xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3Telerau eraill yn y contract

RHAN 10Datrys anghydfodau

Datrys anghydfodau contract yn lleol

104.—(1Rhaid i’r contractwr a’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud ymdrechion rhesymol i gyfathrebu a chydweithredu â’i gilydd gyda’r bwriad o ddatrys unrhyw anghydfod sy’n codi o’r contract neu mewn cysylltiad ag ef cyn atgyfeirio’r anghydfod i gael ei benderfynu yn unol â gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG (neu, pan fo’n gymwys, cyn dechrau achos llys).

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i anghydfod yn ymwneud â neilltuo cleifion i restr wedi ei chau sydd i’w benderfynu o dan weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG yn rhinwedd paragraff 46(1) pan na fo’n ymarferol i’r partïon geisio ei ddatrys yn lleol cyn i’r cyfnod o 7 diwrnod a bennir ym mharagraff 46(4) ddod i ben.

(3Caiff y contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol (os oes un) ar gyfer yr ardal y mae’r contractwr yn darparu gwasanaethau o dan y contract ynddi i gymryd rhan mewn trafodaethau sy’n digwydd yn rhinwedd is-baragraff (1).

Datrys anghydfodau: contractau nad ydynt yn gontractau GIG

105.—(1Yn achos contract nad yw’n gontract GIG, caniateir i unrhyw anghydfod sy’n codi o’r contract neu mewn cysylltiad ag ef, ac eithrio materion yr ymdrinnir â hwy o dan y gweithdrefnau ar gyfer hysbysu am bryderon neu gwynion yn unol â Rhan 9 o’r Atodlen hon, gael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei ystyried a’i benderfynu—

(a)os yw’n ymwneud â chyfnod pan oedd y contractwr yn cael ei drin fel corff gwasanaeth iechyd, gan y contractwr neu gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(b)mewn unrhyw achos arall, gan y contractwr neu, os yw’r contractwr yn cytuno yn ysgrifenedig, gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Yn achos anghydfod a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (1)—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn yw gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG, a

(b)mae’r partïon yn cytuno i gael eu rhwymo gan unrhyw benderfyniad a wneir gan y dyfarnwr.

Gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG

106.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae’r weithdrefn a bennir yn yr is-baragraffau a ganlyn ac ym mharagraff 107 yn gymwys yn achos unrhyw anghydfod sy’n codi o’r contract neu mewn cysylltiad ag ef a atgyfeirir at Weinidogion Cymru—

(a)yn unol ag adran 7(6) o’r Ddeddf (pan fo’r contract yn gontract GIG), neu

(b)yn unol â pharagraff 105(1) (pan na fo’r contract yn gontract GIG).

(2Nid yw’r weithdrefn a bennir yn y paragraff hwn yn gymwys pan fo contractwr yn atgyfeirio mater i gael ei benderfynu yn unol â pharagraff 46, ac mewn achos o’r fath mae’r weithdrefn a bennir yn y paragraff hwnnw yn gymwys yn lle hynny.

(3Rhaid i unrhyw barti sy’n dymuno atgyfeirio anghydfod fel y crybwyllir yn is-baragraff (1) anfon at Weinidogion Cymru gais ysgrifenedig am ddatrys anghydfod y mae rhaid iddo gynnwys neu y mae rhaid anfon gydag ef—

(a)enwau a chyfeiriadau’r partïon i’r anghydfod,

(b)copi o’r contract, ac

(c)datganiad byr yn disgrifio natur yr anghydfod, a’r amgylchiadau sy’n arwain at yr anghydfod.

(4Rhaid i unrhyw barti sy’n dymuno atgyfeirio anghydfod fel y crybwyllir yn is-baragraff (1) anfon y cais o dan is-baragraff (3) o fewn cyfnod o 3 blynedd gan ddechrau â’r dyddiad y digwyddodd y mater a arweiniodd at yr anghydfod neu y dylai’n rhesymol fod wedi dod i sylw’r parti sy’n dymuno atgyfeirio’r anghydfod.

(5Pan fo’r anghydfod yn ymwneud â chontract nad yw’n gontract GIG, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y mater eu hunain neu, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol, benodi person neu bersonau i’w ystyried a phenderfynu arno.

(6Cyn penderfynu pwy a ddylai benderfynu ar yr anghydfod, naill ai o dan is-baragraff (5) neu o dan adran 7(8) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd mater sy’n destun anghydfod atynt, anfon cais ysgrifenedig at y partïon i gyflwyno yn ysgrifenedig, o fewn cyfnod penodedig, unrhyw sylwadau yr hoffent eu cyflwyno ynghylch y mater sy’n destun anghydfod.

(7Gyda’r hysbysiad a roddir o dan is-baragraff (6), rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r parti heblaw’r un a atgyfeiriodd y mater at y weithdrefn datrys anghydfodau gopi o unrhyw ddogfen yr atgyfeiriwyd y mater at y weithdrefn datrys anghydfodau drwyddi.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o unrhyw sylwadau sy’n dod i law oddi wrth barti i’r parti arall a rhaid iddynt ofyn (yn ysgrifenedig) ym mhob achos i barti y rhoddir copi o’r sylwadau iddo gyflwyno o fewn cyfnod penodedig unrhyw arsylwadau ysgrifenedig y mae’n dymuno eu gwneud am y sylwadau hynny.

(9Ar ôl cael unrhyw sylwadau gan y partïon neu, os yw hynny’n gynharach, ar ddiwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o’r fath a bennir yn y cais a anfonir o dan is-baragraff (6) neu (8), rhaid i Weinidogion Cymru, os ydynt yn penderfynu penodi person neu bersonau i wrando’r anghydfod—

(a)hysbysu’r partïon yn ysgrifenedig am enw’r person neu’r personau y mae’n eu penodi, a

(b)trosglwyddo i’r person neu’r personau a benodir felly unrhyw ddogfennau a ddaeth i law oddi wrth y partïon o dan is-baragraff (3), (6) neu (8).

(10Er mwyn cynorthwyo’r dyfarnwr i ystyried y mater, caiff y dyfarnwr—

(a)gwahodd cynrychiolwyr i’r partïon i ymddangos gerbron y dyfarnwr i gyflwyno sylwadau ar lafar naill ai gyda’i gilydd neu, gyda chytundeb y partïon, ar wahân, a chaiff ddarparu rhestr o faterion neu gwestiynau ymlaen llaw i’r partïon y mae’r dyfarnwr yn dymuno iddynt roi ystyriaeth arbennig iddynt, neu

(b)ymgynghori â phersonau eraill y mae’r dyfarnwr yn ystyried y gall eu harbenigedd gynorthwyo i ystyried y mater.

(11Pan fo’r dyfarnwr yn ymgynghori â pherson arall o dan is-baragraff (10)(b), rhaid i’r dyfarnwr hysbysu’r partïon yn unol â hynny yn ysgrifenedig ac, os yw’r dyfarnwr yn ystyried y gallai canlyniad yr ymgynghoriad effeithio’n sylweddol ar fuddiannau unrhyw barti, rhaid i’r dyfarnwr roi i’r partïon unrhyw gyfle y mae’r dyfarnwr yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau i gyflwyno arsylwadau ar y canlyniadau hynny.

(12Wrth ystyried y mater, rhaid i’r dyfarnwr ystyried—

(a)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir mewn ymateb i gais o dan is-baragraff (6), ond dim ond os cânt eu cyflwyno o fewn y cyfnod penodedig,

(b)unrhyw arsylwadau ysgrifenedig a gyflwynir mewn ymateb i gais o dan is-baragraff (8), ond dim ond os cânt eu cyflwyno o fewn y cyfnod penodedig,

(c)unrhyw sylwadau ar lafar a gyflwynir mewn ymateb i wahoddiad o dan is-baragraff (10)(a),

(d)canlyniadau unrhyw ymgynghori o dan is-baragraff (10)(b), ac

(e)unrhyw arsylwadau a gyflwynir yn unol â chyfle a roddir o dan is-baragraff (11).

(13Yn y paragraff hwn, ystyr “cyfnod penodedig” yw unrhyw gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru yn y cais, nad yw’n llai na 2 wythnos, nac yn fwy na 4 wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato, ond caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried bod rheswm da dros wneud hynny, estyn unrhyw gyfnod o’r fath (hyd yn oed ar ôl iddo ddod i ben), a phan fyddant yn gwneud hynny, mae cyfeiriad yn y paragraff hwn at y cyfnod penodedig yn gyfeiriad at y cyfnod fel y’i hestynnwyd

(14Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y paragraff hwn a pharagraff 107 ac i unrhyw gytundeb gan y partïon, mae gan y dyfarnwr ddisgresiwn eang i benderfynu ar y weithdrefn ar gyfer datrys yr anghydfod i sicrhau bod penderfyniad cyfiawn, diymdroi, darbodus a therfynol yn cael ei wneud ar yr anghydfod.

Penderfynu ar yr anghydfod

107.—(1Rhaid i benderfyniad y dyfarnwr, a’r rhesymau drosto, gael eu cofnodi’n ysgrifenedig a rhaid i’r dyfarnwr roi hysbysiad o’r dyfarniad (gan gynnwys cofnod o’r rhesymau) i’r partïon.

(2Pan atgyfeirir anghydfod mewn perthynas â chontract i’w benderfynu yn unol â pharagraff 106(1)—

(a)mae adran 7(12) a (13) o’r Ddeddf yn gymwys yn yr un modd ag y mae’r is-adrannau hynny yn gymwys i anghydfod a atgyfeirir i’w benderfynu yn unol ag adran 7(6) neu (7) o’r Ddeddf, a

(b)mae adran 48(5) o’r Ddeddf yn gymwys i unrhyw anghydfod a atgyfeirir i’w benderfynu mewn perthynas â chontract nad yw’n gontract GIG fel pe bai wedi ei atgyfeirio i’w benderfynu yn unol ag adran 7(6) o’r Ddeddf.

Dehongli’r Rhan hon

108.—(1Yn y Rhan hon, mae “unrhyw anghydfod sy’n codi o’r contract neu mewn cysylltiad ag ef” yn cynnwys unrhyw anghydfod sy’n codi o derfynu’r contract neu mewn cysylltiad â hynny.

(2Mae unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r gofynion yn y Rhan hon i oroesi hyd yn oed pan fo’r contract wedi ei derfynu.