Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Legislation Crest

Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

2013 dccc 5

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglŷn â’r cydsyniad sy’n ofynnol ar gyfer tynnu, storio a defnyddio organau a meinweoedd dynol at ddiben trawsblannu; ac at ddibenion cysylltiedig.

[10 Medi 2013]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi cael cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

CyflwyniadLL+C

1TrosolwgLL+C

Mae prif ddarpariaethau’r Ddeddf hon—

(a)yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo trawsblannu (adran 2);

(b)yn darparu bod gweithgareddau penodol a wneir yng Nghymru at ddiben trawsblannu yn gyfreithlon os cânt eu gwneud â chydsyniad (adran 3);

(c)yn nodi sut y caiff cydsyniad ei roi i weithgareddau trawsblannu, gan gynnwys yr amgylchiadau lle yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi yn absenoldeb cydsyniad datganedig (adrannau 4 i 9);

(d)yn ei gwneud yn drosedd i weithgareddau trawsblannu gael eu cyflawni yng Nghymru heb gydsyniad (adran 10);

(e)yn gwneud diwygiadau (adrannau 15 ac 16) i Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas â chod ymarfer sydd—

(i)yn rhoi canllawiau ymarferol i bersonau sy’n cyflawni gweithgareddau trawsblannu, a

(ii)yn gosod y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â chyflawni’r gweithgareddau hynny, gan gynnwys sut y mae cydsyniad i’w gael.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(4)(a)

Hyrwyddo trawsblannuLL+C

2Dyletswydd Gweinidogion Cymru i hyrwyddo trawsblannuLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hyrwyddo trawsblannu fel modd i wella iechyd pobl Cymru,

(b)darparu gwybodaeth am drawsblannu a chynyddu ymwybyddiaeth ohono,

(c)hysbysu’r cyhoedd am yr amgylchiadau lle yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi i weithgareddau trawsblannu yn absenoldeb cydsyniad datganedig, a

(d)sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael i Fyrddau Iechyd Lleol yn cynnwys y cymwyseddau a’r sgiliau arbenigol sy’n ofynnol at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn cynnwys, yn benodol, rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo, o leiaf unwaith bob 12 mis, ymgyrch i hysbysu’r cyhoedd ledled Cymru am yr amgylchiadau lle yr ystyrir bod cydsyniad i weithgareddau trawsblannu wedi ei roi yn absenoldeb cydsyniad datganedig.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, am y pum mlynedd gyntaf ar ôl i’r adran hon ddod i rym, adrodd yn flynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y camau a gymerwyd i gyflawni eu dyletswyddau o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(4)(b)

Gweithgareddau trawsblannu cyfreithlonLL+C

3Awdurdodi gweithgareddau trawsblannuLL+C

(1)Mae gweithgareddau trawsblannu yn gyfreithlon os cânt eu gwneud yng Nghymru—

(a)â chydsyniad datganedig pan fo’n ofynnol ei gael (gweler adrannau 4 i 7), neu

(b)fel arall lle yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi (gweler adrannau 4 ac 9).

(2)Mae’r canlynol yn weithgareddau trawsblannu at ddiben y Ddeddf hon—

(a)storio corff person ymadawedig i’w ddefnyddio at ddiben trawsblannu;

(b)tynnu o gorff person ymadawedig, i’w ddefnyddio at y diben hwnnw, unrhyw ddeunydd perthnasol y mae’r corff wedi ei gyfansoddi ohono neu y mae’n ei gynnwys;

(c)storio i’w ddefnyddio at y diben hwnnw unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol;

(d)defnyddio at y diben hwnnw unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol.

(3)Mae gweithgaredd trawsblannu o’r math a grybwyllir yn is-adran (2)(c) neu (d) yn gyfreithlon (heb yr angen am gydsyniad) pan y’i gwneir yng Nghymru—

(a)os yw’r deunydd perthnasol wedi ei fewnforio i Gymru o’r tu allan i Gymru, a

(b)os tynnwyd y deunydd o gorff person y tu allan i Gymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I4A. 3 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(a)

CydsynioLL+C

4Cydsynio: oedolionLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsynio at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, person nad yw—

(a)yn oedolyn a eithrir (gweler adran 5), neu

(b)yn blentyn (gweler adran 6).

(2)Ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi i’r gweithgaredd oni bai—

(a)bod yr achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3); ac os felly mae’n ofynnol cael cydsyniad datganedig, neu

(b)nad yw’r achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3) ac mae is-adran (4) yn gymwys.

(3)Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1, mae ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—

TABL 1

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Mae’r person yn fyw.Cydsyniad y person.
2. Mae’r person wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y person i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad y person.
3. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys, yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
4. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys ac yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin a’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r person cyn iddo farw.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw perthynas neu gyfaill ers amser maith i’r ymadawedig yn gwrthwynebu ar sail barn yr ymadawedig, a

(b)pe byddai person rhesymol yn dod i’r casgliad bod y perthynas neu’r cyfaill yn gwybod mai barn ddiweddaraf yr ymadawedig cyn iddo farw ar gydsynio i weithgareddau trawsblannu oedd bod yr ymadawedig yn gwrthwynebu i gydsyniad gael ei roi.

(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at benodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I6A. 4 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(a)

5Cydsynio: oedolion a eithrirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsynio at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, oedolyn a eithrir.

(2)Yn achos oedolyn a eithrir mae angen cydsyniad datganedig.

(3)Ystyr “oedolyn a eithrir” yw—

(a)oedolyn sydd wedi marw ac nad oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Nghymru am gyfnod o 12 mis o leiaf yn union cyn iddo farw, neu

(b)oedolyn sydd wedi marw ac nad oedd ganddo am gyfnod sylweddol cyn marw y galluedd i ddeall y cysyniad y gellir ystyried bod cydsyniad i weithgareddau trawsblannu wedi ei roi;

ac at y diben hwn mae cyfnod sylweddol yn golygu cyfnod sy’n ddigon hir i arwain person rhesymol i’r casgliad y byddai’n amhriodol ystyried bod cydsyniad wedi ei roi.

(4)Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 mae ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—

TABL 2

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Yr oedd penderfyniad gan yr oedolyn a eithrir i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad yr oedolyn a eithrir.
2. Nid yw achos 1 yn gymwys, yr oedd yr oedolyn a eithrir wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
3. Nid yw achos 1 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn a eithrir wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn a eithrir yn union cyn iddo farw.
4. Nid yw achosion 1, 2 na 3 yn gymwys mewn perthynas â’r oedolyn a eithrir.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn a eithrir yn union cyn iddo farw.

(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at benodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I8A. 5 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(a)

6Cydsynio: plantLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsyniad at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, person sy’n blentyn neu sydd wedi marw’n blentyn.

(2)Yn achos person sy’n blentyn neu sydd wedi marw’n blentyn mae angen cydsyniad datganedig.

(3)Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 3 mae ystyr cydsyniad datganedig wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—

TABL 3

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Mae’r plentyn yn fyw ac nid yw achos 2 yn gymwys.Cydsyniad y plentyn.
2. Mae’r plentyn yn fyw, nid oes unrhyw benderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym, a naill ai nid yw’r plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsynio neu mae’n gymwys i ymdrin â’r mater ond yn methu â gwneud hynny.Cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
3. Mae’r plentyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad y plentyn.
4. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys, yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r weithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
5. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys ac yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.
6. Mae’r plentyn wedi marw ac nid yw achosion 3, 4 na 5 yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.

(4)Yn yr adran hon, nid yw penderfyniad neu benodiad a wneir gan blentyn ond yn ddilys os oedd y plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad wrth ei wneud.

(5)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at benodiad person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsyniad yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I10A. 6 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(a)

7Cydsynio: gweithgareddau trawsblannu sy’n ymwneud â deunydd a eithrirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer cydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deunydd perthnasol a eithrir” yw deunydd perthnasol o fath a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.

(3)Enghreifftiau o’r mathau o ddeunydd perthnasol y caniateir ei bennu’n ddeunydd perthnasol a eithrir yw meinweoedd cyfansawdd a mathau eraill o ddeunydd yr ystyrir bod eu tynnu a’u defnyddio yn ddull newydd.

(4)Yn achos gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir mae cydsyniad datganedig yn ofynnol, ac mae rhaid i’r cydsyniad hwnnw fod yn benodol i dynnu deunydd perthnasol a eithrir.

(5)I oedolyn, ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 4, ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd yw’r ystyr a nodir yn ail golofn y tabl—

TABL 4

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Mae’r oedolyn yn fyw.Cydsyniad yr oedolyn.
2. Mae’r oedolyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan yr oedolyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad yr oedolyn.
3. Mae’r oedolyn wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys, yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
4. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn yn union cyn iddo farw.
5. Mae’r oedolyn wedi marw ac nid yw achosion 2, 3 na 4 yn gymwys mewn perthynas â’r oedolyn.Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn yn union cyn iddo farw.

(6)I blentyn, ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 5, ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd yw’r ystyr a nodir yn ail golofn y tabl—

TABL 5

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Mae’r plentyn yn fyw ac nid yw achos 2 yn gymwys.Cydsyniad y plentyn.
2. Mae’r plentyn yn fyw, nid oes unrhyw benderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym, ac nid yw’r plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsynio, neu, mae’n gymwys i ymdrin â’r mater ond yn methu â gwneud hynny.Cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
3. Mae’r plentyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad y plentyn.
4. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys, yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
5. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.
6. Mae’r plentyn wedi marw ac nid yw achosion 3, 4 na 5 yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.

(7)Yn yr adran hon, nid yw penderfyniad neu benodiad a wneir gan blentyn ond yn ddilys os oedd y plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad wrth ei wneud.

(8)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at benodiad person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsyniad yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I12A. 7 mewn grym ar 12.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1679, ergl. 2(a)

I13A. 7 mewn grym ar 1.12.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(b)

8Cynrychiolwyr penodedigLL+C

(1)Caiff person benodi un neu ragor o bersonau i gynrychioli’r person ar ôl ei farwolaeth mewn perthynas â chydsyniad datganedig at ddibenion adran 3.

(2)Caiff penodiad fod yn gyffredinol neu’n gyfyngedig i gydsyniad mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau trawsblannu a bennir yn y penodiad.

(3)Caniateir i benodiad gael ei wneud ar lafar neu’n ysgrifenedig.

(4)Dim ond os caiff ei wneud ym mhresenoldeb o leiaf ddau dyst sy’n bresennol yr un pryd y mae penodiad llafar yn ddilys.

(5)Dim ond os yw un o’r canlynol yn wir y mae penodiad ysgrifenedig yn ddilys—

(a)ei fod wedi ei lofnodi gan y person sy’n ei wneud ym mhresenoldeb o leiaf un tyst sy’n ardystio’r llofnod,

(b)ei fod wedi ei lofnodi yn ôl cyfarwyddyd y person sy’n ei wneud, yn ei bresenoldeb ac ym mhresenoldeb o leiaf un tyst sy’n ardystio’r llofnod, neu

(c)ei fod wedi ei gynnwys yn ewyllys y person sy’n ei wneud, a honno’n ewyllys sydd wedi ei gwneud yn unol â gofynion adran 9 o Ddeddf Ewyllysiau 1837.

(6)Pan fo person yn penodi dau berson neu ragor mewn perthynas â’r un gweithgaredd trawsblannu, maent i’w hystyried yn rhai sydd wedi eu penodi i weithredu ar y cyd ac yn unigol onid yw’r penodiad yn darparu eu bod wedi eu penodi i weithredu ar y cyd.

(7)Caniateir i benodiad gael ei ddirymu ar unrhyw bryd.

(8)Mae is-adrannau (3) i (5) yn gymwys i ddirymu penodiad yn yr un modd ag y maent yn gymwys i wneud penodiad o’r fath.

(9)Caiff person a benodir ildio’r penodiad ar unrhyw bryd.

(10)Ni chaiff person weithredu o dan benodiad—

(a)os nad yw’n oedolyn, neu

(b)os yw’r person o ddisgrifiad a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(11)Pan fo person wedi penodi person neu bersonau o dan adran 4 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â gweithgaredd a wneir at ddibenion trawsblannu, mae’r person i’w drin hefyd fel un sydd wedi gwneud penodiad o dan yr adran hon mewn perthynas â’r gweithgaredd.

(12)At ddiben adrannau 4(3), 5(4), 6(3) a 7 os nad yw’n rhesymol ymarferol cyfathrebu â pherson a benodir o dan yr adran hon o fewn yr amser sydd ar gael os yw’r cydsyniad i gael ei roi ar waith, mae’r person i gael ei drin fel pe na bai’n gallu rhoi cydsyniad i weithgaredd o dan y penodiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I15A. 8 mewn grym ar 12.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1679, ergl. 2(a)

I16A. 8 mewn grym ar 1.12.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(b)

9Gweithgareddau sy’n ymwneud â deunydd o oedolion nad yw’r galluedd ganddynt i gydsynioLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo gweithgaredd trawsblannu o fewn adran 3(2)(c) neu (d) (storio neu ddefnyddio deunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol) sy’n cael ei wneud yng Nghymru yn ymwneud â deunydd perthnasol o gorff person (“P”)—

(i)sy’n oedolyn, a

(ii)nad yw’r galluedd ganddo i gydsynio â’r gweithgaredd, a

(b)pan na fo unrhyw benderfyniad gan P i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym.

(2)Ystyrir bod P wedi cydsynio i’r gweithgaredd os yw’r gweithgaredd wedi ei wneud mewn amgylchiadau o fath a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I18A. 9 mewn grym ar 12.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1679, ergl. 2(a)

I19A. 9 mewn grym ar 1.12.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(b)

TroseddauLL+C

10Gwahardd gweithgareddau heb gydsyniadLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n gwneud, heb gydsyniad, weithgaredd trawsblannu yng Nghymru.

(2)Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1)—

(a)os yw’r person yn credu yn rhesymol—

(i)ei fod yn gwneud y gweithgaredd â chydsyniad, neu

(ii)nad yw’r hyn y mae’n ei wneud yn weithgaredd trawsblannu;

(b)os yw adran 3(3) (deunydd sydd wedi’i fewnforio) yn gymwys;

(c)os yw adran 13(1) (preserfio deunydd at ei drawsblannu) yn gymwys.

(3)Mae person yn cyflawni trosedd os yw, yng Nghymru—

(a)yn ymhonni’n dwyllodrus wrth berson y mae’n gwybod neu’n credu ei fod yn mynd i wneud gweithgaredd trawsblannu neu y gall ei wneud—

(i)bod cydsyniad i wneud y gweithgaredd, neu

(ii)nad yw’r gweithgaredd yn weithgaredd trawsblannu, a

(b)yn gwybod bod yr ymhoniad yn anwir neu ddim yn credu ei fod yn wir.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na’r uchafswm statudol;

(b)o’i gollfarnu ar dditiad—

(i)i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na 3 blynedd, neu

(ii)i ddirwy, neu

(iii)i’r ddau.

(5)Yn yr adran hon ystyr “cydsyniad” yw’r cydsyniad sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I21A. 10 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(c)

11Troseddau gan gyrff corfforaetholLL+C

(1)Pan fo corff corfforaethol yn cyflawni trosedd o dan adran 10 ac os profir bod y trosedd hwnnw wedi ei gyflawni â chydsyniad neu gydgynllwyn unrhyw un o’r canlynol, neu y gellir ei briodoli i esgeulustod ar ran unrhyw un o’r canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw swyddog oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd unrhyw un o’r swyddi hynny,

bydd yr unigolyn hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r trosedd ac yn agored i achos yn ei erbyn a chosb yn unol â hynny.

(2)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)unrhyw swyddog tebyg sydd gan y corff;

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I23A. 11 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(c)

12ErlynLL+C

Ni chaniateir cychwyn achos am drosedd o dan adran 10 ac eithrio drwy neu â chydsyniad y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I25A. 12 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(c)

CyffredinolLL+C

13Preserfio deunydd at ei drawsblannuLL+C

(1)Pan fo rhan o gorff person ymadawedig sy’n gorwedd mewn ysbyty, cartref nyrsio neu sefydliad arall yng Nghymru yn addas neu o bosibl yn addas i’w defnyddio mewn trawsblaniad, mae’n gyfreithlon i’r person sy’n llywio neu’n rheoli’r sefydliad—

(a)cymryd camau at breserfio’r rhan i’w defnyddio mewn trawsblaniad, a

(b)cadw’r corff at y diben hwnnw.

(2)Nid yw awdurdod o dan is-adran (1)(a) yn ymestyn ond at—

(a)cymryd y lleiafswm o gamau angenrheidiol at y diben a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno, a

(b)y defnydd o’r dull lleiaf mewnwthiol.

(3)Mae awdurdod o dan is-adran (1) yn peidio â bod yn gymwys pan fydd wedi ei chadarnhau nad yw cydsyniad datganedig sy’n ei gwneud hi’n gyfreithlon i dynnu’r rhan i’w thrawsblannu wedi ei roi, ac na fydd yn cael ei roi ac nad yw’n cael ei ystyried bod cydsyniad wedi ei roi.

(4)Mae awdurdod o dan is-adran (1) yn ymestyn i unrhyw berson a awdurdodir i weithredu o dan yr awdurdod gan—

(a)y person y rhoddir yr awdurdod iddo gan yr is-adran honno, neu

(b)person a awdurdodir o dan yr is-adran honno i weithredu o dan yr awdurdod hwnnw.

(5)Mae gweithred a wneir ag awdurdod o dan is-adran (1) i’w thrin fel un nad yw’n weithgaredd y mae adran 3 yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I27A. 13 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(c)

14CrwneriaidLL+C

(1)Nid oes dim yn y Ddeddf hon sy’n gymwys i unrhyw beth a wneir at ddibenion swyddogaethau crwner neu o dan awdurdod crwner.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo person (“P”) yn gwybod, neu pan fo ganddo reswm dros gredu, bod angen neu y gall fod angen—

(a)corff person ymadawedig, neu

(b)deunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff person ymadawedig,

at ddibenion swyddogaethau crwner.

(3)Mae’n ofynnol cael cydsyniad y crwner cyn y caiff P weithredu yn ôl awdurdod o dan—

(a)adran 3 (awdurdodi gweithgareddau trawsblannu), neu

(b)adran 13 (preserfio deunydd at ei drawsblannu),

mewn perthynas â’r corff neu’r deunydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I29A. 14(1)(2)(3)(a) mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(d)

15Codau ymarferLL+C

(1)Mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 26 (llunio codau ymarfer)—

(a)yn is-adran (2)(d) ar ôl “Act” mewnosoder “and the Human Transplantation (Wales) Act 2013”;

(b)ar ddiwedd is-adran (3) ychwaneger “(including consent for the purposes of the Human Transplantation (Wales) Act 2013).”;

(c)yn is-adran (5)(b) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”.

(3)Yn adran 27 (darpariaeth mewn cysylltiad â chydsynio)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “section 2(7)(b)(ii) or 3(6)(c)“ rhodder “a provision listed in subsection (1A)”;

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Those provisions are—

(a)section 2(7)(b)(ii) or 3(6)(c) of this Act;

(b)section 4(3), 5(4), 6(3) or 7 of the Human Transplantation (Wales) Act 2013.;

(c)yn is-adran (4) yn lle “section 2(7)(b)(ii) or 3(6)(c)“ rhodder “a provision listed in subsection (1A)”;

(d)ar ôl is-adran (8) mewnosoder—

(8A)The duty under section 26(3) shall also have effect, in particular, to require the Authority to give practical guidance on the circumstances in which consent is deemed under section 4 (consent of adults that are not excepted) of the Human Transplantation (Wales) Act 2013.

(8B)In giving practical guidance on the circumstances in which consent is deemed the authority must, in particular, give guidance on how a relative or friend of long standing of the deceased can object on the basis of the deceased’s wishes.;

(e)yn is-adran (9) ar ôl “subsection (4)” mewnosoder “, except in so far as it applies to section 4(3), 5(4), 6(3) or 7 of the Human Transplantation (Wales) Act 2013.”;

(f)ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(10)The Welsh Ministers may by order amend subsection (4) in so far as it applies to section 4(3), 5(4), 6(3) or 7 of the Human Transplantation (Wales) Act 2013.

(11)Before making an order under subsection (10) the Welsh Ministers must carry out such public consultation as they consider appropriate.

(4)Yn adran 29 (cymeradwyo codau)—

(a)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Where a code of practice to which subsection (1) applies deals with a matter relating to the carrying on in Wales of a transplantation activity (within the meaning of the Human Transplantation (Wales) Act 2013) the Authority may not issue the code unless—

(a)a draft of it has been sent to and approved by the Welsh Ministers and laid by them before the National Assembly for Wales, and

(b)the National Assembly has approved the draft by resolution.;

(b)yn is-adran (2)(a) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(c)yn is-adran (3)(a) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(d)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)If the Welsh Ministers do not approve a draft sent to them under subsection (1A), they shall give reasons to the Authority.

(e)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)In calculating the period mentioned in subsection (1A) no account is to be taken of any time during which the National Assembly is dissolved or in recess for more than 4 days.

(5)Yn adran 52 (gorchmynion a rheoliadau) ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)No order under section 27(10) may be made by the Welsh Ministers unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I31A. 15(1)-(3), (4)(a)-(d), (5) mewn grym ar 12.9.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 2(b)

16Diwygiadau canlyniadol a chysylltiedig i Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004LL+C

(1)Mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1 (awdurdodi gweithgareddau at ddibenion rhestredig)—

(a)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Subsection (1) does not apply in relation to consent for transplantation activities done in Wales.;

(b)ar ôl is-adran (13) mewnosoder—

(14)In this section “transplantation activities” has the same meaning as in the Human Transplantation (Wales) Act 2013 (which makes provision in relation to consent for transplantation activities done in Wales).

(3)Yn adran 6 (gweithgareddau sy’n ymwneud â deunydd o oedolion nad yw’r galluedd ganddynt i gydsynio)—

(a)daw’r testun presennol yn destun is-adran (1), a

(b)ar ôl is-adran (1) ychwaneger—

(2)This section does not apply in relation to transplantation activities done in Wales.

(For provision in these circumstances see section 9 of the Human Transplantation (Wales) Act 2013).

(4)Yn adran 8 (cyfyngu ar weithgareddau mewn perthynas â deunydd a roddwyd) yn is-adran (6) ar ôl “section 1(1) to (3)” mewnosoder “or section 3(1) to (3) of the Human Transplantation (Wales) Act 2013”.

(5)Yn adran 15 (swyddogaethau cyffredinol yr Awdurdod Meinweoedd Dynol)—

(a)ym mharagraff (c)(i) ar ôl “this Part” mewnosoder “or under the Human Transplantation (Wales) Act 2013”;

(b)ym mharagraff (e) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(c)ym mharagraff (f) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers” ac yn lle “Assembly” rhodder “Ministers”.

(6)Yn adran 36 (adroddiad blynyddol)—

(a)yn is-adran (3)(b) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(b)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)The Welsh Ministers shall lay a copy of each report received by them under this section before the National Assembly for Wales.

(7)Yn adran 43 (preserfio deunydd at ei drawsblannu) ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)This section does not apply in relation to a part of a body lying in an institution in Wales.

(For provision in these circumstances see section 13 of the Human Transplantation (Wales) Act 2013).

(8)Yn adran 52 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)yn is-adran (3) yn lle “6,” rhodder “6(1),”;

(b)yn is-adran (7)(a) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(c)yn is-adran (8)—

(i)yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(ii)yn lle “section 6” rhodder “section 6(1)”;

(d)yn is-adran (10) yn lle “section 6” rhodder “section 6(1)”.

(9)Yn adran 58 (trosiannol), yn is-adran (5) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”.

(10)Yn adran 60 (cychwyn), yn is-adran (3) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”.

(11)Yn Atodlen 2 (yr Awdurdod Meinweoedd Dynol)—

(a)ym mharagraff 1(1)(c) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(b)ym mharagraff 13(a)(ii) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(c)ym mharagraff 16(4)(b) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”;

(d)ar ôl paragraff 16(5) mewnosoder—

(5A)The Welsh Ministers shall lay before the National Assembly for Wales each statement of accounts received by them under sub-paragraph (4).

(12)Yn Atodlen 5 (pwerau arolygu, mynd i mewn, chwilio ac ymafael)—

(a)ym mharagraff 3(1)(a) ar ôl “2” mewnosoder “or under the Human Transplantation (Wales) Act 2013”;

(b)ym mharagraff 5(2) ar ôl “2” mewnosoder “or under the Human Transplantation (Wales) Act 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I33A. 16 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(e)

17Diwygiad canlyniadol i Ddeddf Ewyllysiau 1837LL+C

Yn adran 1 o Ddeddf Ewyllysiau 1837 (ystyr geiriau penodol yn y Ddeddf hon), ar ôl “section 4 of the Human Tissue Act 2004” mewnosoder “or section 8 of the Human Transplantation (Wales) Act 2013”.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I35A. 17 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(e)

18Deunydd perthnasolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deunydd perthnasol” yw deunydd, nad yw’n gametau, ac sydd wedi ei gyfansoddi o gelloedd dynol neu’n eu cynnwys.

(2)Yn y Ddeddf hon, nid yw cyfeiriadau at ddeunydd perthnasol o gorff dynol yn cynnwys—

(a)embryonau y tu allan i’r corff dynol, neu

(b)gwallt ac ewinedd o gorff person byw.

(3)Yn yr adran hon, mae i “embryo” a “gametau” yr un ystyr ag “embryo” a “gametes” yn rhinwedd adran 1(1), (4) a (6) o Ddeddf Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol 1990 yn narpariaethau eraill y Ddeddf honno (ar wahân i adran 4A).

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I37A. 18 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(e)

19DehongliLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr â “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989;

  • mae i “deunydd perthnasol” (“relevant material”) yr ystyr a roddir yn adran 18; ac mae i “deunydd perthnasol a eithrir” (“excluded relevant material”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 7;

  • mae i “gweithgareddau trawsblannu” (“transplantation activities”) yr ystyr a roddir yn adran 3;

  • ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sydd wedi cyrraedd 18 mlwydd oed;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 mlwydd oed.

(2)At ddibenion adrannau 6, 7 ac 8, mae plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad os yw’n ymddangos i berson rhesymol bod gan y plentyn ddigon o ddealltwriaeth i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.

(3)Mae’r canlynol yn berthnasoedd cymhwysol at ddiben y Ddeddf hon—

(a)priod, partner sifil neu bartner;

(b)rhiant neu blentyn;

(c)brawd neu chwaer;

(d)tad-cu/taid neu fam-gu/nain , neu ŵyr neu wyres;

(e)plentyn i frawd neu chwaer;

(f)llys-dad neu lys-fam;

(g)hanner-brawd neu hanner-chwaer;

(h)cyfaill ers amser maith.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, mae person yn bartner i unigolyn arall os yw’r ddau ohonynt (p’un a ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw) yn byw fel partneriaid mewn perthynas deuluol barhaus.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3) drwy orchymyn.

(6)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at ddeunydd o gorff person byw yn cyfeirio at ddeunydd o gorff person sy’n fyw adeg y gwahanu,

(b)mae cyfeiriadau at ddeunydd o gorff person ymadawedig yn cyfeirio at ddeunydd o gorff person nad oedd yn fyw adeg y gwahanu, ac

(c)mae cyfeiriadau at gydsyniad datganedig yn cynnwys cydsyniad a roddwyd cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym.

(7)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at drawsblannu yn cyfeirio at drawsblannu i gorff dynol ac yn cynnwys trallwyso.

(8)At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw deunydd i’w ystyried yn ddeunydd o gorff dynol os yw wedi ei greu y tu allan i’r corff dynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I39A. 19 mewn grym ar 1.12.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(e)

20Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu atodol y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol.

(2)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(3)Cyn gwneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon rhaid i Weinidogion Cymru gynnal unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(5)Nid yw is-adrannau (3) a (4) yn gymwys i orchmynion o dan adran 21 (cychwyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)

I41A. 20 mewn grym ar 12.9.2015 gan O.S. 2015/1679, ergl. 2(c)

21CychwynLL+C

(1)Daw’r Ddeddf hon i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(2)Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (1) ddarparu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon i ddod i rym cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd gan ddechrau ar y diwrnod y mae’r Ddeddf yn cael Cydsyniad Brenhinol.

(3)Ni chaniateir i orchymyn a wneir o dan is-adran (1) gychwyn y ddarpariaeth a wnaed yn adran 14(3)(b) hyd oni fydd adran 43(5A) o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 wedi dod i rym.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—

(a)adran 1,

(b)adran 2,

(c)yr adran hon, a

(d)adran 22;

sydd i ddod i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael Cydsyniad Brenhinol.

(5)Caiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (1) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 21 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(4)(c)

22Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 22 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(4)(d)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill