- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae Rhan 3 o Atodlen 1 i Reolau 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheol 21 (y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais gudd), yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Rhaid canfod y canlyniad—
(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4;
(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4A.”.
(3) Yn rheol 22 (y papurau pleidleisio)—
(a)ym mharagraff (3), ar y dechrau mewnosoder “Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,”;
(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid i bapur pleidleisio—
(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2A, a
(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.”.
(4) Yn rheol 28 (papurau pleidleisio post)—
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “Atodiad 4” rhodder “yr Atodiad cymwys”;
(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Ym mharagraff (1)(b), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—
(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4;
(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4A.”.
(5) Yn rheol 31 (dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol)—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “Atodiad 5” rhodder “yr Atodiad cymwys”;
(b)ym mharagraff (6)(a), yn lle “Atodiad 5” rhodder “yr Atodiad cymwys”;
(c)ym mharagraff (7), o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—
“(aa)ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—
(i)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5;
(ii)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5A.”.
(6) Yn rheol 32 (cyfarpar gorsafoedd pleidleisio)—
(a)ym mharagraff (9), yn lle “Atodiad 6” rhodder “yr Atodiad cymwys”;
(b)ar ôl paragraff (9) mewnosoder—
“(9A) Ym mharagraff (9), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—
(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6;
(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6A.”;
(c)ym mharagraff (11), ar y dechrau mewnosoder “Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,”;
(d)ar ôl paragraff (11) mewnosoder—
“(12) Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—
(a)cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i roi’r rhif 1 yn y blwch pleidleisio gyferbyn â’i ddewis cyntaf;
(b)esboniad i’r pleidleisiwr y caiff wneud cynifer neu gyn lleied o ddewisiadau ychwanegol ag y dymuna, ynghyd â chyfarwyddyd ynghylch sut i wneud hyn drwy roi’r rhif 2 gyferbyn â’i ail ddewis, y rhif 3 gyferbyn â’i drydydd dewis ac yn y blaen.”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: