- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Mai 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym:—
(a)adran 46(1)(b) (diddymu adrannau 61 i 63 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(1));
(b)adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n perthyn i ddarpariaethau Atodlen 4 y cyfeirir atynt yn is-baragraff (g) isod;
(c)adran 57 (diwygiadau i Ddeddf 1980 ac i Ddeddfau eraill) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r amnewidiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (ng) ac (h) isod;
(ch)adran 68 (mynediad cerbydau ar draws tir comin);
(d)adran 70(2) a (4) (mân ddiwygiadau);
(dd)adran 72 (darpariaethau dehongli Rhan II);
(e)Rhan IV (dynodi a rheoli ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol)(ac felly Atodlenni 13, 14 a 15);
(f)adran 96 (diwygiadau i adran 39 o Ddeddf 1981);
(ff)adran 102 i'r graddau y mae'n perthyn i'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (o) isod ;
(g)paragraffau 1, 4, 5 a 6 o Atodlen 4;
(ng)paragraff 18(a) o Atodlen 6 (diwygiadau i Ddeddf 1980) i'r graddau y mae'n amnewid am “118, 119,” yn adran 325(1)(d) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at adrannau 118, 118A, 119 a 119A;
(h)paragraff 19 o Atodlen 6 i'r graddau y mae'n amnewid am “gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus” yn adran 326(5) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at orchymyn diddymu croesfan reilffordd, gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus a gorchymyn gwyro croesfan reilffordd;
(i)Rhan I o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i fynediad i gefn gwlad) ac eithrio i'r graddau y mae'n diddymu:
(i)adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925(2);
(ii)paragraff 35A o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3); a
(iii)paragraff 13 o Atodlen 6 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994(4);
(l)Rhan II o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i hawliau tramwy cyhoeddus a thraffig ffyrdd) i'r graddau y mae'n diddymu adran 22(1)(a) o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (5));
(m)Rhan II o Atodlen 16 i'r graddau y mae'n diddymu adran 134(5) o Ddeddf 1980;
(n)Rhannau III a IV o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a bywyd gwyllt); ac
(o)Rhannau V a VI o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac i Ddeddf 1981).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys