ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract
RHAN 10Datrys anghydfodau
Penderfynu ar yr anghydfod 107
1
Rhaid i benderfyniad y dyfarnwr, a’r rhesymau drosto, gael eu cofnodi’n ysgrifenedig a rhaid i’r dyfarnwr roi hysbysiad o’r dyfarniad (gan gynnwys cofnod o’r rhesymau) i’r partïon.
2
Pan atgyfeirir anghydfod mewn perthynas â chontract i’w benderfynu yn unol â pharagraff 106(1)—
a
mae adran 7(12) a (13) o’r Ddeddf yn gymwys yn yr un modd ag y mae’r is-adrannau hynny yn gymwys i anghydfod a atgyfeirir i’w benderfynu yn unol ag adran 7(6) neu (7) o’r Ddeddf, a
b
mae adran 48(5) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw anghydfod a atgyfeirir i’w benderfynu mewn perthynas â chontract nad yw’n gontract GIG fel pe bai wedi ei atgyfeirio i’w benderfynu yn unol ag adran 7(6) o’r Ddeddf.