig sy’n gymwys i lety a rennir), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(j)adrannau 11 (talu costau symud dodrefn mewn achosion penodol) a 12 (digolledu am gamliwio neu gelu), mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn);

(k)adran 21(1)(43) (adennill meddiant pan fo tenantiaeth fyrddaliol sicr yn dod i ben neu’n cael ei therfynu), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r is-adran honno cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (5));

(l)adran 21(4)(44), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r is-adran honno cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (5));

(m)adran 21(5)(45) a (5A)(46), mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan is-adran (1) neu (4) o’r adran honno ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn);

(n)Atodlen 2(47) (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022—

(a)mae adran 8(3)(c) o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig, ond fel pe bai “twelve months from the date of service of the notice, or six months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “twelve months from the date of service of the notice”, a

(b)mae cyfeiriad at y terfynau amser a nodir yn yr hysbysiad yn adran 8(1)(a) (fel y’i harbedir gan baragraff (1)(b) o’r rheoliad hwn) i’w ddarllen yn unol â hynny.

(3Mae paragraff (2) o’r rheoliad hwn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig.

(4Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 7 neu 21 o Ddeddf 1988 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(5Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

(b)ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y mae adennill meddiant yn ofynnol yn unol ag adran 21(1)(b) neu (4)(a) o Ddeddf 1988,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(6Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 5(1A)(48) o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 7 neu 21 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig.

(7Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 neu 21 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(8Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo yn cael effaith pa un a oedd y llys wedi hepgor y gofyniad i gyflwyno hysbysiad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Tenantiaethau rhagarweiniolLL+C

4.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 127(2)(49) (achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 128(1) a (5) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

(c)adran 129(1) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

(d)adran 129(2), (5) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad, neu pa un a gynhaliwyd yr adolygiad, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

(e)adran 130(1) i (3)(50) (effaith dechrau achos adennill meddiant), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ar gyfer adennill meddiant o dŷ annedd a osodwyd o dan denantiaeth ragarweiniol a ddaeth i ben cyn y diwrnod hwnnw yn unol â’r adran honno.

(2Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 127 o Ddeddf 1996 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(3Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 127(1) ac (1A) o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan yr adran honno cyn y diwrnod penodedig.

(4Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaid Rhagarweiniol (Adolygu) 1997(51) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 129 o Ddeddf 1996 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(5Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant o dan adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

(b)ar ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y caniateir dechrau achos ar ei ôl yn unol ag adran 128(4) o Ddeddf 1996,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

(6Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Tenantiaethau israddLL+C

5.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 143D(2)(52) (achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E(53) cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 143E(1) a (4) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig;

(c)adran 143F(1)(54) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig;

(d)adran 143F(2), (5) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad, neu pa un a gynhaliwyd yr adolygiad, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

(e)adran 143G(55) (effaith achos adennill meddiant), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ar gyfer adennill meddiant o dŷ annedd a osodwyd o dan denantiaeth isradd a ddaeth i ben cyn y diwrnod hwnnw yn unol â’r adran honno.

(2Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 143D(2) o Ddeddf 1996 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(3Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 143D(1) ac (1A) o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan yr adran honno cyn y diwrnod penodedig.

(4Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Isradd (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2005(56) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan adran 143F o Ddeddf 1996 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiadau, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(5Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant o dan adran 143E o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

(b)ar ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y caniateir dechrau achos ar ei ôl yn unol ag adran 143E(2)(c) o Ddeddf 1996,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

(6Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 143E o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CEstyn y cyfnod rhagarweiniol

Adolygiad o benderfyniad i estyn y cyfnod rhagarweiniolLL+C

6.—(1Mae cais am adolygiad a wnaed yn unol ag adran 125B(57) o Ddeddf 1996 (adolygiad o benderfyniad i estyn y cyfnod prawf) cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan baragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2016 (adolygiad y landlord o benderfyniad i estyn tenantiaeth ragarweiniol).

(2Mae adolygiad a gychwynnwyd o dan adran 125B o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig (pa un a’i cwblhawyd cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw) i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal o dan baragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2016.

(3Mae hysbysiad a roddwyd gan y landlord o dan adran 125B(5) o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig i gael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan baragraff 4(5) o Atodlen 4 i Ddeddf 2016 (ac mae paragraff 5 o Atodlen 4 (adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn) yn gymwys i hysbysiad o dan adran 125B(5) o Ddeddf 1996 sy’n cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol, neu i fethu â rhoi hysbysiad yn unol â’r adran honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Gweithdrefn adolygu penderfyniad i estyn y cyfnod rhagarweiniolLL+C

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i adolygiad a gychwynnwyd o dan adran 125B o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig (pa un a’i cwblhawyd cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw).

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006(58) yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiadau y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.

(3Nid yw rheoliadau a wnaed o dan baragraff 4(7) o Atodlen 4 i Ddeddf 2016 yn cael effaith mewn perthynas ag adolygiadau y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CBlaendaliadau tenantiaeth

Darpariaethau trosiannol: cynlluniau blaendalLL+C

8.  Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn cael effaith mewn perthynas â blaendal tenantiaeth a dalwyd yn unol â Phennod 4 o Ran 6(59) o Ddeddf 2004 (cynlluniau blaendal tenantiaeth) cyn y diwrnod penodedig mewn perthynas â thenantiaeth a ddaeth yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod hwnnw, fel y maent yn gymwys i flaendal a dalwyd gan, neu ar ran, deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth—

(a)adrannau 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) a 46(60) (cynlluniau blaendal: darpariaeth bellach);

(b)Atodlen 5 (cynlluniau blaendal: darpariaeth bellach);

(c)paragraff 4 o Atodlen 9A(61) (contractau safonol: cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, o dan adran 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Achosion sy’n ymwneud â blaendaliadau tenantiaethLL+C

9.  Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 214(2), (2A), (3), (3A), (4) a (5)(62) o Ddeddf 2004 (achosion sy’n ymwneud â blaendaliadau tenantiaeth) yn parhau i gael effaith, fel yr oedd yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â cheisiadau a wnaed i’r llys sirol o dan yr adran honno cyn y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CPennu’r Rhent

Pennu’r RhentLL+C

10.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 13(4)(63) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

(b)adran 14(64) (pennu’r rhent gan dribiwnlys) (heblaw is-adran (6)), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 13 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wneir y cais o dan adran 13(4)(a) cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

(c)adran 22(3), (4)(a) a (b), a (5)(65) (atgyfeirio rhenti gormodol i’r tribiwnlys priodol), mewn perthynas â chais a wnaed o dan is-adran (1) o’r adran honno cyn y diwrnod penodedig.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971(66) yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â phenderfynu cais a wneir neu a atgyfeirir o dan adran 6(67) (pennu telerau tenantiaeth gyfnodol statudol), 13(68) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) neu 22(69) (atgyfeirio rhenti gormodol i’r tribiwnlys priodol) o Ddeddf 1988 (pa un a gynhelir y cais, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(3Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Gorchymyn 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oedd yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â phenderfyniad sy’n dod o fewn erthygl 2 o Orchymyn 1988 (pa un a gynhelir y penderfyniad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(4Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997(70) yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, i’r graddau y maent yn rhagnodi—

(a)y ffurflen i’r tenant wneud cais o dan adran 13(4)(a) o Ddeddf 1988 (Ffurflen 5), a

(b)y ffurflen ar gyfer cais o dan adran 6(3)(a)(71) o Ddeddf 1988 (pennu telerau tenantiaeth gyfnodol statudol) (Ffurflen 2).

(5Mae amrywio’r rhent o dan adran 13, 14 neu 22 o Ddeddf 1988 sy’n digwydd ar ôl y diwrnod penodedig yn rhinwedd yr arbedion a wneir gan y rheoliad hwn i’w drin fel amrywio’r rhent o dan adran 104 neu 123 o Ddeddf 2016 (amrywio’r rhent) at ddiben paragraff 14(2) o Atodlen 12 (amrywio) i Ddeddf 2016.

[F1(6) Mae paragraffau 15(1) a 15(1A) o Atodlen 12 i Ddeddf 2016 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau rhent sy’n digwydd ar ôl y diwrnod penodedig yn rhinwedd yr arbedion a wneir gan y rheoliad hwn, fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CGwelliannau

Darpariaethau arbed: gwelliannau tenant diogelLL+C

11.—(1Mae’r darpariaethau yn y rheoliad hwn yn cael effaith er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022 a Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022.

(2Mae adrannau 97(1) a (3)(72) (cydsyniad yn ofynnol ar gyfer gwelliannau gan denant), 98 (darpariaethau o ran cydsyniadau sy’n ofynnol gan adran 97), 99 (cydsyniad amodol ar gyfer gwelliannau) a 100(73) (pŵer i ad-dalu cost gwelliannau tenant) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig mewn perthynas â chontract diogel wedi ei drosi, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod hwnnw mewn perthynas â thenantiaeth ddiogel, ond dim ond pan fo cais am gydsyniad i wella wedi ei wneud gan y tenant cyn y diwrnod penodedig (pa un a roddir cydsyniad o’r fath cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol: digolledu am welliannauLL+C

12.—(1Mae adran 99B(74) o Ddeddf 1985 (personau sy’n gymwys ar gyfer digollediad) a Rheoliadau 1994 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â gwelliannau a wnaed gan denant o dan denantiaeth ddiogel o dan adran 99A o Ddeddf 1985 a ddaeth i ben cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed cais am ddigollediad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

(2Heb leihau effaith paragraff (1), pan fo cais am gydsyniad i wella wedi ei wneud gan y tenant cyn y diwrnod penodedig (pa un a roddir cydsyniad o’r fath cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw), mae adran 99B o Ddeddf 1985 a Rheoliadau 1994 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig mewn perthynas â chontract diogel wedi ei drosi, ond fel pe bai—

(a)cyfeiriad at gontract diogel yn dod i ben yn gyfeiriad at gontract diogel wedi ei drosi yn dod i ben ar ôl y diwrnod penodedig,

(b)adran 99B(2)(b) i (f) a (3) o Ddeddf 1985 wedi ei hepgor (a Rheoliadau 1994 wedi eu dehongli yn unol â hynny), ac

(c)rheoliad 3(2) o Reoliadau 1994 wedi ei hepgor.

(3Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r contract diogel wedi ei drosi yn dod i ben ar ôl y diwrnod penodedig oherwydd—

(a)bod y Llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar un neu ragor o’r seiliau yn adran 157 (tor contract) neu 160 (seiliau rheoli ystad) o Ddeddf 2016, neu

(b)bod y contract yn peidio â bod yn gontract diogel yn rhinwedd adran 116 o Ddeddf 2016 (gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Darpariaethau trosiannol: cynllun hawl i atgyweirioLL+C

13.—(1Pan fo’r tenant, cyn y diwrnod penodedig, wedi cyflwyno hysbysiad yn hawlio’r hawl i atgyweirio o dan baragraff 3 o’r Atodlen i Reoliadau 1985 (hysbysiad tenant yn hawlio’r hawl i atgyweirio), mae Rheoliadau 1985 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod hwnnw yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Pan fo’n briodol i roi effaith i’r rheoliad hwn, mae Rheoliadau 1985 i’w darllen fel pe bai “or contract holder (within the meaning given by section 7 (see also section 48) of the Renting Homes (Wales) Act 2016) under a secure contract (within the meaning given by section 8 of the Renting Homes (Wales) Act 2016)” wedi ei fewnosod ar ôl “secure tenant”, ym mhob lle y mae’n digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CDeddf Rhenti 1977

Darpariaethau arbed: tenantiaethau byrddaliol gwarchodedig a chontractau cyfyngedigLL+C

14.  Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1977 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)Rhan 3(75) o Ddeddf 1977 (rhenti o dan denantiaethau rheoleiddiedig), mewn perthynas â chontract meddiannaeth a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol warchodedig;

(b)Rhan 5(76) o Ddeddf 1977 (rhenti o dan gontractau cyfyngedig), mewn perthynas â chontract meddiannaeth a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn gontract cyfyngedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 7LL+CYstad methdalwr

Darpariaethau arbed: diffiniad o ystad methdalwr: meddianaethau amaethyddol sicrLL+C

15.  Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 283(77) o Ddeddf 1986 (diffiniad o ystad methdalwr) yn parhau i gael effaith, fel yr oedd yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â chontract meddiannaeth a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn feddiannaeth amaethyddol sicr o fewn ystyr Rhan 1(78) o Ddeddf 1988 (llety rhent).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 8LL+CDigartrefedd

Darpariaeth drosiannol: tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefeddLL+C

16.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan, cyn y diwrnod penodedig—

(a)bo gan awdurdod tai lleol ddyletswydd o dan adran 75 o Ddeddf 2014 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben) i sicrhau bod llety addas ar gael i’w feddiannu gan berson o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3) o’r adran honno; a

(b)nad yw dyletswydd yr awdurdod tai lleol o dan adran 75 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r person hwnnw wedi dod i ben yn unol ag adran 76 o Ddeddf 2014 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben).

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, bernir bod y cyfnod hysbysu o 12 mis ym mharagraff 12 o Atodlen 2 i Ddeddf 2016 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd) yn cychwyn ar y diwrnod penodedig.

(3Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i baragraff 12(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 9LL+CSwyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol

Darpariaeth drosiannol: swyddogaethau budd-dal tai: pennu lwfans tai lleolLL+C

17.—(1At ddiben pennu lwfans tai lleol o dan erthygl 4B(79) o Orchymyn 1997 ac Atodlen 3B(80) (pennu ardaloedd marchnad rentu eang a phennu lwfans tai lleol) iddo, am ba hyd bynnag y mae’n angenrheidiol cyfeirio at renti sy’n daladwy cyn y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf 2016 i rym, bernir mai gwerth y rhent a fyddai, ym marn y swyddog rhenti, wedi bod yn daladwy am gategori o annedd, a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 3B i Orchymyn 1997, yng Nghymru a osodir o dan denantiaeth sicr, yw’r rhent a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r categori perthnasol o annedd a osodir o dan gontract diogel neu safonol perthnasol.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “contract diogel neu safonol perthnasol” yw contract diogel neu safonol nad yw’r landlord yn bodloni amod y landlord yn adran 80(81) o Ddeddf 1985 mewn perthynas ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol: swyddogaethau credyd cynhwysol: pennu lwfans tai lleolLL+C

18.—(1At ddiben pennu lwfans tai lleol o dan erthygl 4(82) o Orchymyn 2013 ac Atodlen 1(83) (pennu lwfans tai lleol) iddo, am ba hyd bynnag y mae’n angenrheidiol cyfeirio at renti sy’n daladwy cyn y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf 2016 i rym, bernir mai gwerth y rhent a fyddai, ym marn y swyddog rhenti, wedi bod yn daladwy am gategori o annedd, a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2013, yng Nghymru a osodir o dan denantiaeth sicr, yw’r rhent a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r categori perthnasol o annedd a osodir o dan gontract diogel neu safonol perthnasol.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “contract diogel neu safonol perthnasol” yw contract diogel neu safonol nad yw’r landlord yn bodloni amod y landlord yn adran 80(84) o Ddeddf 1985 mewn perthynas ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 10LL+CCyffredinol

Darpariaeth arbed gyffredinolLL+C

19.  Mae unrhyw ddarpariaeth a arbedir gan y Rheoliadau hyn yn cynnwys, i’r graddau y mae’n ofynnol ar gyfer gweithrediad y ddarpariaeth a arbedir, arbed unrhyw ddarpariaeth arall sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol mewn perthynas â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”).

Mae rheoliadau 2 i 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag achosion adennill meddiant. Mae rheoliad 2 yn gymwys i denantiaethau diogel, rheoliad 3 yn gymwys i denantiaethau sicr, rheoliad 4 yn gymwys i denantiaethau rhagarweiniol a rheoliad 5 yn gymwys i denantiaethau isradd.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag estyn cyfnod rhagarweiniol. Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adolygiad o’r penderfyniad i estyn y cyfnod rhagarweiniol. Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r weithdrefn ar gyfer adolygu penderfyniad i estyn y cyfnod rhagarweiniol pan fo’r adolygiad, o dan adran 125B o Ddeddf Tai 1996, wedi dechrau cyn y diwrnod penodedig (pa bryd bynnag y daw i ben). Y diwrnod penodedig yw’r diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru fel y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf 2016 i rym. Mae rheoliad 7 hefyd yn darparu bod Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiadau y mae rheoliad 7 yn gymwys iddynt.

Mae rheoliadau 8 a 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â blaendaliadau tenantiaeth. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â blaendal tenantiaeth a dalwyd yn unol â Phennod 4 o Ran 6 o Ddeddf Tai 2004 (“Deddf 2004”) cyn y diwrnod penodedig pan fo’r denantiaeth fyrddaliol y talwyd y blaendal hwnnw mewn cysylltiad â hi yn trosi i fod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod hwnnw. Mae rheoliad 9 yn darparu bod darpariaethau penodol o Ddeddf 2004 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â cheisiadau a wnaed i’r llys sirol cyn y diwrnod penodedig.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phennu rhent o dan Ddeddf Tai 1988 ac yn darparu bod Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971, Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997 a Gorchymyn Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Gwybodaeth am Rent) 1998 yn parhau i gael effaith fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig o dan amgylchiadau penodedig.

Mae rheoliadau 11 i 13 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwelliannau. Mae rheoliad 11 yn gwneud arbedion mewn cysylltiad â gwelliannau a wnaed gan denant diogel o dan Ddeddf Tai 1985. Mae rheoliad 12 yn gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â gwelliannau a wnaed gan denant o dan denantiaeth ddiogel a ddaeth i ben cyn y diwrnod penodedig. Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â chynllun hawl tenant diogel i atgyweirio pan fo’r tenant wedi cyflwyno hysbysiad cyn y diwrnod penodedig o dan baragraff 3 o’r Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Diogel (Cynllun Hawl i Atgyweirio) 1985.

Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth arbed ar gyfer contractau cyfyngedig a thenantiaethau byrddaliol gwarchodedig sy’n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig.

Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth arbed ynghylch y diffiniad o ystad methdalwr mewn perthynas â meddianaethau amaethyddol sicr sy’n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig.

Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r cyfnod hysbysu ym mharagraff 12 o Atodlen 2 i Ddeddf 2016 ar gyfer tenantiaethau a thrwyddedau na chyflawnwyd dyletswydd awdurdod tai lleol o dan adran 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 mewn perthynas â hwy cyn y diwrnod penodedig.

Mae rheoliad 17 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â phennu lwfans tai lleol o dan erthygl 4B o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) 1997, ac Atodlen 3B iddo.

Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â phennu lwfans tai lleol o dan erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Credyd Cynhwysol) 2013 ac Atodlen 1 iddo.

Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth arbed gyffredinol.

Gwneir y Rheoliadau hyn i roi effaith lawn i Ddeddf 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.

(17)

Amnewidiwyd adran 83 gan adran 147(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), diwygiwyd y pennawd ac is-adran (1) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraff 7(1), (2) a (4) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 83 o Ddeddf 1985 nad yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(18)

Mewnosodwyd adran 83ZA gan adran 95 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12).

(19)

Amnewidiwyd adran 83A gan adran 147(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(20)

Diwygiwyd adran 83A(2) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1), (2) a (3) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(21)

Diwygiwyd adran 83A(3) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(22)

Diwygiwyd adran 83A(4) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1) a (5) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(23)

Diwygiwyd adran 83A(5)gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 8(1), (5) a (6) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(24)

Diwygiwyd adran 84(1) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 9(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, adran 155(2) o Ran 7 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) ac adran 118 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22), a pharagraffau 2 a 9 o Atodlen 7 iddi.

(25)

Diwygiwyd adran 84(2) gan adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 9(1) a (3) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(26)

Amnewidiwyd adran 84(3) gan adran 147(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) ac fe’i diwygiwyd gan adran 181 oDdeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 9(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(27)

Amnewidiwyd adran 84(4) gan adran 147(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(28)

Mewnosodwyd adran 84A gan adran 94(1) o Ran 5 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a diwygiwyd is-adran (5) gan adran 410 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) a pharagraff 84 o Ran 1 o Atodlen 24 iddi.

(29)

Diwygiwyd adran 85 gan adran 66(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 53(2) a (3) o Atodlen 8 iddi ac adrannau 299 a 321(1) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 1 a 3 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, ac Atodlen 16 iddi.

(30)

Mewnosodwyd adran 85ZA gan adran 96 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12).

(31)

Mewnosodwyd adran 85A gan adran 16(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan adran 181 oDdeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), a pharagraff 10 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(32)

Diwygiwyd Atodlen 2 gan adrannau 144, 145 a 146 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), adran 83(6) o Ddeddf Tai 1988 (p. 50), adran 222 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a pharagraffau 9 ac 16 o Atodlen 22 iddi, adrannau 98(1) a 99(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), adran 111 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 45 o Ran 3 o Atodlen 7 iddi, adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 33 o Atodlen 8 iddi, adran 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) a Rhan 4 o Atodlen 18 iddi, rheoliad 41(a) o Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458) a pharagraff 10 o Ran 1 o Atodlen 3 iddynt ac erthygl 4 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2008 (O.S. 2008/3002) a pharagraffau 2 a 29 o Atodlen 1 iddo.

(33)

Mewnosodwyd Atodlen 2A gan adran 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) ac Atodlen 3 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan adran 70 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (p. 17) a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi ac erthygl 2 o Orchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/173 (Cy. 74)).

(35)

Amnewidiwyd adran 82(2) gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi ac fe’i diwygiwyd gan adran 119 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22). Mewnosodwyd is-adran (A1) gan adran 119 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a mewnosodwyd is-adran (1A) gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 a pharagraffau 1 a 2 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(36)

Diwygiwyd adran 7 gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 101 o Atodlen 11 iddi, adran 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19), adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraff 18 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, adran 162(4) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) ac adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 a 7 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(37)

Diwygiwyd adran 8 gan adran 151 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), adran 97 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), ac adran 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19).

(38)

Diwygiwyd adran 8(1) gan adran 151(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(39)

Diwygiwyd is-adran 8(5) gan adran 97 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) ac adran 41(4) o Ran 2 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19).

(40)

Mewnosodwyd adran 8A gan adran 150 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(41)

Diwygiwyd adran 9 gan adrannau 299 a 321 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 ac 8 o Ran 1 o Atodlen 11 ac Atodlen 16 iddi ac adran 66(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 59(3) o Atodlen 8 iddi.

(42)

Mewnosodwyd adran 9A gan adran 16(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan adran 181 oDdeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraff 19 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(43)

Diwygiwyd adran 21(1) gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 103 o Atodlen 11 iddi ac adran 98(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(44)

Diwygiwyd adran 21(4) gan adran 98(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(45)

Mewnosodwyd adran 21(5) gan adran 99 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(46)

Mewnosodwyd adran 21(5A) gan adran 15(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38).

(47)

Diwygiwyd Atodlen 2 gan adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 43 o Atodlen 8 iddi, adran 138 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraffau 108 a 109 o Atodlen 11 iddi, adran 60(2)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p. 19) a pharagraff 10 o Ran 2 o Atodlen 8 iddi, adrannau 101, 102, 148, 149 a 277 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a Rhan 9 o Atodlen 19 iddi, adran 6(2) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17) a pharagraff 28 o Atodlen 5 iddi, adran 111 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 46 o Ran 3 o Atodlen 7 iddi, adrannau 162 a 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a Rhan 23 o Atodlen 25 iddi, adrannau 97(1), 98(2) a 99(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), adran 410 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) a pharagraff 97 o Ran 1 o Atodlen 24 iddi, adran 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19), erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Darpariaethau Canlyniadol) 1996 (O.S. 1996/2325) a pharagraff 18 o Atodlen 2 iddo, erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2010 (O.S. 2010/866) a pharagraffau 18, 63 a 74 o Atodlen 2 iddo, rheoliad 41(a) o Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458) a pharagraff 12 o Ran 1 o Atodlen 3 iddynt, rheoliad 8 o Reoliadau Deddf Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) 2020 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Arbed, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Darfodol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1309).

(48)

Amnewidiwyd adran 5(1A) gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 a 6 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(49)

Diwygiwyd adran 127 gan adrannau 299 a 321 oDdeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 10 ac 11 o Ran 1 o Atodlen 11 ac Atodlen 16 iddi.

(50)

Diwygiwyd adran 130 gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 10 a 12 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(52)

Mewnosodwyd adran 143D gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac fe’i diwygiwyd gan adrannau 299 a 321 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 10 a 13 o Ran 1 o Atodlen 11 ac Atodlen 16 iddi.

(53)

Mewnosodwyd adran 143E gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.

(54)

Mewnosodwyd adran 143F gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.

(55)

Mewnosodwyd adran 143G gan adran 14(5) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.

(57)

Mewnosodwyd adran 125B gan adran 179 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34).

(59)

Diwygiwyd Pennod 4 o Ran 6 gan adran 128 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22), adrannau 184 a 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a Rhan 30 o Atodlen 25 iddi, adrannau 31 a 32 o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20) ac adran 17 o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22) a pharagraff 52 o Ran 3 o Atodlen 9 iddi.

(60)

Diwygiwyd adran 46 gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 6 iddi.

(61)

Mewnosodwyd Atodlen 9A gan adran 6 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) ac Atodlen 2 iddi ac fe’i diwygiwyd gan reoliadau 3, 4 a 5 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 (O.S. 2022/143 (Cy. 46)).

(62)

Diwygiwyd adran 214 gan adrannau 184 a 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a Rhan 30 o Atodlen 25 iddi, adran 31 o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20) ac adran 17(5) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd2013 (p. 22) a pharagraff 52 o Ran 3 o Atodlen 9 iddi.

(63)

Diwygiwyd adran 13(4) gan erthygl 6(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 82 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(64)

Diwygiwyd adran 14 gan adran 104 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 2(2) o Atodlen 8 iddi, erthygl 6(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 83 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo ac erthygl 2(1) o Orchymyn Cyllid Llywodraeth Leol (Tai) (Diwygiadau Canlyniadol) 1993 (O.S. 1993/651) a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddo ac fe’i haddaswyd gan adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraffau 6 ac 11 o Atodlen 10 iddi.

(65)

Diwygiwyd adran 22 gan adrannau 100, 104 a 227 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 2 o Atodlen 8 a Rhan 4 o Atodlen 19 iddi ac erthygl 6 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 86 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(66)

Diwygiwyd O.S. 1971/1065 gan reoliad 3 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1980 (O.S. 1980/1699), rheoliad 4 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1981 (O.S. 1981/1783), rheoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1990 (O.S. 1990/427), rheoliad 2(a) o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1993 (O.S. 1993/653), rheoliad 9 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1854), rheoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/3007), rheoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1988 (O.S. 1988/2200), erthygl 6(1) o Orchymyn Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2008 (O.S. 2008/2683) a pharagraff 2 o Atodlen 1 iddo ac erthygl 6(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo. Caiff O.S. 1971/1065 ei ddiwygio ymhellach gan reoliad 2 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (O.S. 2022/907 (Cy. 198)) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddynt, a chan reoliad 8 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/781 (Cy. 170)).

(67)

Diwygiwyd adran 6 gan erthygl 6(2) oOrchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 81 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(68)

Diwygiwyd adran 13 gan erthygl 2 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Tenantiaethau Cyfnodol Sicr) (Codi’r Rhent) 2003 (O.S. 2003/259) ac erthygl 6(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 82 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(69)

Diwygiwyd adran 22 gan adrannau 100, 104 a 227 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 2 o Atodlen 8 a Rhan 4 o Atodlen 19 iddi ac erthygl 6(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 86 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(70)

Diwygiwyd O.S. 1997/194 gan reoliad 2 o Reoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/307 (Cy. 46)) a’r Atodlen iddynt, erthygl 6(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 13 i 17 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo, erthygl 3(2) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd (Deddf Cartrefi Symudol 2013 a Diwygiadau Amrywiol) 2014 (O.S. 2014/1900) a pharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 iddo.

(71)

Diwygiwyd adran 6(3) gan erthygl 6 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 ac 81(a) o Ran 1 o Atodlen 1 iddo. Mae diwygiadau eraill i adran 6 nad yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(72)

Diwygiwyd adran 97 gan adran 118 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraffau 2 a 12 o Atodlen 7 iddi ac adran 155 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).

(73)

Diwygiwyd adran 100 gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 66 o Atodlen 11 iddi, adrannau 103 a 147 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53) a pharagraff 4(2) o Atodlen 1 a Rhan 1 o Atodlen 3 iddi ac erthyglau 12 a 15 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/1860) a pharagraff 2 o Atodlen 4 ac Atodlen 6 iddo.

(74)

Mewnosodwyd adran 99B gan adran 122 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) ac fe’i diwygiwyd gan adrannau 81 a 222 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 13 o Atodlen 18 iddi, adrannau 81 a 261 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 25 o Atodlen 8, paragraff 19 o Ran 2 o Atodlen 9 ac Atodlen 30 iddi ac adran 66 o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 54 o Atodlen 8 iddi.

(75)

Diwygiwyd Rhan 3 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) gan adrannau 60(4), 61(4), 63, 68(1) i (3) a 152 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51) a pharagraffau 37, 38 a 64 o Atodlen 25 ac Atodlen 26 iddi, adrannau 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48) ac erthygl 2(3) o Orchymyn Rhenti (Rhyddhad rhag Codi’r Rhent yn Raddol) 1987 (O.S. 1987/264) ac Atodlen 1 iddo.

(76)

Diwygiwyd Rhan 5 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) gan adrannau 70, 71, 72(1), 140 a 152 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51) a Rhan 1 o Atodlen 17, Atodlen 18, paragraffau 42 i 44 o Atodlen 25 ac Atodlen 26 iddi, adrannau 36(4) a 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) a Rhan 1 o Atodlen 17 ac Atodlen 18 iddi, adrannau 35, 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48), adran 4 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p. 71) a pharagraff 35 o Atodlen 2 iddi, adran 22(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a pharagraff 3(3) o Atodlen 8 iddi, rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau Llywodraeth Leol (Ddeddf Rhenti) 1995 (O.S. 1995/2451), erthygl 2(1) o Orchymyn Cyllid Llywodraeth Leol (Tai) (Diwygiadau Canlyniadol) 1993 (O.S. 1993/651) a pharagraffau 8 i 10 o Atodlen 1 a pharagraff 5 o Atodlen 2 iddo ac erthygl 6(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 12 a 19 i 27 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo.

(77)

Diwygiwyd adran 283 gan adran 117(1) o Ddeddf Tai 1988 (p. 50), adran 71(3) o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) a pharagraffau 1 a 14 o Atodlen 19 iddi ac adran 126 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (p. 26) a pharagraffau 60 a 74 o Ran 2 o Atodlen 9 iddi.

(78)

Diwygiwyd Rhan 1 gan adran 2(1) o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42), adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraffau 101 i 106 a 194 o Atodlen 11 iddi, adran 125 o Ddeddf Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41) ac Atodlen 20 iddi, adran 4 o Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p. 11) a pharagraff 79 o Atodlen 2 iddi, adran 4 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1992 (p. 6) a pharagraff 103 o Atodlen 2 iddi, adran 187 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) ac Atodlen 22 iddi, adrannau 96 i 100, 103, 104, 150, 151 a 227 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 2 o Atodlen 8 a Rhannau 4 ac 8 o Atodlen 19 iddi, adran 66(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 59(3) o Atodlen 8 iddi, adrannau 129 a 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) a pharagraff 15 o Atodlen 15 a Rhan 4 o Atodlen 18 iddi, adrannau 14, 15 ac 16 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38), adran 222 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34), adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 41 o Atodlen 8 iddi, adrannau 86 a 146 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) a pharagraff 45 o Atodlen 14 a Rhan 4 o Atodlen 23 iddi, adrannau 299 a 321(1) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 i 9 o Ran 1 o Atodlen 11 ac Atodlen 16 iddi, adrannau 161 i 164, 195, 222 a 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a pharagraffau 25 i 27 o Atodlen 19, paragraffau 25 i 27 o Atodlen 22 a Rhan 23 o Atodlen 25 iddi, adran 17(5) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd2013 (p. 22) a pharagraff 52 o Ran 3 o Atodlen 9 iddi, rheoliad 6 o Reoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol, Atodol, Cysylltiedig ac Amrywiol) 2013 (O.S. 2013/630), adrannau 6 a 10 o Ddeddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (p. 3) a pharagraff 4 o’r Atodlen iddi, adrannau 97 a 181(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraffau 17 i 19 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, adrannau 35 i 40 o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), adrannau 40(6) a 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19), adran 63(b) o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22), rheoliad 2 o Reoliadau Cyfeiriadau at Ardrethu (Tai) 1990 (O.S. 1990/434) a pharagraffau 27 ac 28 o’r Atodlen iddynt, erthygl 2 o Orchymyn Awdurdodaeth yr Uchel Lys a Llysoedd Sirol 1991 (O.S. 1991/724) a Rhan 1 o’r Atodlen iddo, erthygl 2(2) o Orchymyn Cyllid Llywodraeth Leol (Tai) (Diwygiadau Canlyniadol) 1993 (O.S. 1993/651) a pharagraffau 17 a 18 o Atodlen 1 a pharagraff 8 o Atodlen 2 iddo, erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Darpariaethau Canlyniadol) 1996 (O.S. 1996/2325) a pharagraff 18 o Atodlen 2 iddo, erthygl 2 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Tai) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/61) a pharagraff 3 o’r Atodlen iddo, erthyglau 1 a 2 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Tenantiaethau Cyfnodol Sicr) (Codi’r Rhent) 2003 (O.S. 2003/259), erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2010 (O.S. 2010/866) a pharagraffau 63 i 67 o Atodlen 2 iddo, erthygl 4 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2008 (O.S. 2008/3002) a pharagraffau 36 i 39 o Atodlen 1 iddo, erthygl 6(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036) a pharagraffau 80 i 94 o Ran 1 o Atodlen 1 iddo, erthygl 2 o Orchymyn Deddf Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 (Darpariaethau Canlyniadol a Darpariaethau i’r Gwrthwyneb a’r Alban) 2014 (O.S. 2014/560) a pharagraff 20 o Atodlen 1 iddo a rheoliad 41(a) o Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458) a pharagraff 12 o Ran 1 o Atodlen 3 iddynt.

(79)

Mewnosodwyd erthygl 4B gan erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Lwfans Tai Lleol) (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/2398), rheoliad 5 o Reoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (O.S. 2006/217) a pharagraff 11 o Atodlen 2 iddynt, erthyglau 3 i 6 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/2871), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2008 (O.S. 2008/587), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2836), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/646), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2013 (O.S. 2013/1544), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2016 (O.S. 2016/1179), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/27), rheoliad 4 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Coronafeirws) (Mesurau Pellach) 2020 (O.S. 2020/371) ac erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio ac Addasu) 2021 (O.S. 2021/1380).

(80)

Mewnosodwyd Atodlen 3B gan erthyglau 3 a 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/2871) ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/3156), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2836), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/646), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2013 (O.S. 2013/2978), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2015 (O.S. 2015/1753), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2016 (O.S. 2016/1179), erthygl 2 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/27), rheoliad 4 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Coronafeirws) (Mesurau Pellach) 2020 (O.S. 2020/371) a rheoliad 2 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (O.S. 2022/907 (Cy. 198)) a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddynt.

(81)

Diwygiwyd adran 80 gan adran 24(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p. 63) a pharagraff 26 o Ran 2 o Atodlen 5 iddi, adrannau 83(2) a 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) ac Atodlen 18 iddi, adrannau 140 a 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) a pharagraff 5 o Atodlen 16 a Rhan 4 o Atodlen 18 iddi, adrannau 195 a 222 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a pharagraffau 10 a 13 o Atodlen 19 a pharagraffau 9 ac 11 o Atodlen 22 iddi, erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Darpariaethau Canlyniadol) 1996 (O.S. 1996/2325) a pharagraff 14 o Atodlen 2 iddo, erthygl 4 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2008 (O.S. 2008/3002) a pharagraffau 2 a 10 o Atodlen 1 iddo ac erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2010 (O.S. 2010/866) a pharagraffau 15 a 19 o Atodlen 2 iddo.

(82)

Diwygiwyd erthygl 4 gan erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2013 (O.S. 2013/1544), erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2014 (O.S. 2014/3126), erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2015 (O.S. 2015/1753) a rheoliad 4 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Coronafeirws) (Mesurau Pellach) 2020 (O.S. 2020/371).

(83)

Diwygiwyd Atodlen 1 gan erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2013 (O.S. 2013/2978), erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2015 (O.S. 2015/1753), erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygiadau i’r Lwfans Tai Lleol) 2016 (O.S. 2016/1179), erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/1332), erthygl 4 o Orchymyn Swyddogion Rhenti (Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/27), rheoliad 4 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Coronafeirws) (Mesurau Pellach) 2020 (O.S. 2020/371) a rheoliad 2 o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022 (O.S. 2022/907 (Cy. 198)) a pharagraff 28 o Atodlen 1 iddynt.

(84)

Diwygiwyd adran 80 gan adran 24(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p. 63) a pharagraff 26 o Ran 2 o Atodlen 5 iddi, adrannau 83(2) a 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) ac Atodlen 18 iddi, adrannau 140 a 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) a pharagraff 5 o Atodlen 16 a Rhan 4 o Atodlen 18 iddi, adrannau 195 a 222 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a pharagraffau 10 a 13 o Atodlen 19 a pharagraffau 9 ac 11 o Atodlen 22 iddi, erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Darpariaethau Canlyniadol) 1996 (O.S. 1996/2325) a pharagraff 14 o Atodlen 2 iddo, erthygl 4 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2008 (O.S. 2008/3002) a pharagraffau 2 a 10 o Atodlen 1 iddo ac erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2010 (O.S. 2010/866) a pharagraffau 15 a 19 o Atodlen 2 iddo.