Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1410 (Cy. 96) (C. 50)

CEFN GWLAD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

5 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1).

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001.

(2Yn y Gorchymyn hwn:

  • ystyr “Deddf 1980” (“the 1980 Act”) yw Deddf Priffyrdd 1980(2);

  • ystyr “Deddf 1981” (“the 1981 Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ac oni bai fod yna ddatganiad gwahanol mae cyfeiriadau at adrannau, Rhannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau a Rhannau o'r Ddeddf, ac Atodlenni iddi;

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwrnod Penodedig

2.  Mai 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym:—

(a)adran 46(1)(b) (diddymu adrannau 61 i 63 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(4));

(b)adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n perthyn i ddarpariaethau Atodlen 4 y cyfeirir atynt yn is-baragraff (g) isod;

(c)adran 57 (diwygiadau i Ddeddf 1980 ac i Ddeddfau eraill) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r amnewidiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (ng) ac (h) isod;

(ch)adran 68 (mynediad cerbydau ar draws tir comin);

(d)adran 70(2) a (4) (mân ddiwygiadau);

(dd)adran 72 (darpariaethau dehongli Rhan II);

(e)Rhan IV (dynodi a rheoli ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol)(ac felly Atodlenni 13, 14 a 15);

(f)adran 96 (diwygiadau i adran 39 o Ddeddf 1981);

(ff)adran 102 i'r graddau y mae'n perthyn i'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (o) isod ;

(g)paragraffau 1, 4, 5 a 6 o Atodlen 4;

(ng)paragraff 18(a) o Atodlen 6 (diwygiadau i Ddeddf 1980) i'r graddau y mae'n amnewid am “118, 119,” yn adran 325(1)(d) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at adrannau 118, 118A, 119 a 119A;

(h)paragraff 19 o Atodlen 6 i'r graddau y mae'n amnewid am “gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus” yn adran 326(5) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at orchymyn diddymu croesfan reilffordd, gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus a gorchymyn gwyro croesfan reilffordd;

(i)Rhan I o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i fynediad i gefn gwlad) ac eithrio i'r graddau y mae'n diddymu:

(i)adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925(5);

(ii)paragraff 35A o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(6); a

(iii)paragraff 13 o Atodlen 6 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994(7);

(l)Rhan II o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i hawliau tramwy cyhoeddus a thraffig ffyrdd) i'r graddau y mae'n diddymu adran 22(1)(a) o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (8));

(m)Rhan II o Atodlen 16 i'r graddau y mae'n diddymu adran 134(5) o Ddeddf 1980;

(n)Rhannau III a IV o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a bywyd gwyllt); ac

(o)Rhannau V a VI o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac i Ddeddf 1981).

Darpariaeth drosiannol

3.  Nid yw diddymiad adran 134(5) o Ddeddf 1980 sy'n cael ei gychwyn gan erthygl 2(d) ac (m) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o dan adran 134 o'r Ddeddf honno a gyflawnwyd cyn 1 Mai 2001.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (9).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai dapariaethau penodol o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Mai 2001, sef:

(1adran 57, mewn perthynas â pharagraff 18 ac 19 o Atodlen 6 (sy'n diwygio Deddf Priffyrdd 1980),

(2paragraffau 18(a) a 19 o Atodlen 6 i'r graddau y maent yn gwneud newidiadau mewn perthynas â gorchmynion diddymu a gwyro croesfannau rheilffordd,

(3adran 68 (sy'n perthyn i fynediad gan cerbydau ar draws tir comin),

(4adran 72 (sy'n cynnwys darpariaethau dehongli ar gyfer Rhan II o'r Ddeddf),

(5Rhan IV o'r Ddeddf, ac Atodlenni 13 a 14 iddi (sy'n diwygio'r gyfraith mewn perthynas ag ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol),

(6adran 102 (sy'n cyflwyno'r Atodlen diddymiadau) mewn perthynas â rhai diddymiadau yn Atodlen 16,

(7rhai diwygidau mân a chanlyniadol eraill i'r gyfraith.

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn sicrhau y bydd adran 134(5) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (sy'n cyfyngu'r personau sydd â'r hawl i erlyn tramgwydd o dan adran 134(4) o'r Ddeddf honno) yn dal yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau a gyflawnwyd cyn 1 Mai 2001.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill