xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 223 (Cy. 71) (C. 10)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2022

Gwnaed

4 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adrannau 147(4) a 148(2) o Ddeddf yr Amgylchedd 2021(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2022.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Amgylchedd 2021.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 7 Mawrth 2022

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 7 Mawrth 2022—

(a)adran 50 (rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr), i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru;

(b)adran 60 (gwastraff peryglus: Cymru a Lloegr), i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru;

(c)adran 64 (pwerau i godi tâl), i’r graddau y mae’n ymwneud â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru;

(d)Atodlen 4 (rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr), i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru.

Darpariaeth arbed

3.  Er gwaethaf y ffaith bod adran 50(6) o’r Ddeddf yn dod i rym yn rhinwedd rheoliad 2(a), sy’n diddymu adrannau 93 i 95 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 o ran Cymru, mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007(2) yn parhau mewn grym ac yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan Atodlenni 4 a 6 i Ddeddf yr Amgylchedd 2021 i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Lee Waters

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf yr Amgylchedd 2021 (p. 30) (“y Ddeddf”). Y rheoliadau cychwyn hyn yw’r rhai cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf.

Mae rheoliad 2 yn dwyn adrannau penodedig o’r Ddeddf i rym ar 7 Mawrth 2022. Mae adran 50 ac Atodlen 4 wedi eu cychwyn i’r graddau y maent yn ymwneud â Chymru ac maent yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr ac ynghylch gorfodi’r rheoliadau hynny. Mae adran 60 wedi ei chychwyn i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru ac mae’n diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) er mwyn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ar wastraff peryglus ac yn gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) mewn perthynas â gwastraff peryglus. Mae adran 64 yn diwygio Deddf yr Amgylchedd 1995 i’r graddau y mae’n gymwys i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru er mwyn ategu pwerau presennol i godi tâl.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth arbed ar gyfer Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 (O.S. 2007/871), a wnaed o dan adrannau 93 i 95 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn bennaf, sydd wedi eu diddymu gan adran 50(6) o’r Ddeddf. Mae’n darparu bod y Rheoliadau’n parhau mewn grym o ran Cymru er gwaethaf diddymu eu pŵer galluogi, a’u bod yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan Atodlenni 4 a 6 i’r Ddeddf.