Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2018 (Cy.139)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

17 Mai 2001

Yn dod i rym

1 Mehefin 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(1) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) (Diddymu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001.

Diddymu

2.  Mae Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) 1986(2) drwy hyn wedi'i ddiddymu mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

John Marek

Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Crafangau Crancod (Gwahardd eu Glanio) 1986 (“Gorchymyn 1986”), sydd eisoes wedi'i ddiddymu mewn perthynas â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (erthygl 2).

Gwaharddodd Gorchymyn 1986 lanio crafangau crancod yn y Deyrnas Unedig os ydynt wedi'u datod oddi ar grancod bwytadwy (Cancer pagurus) sydd wedi'u dal o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain. Gwnaed darpariaeth gysylltiedig ynddo hefyd ar gyfer gorfodi.

Erbyn hyn, gellir dod o hyd i ddarpariaethau ynghylch cadw crancod bwytadwy a chrafangau sydd wedi'u datod ar fwrdd llongau a'u glanio yn Erthygl 18.4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, t.1) ynghylch cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol ar gyfer diogelu organeddau morol ifanc.

Mae darpariaethau ar gyfer gorfodi'r cyfyngiadau a'r rhwymedigaethau a geir yn y Rheoliad hwnnw wedi'u gwneud yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000 (2000 Rhif 2230 (Cy. 148)) a ddaeth i rym ar 11 Medi 2000.

(1)

1967 p.84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) adran 19(1), a'i diwygio gan baragraff 38(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21) a pharagraff 43(2) a (3) o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).

Diwygiwyd adran 6, o ran ei heffaith, gan adran 33(1) o Ddeddf 1981 a'i diwygio gan O.S. 1999/1820, Atodlen 2, paragraff 43(6).

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) cafodd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 6(1) o Ddeddf 1967 eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru (a ddiffinnir yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) fel ei bod yn cynnwys “the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea”); mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn dal yn arferadwy gan y Gweinidogion.

Gweler adran 22(2) o Ddeddf 1967 i gael diffiniadau o “the Ministers” at ddibenion adrannau 1 a 15(3). Diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, paragraff 43(12) o Atodlen 2.

(2)

O.S. 1986/496. Cafodd y Gorchymyn ei ddiddymu gan O.S. 2000/1235 ac eithrio i'r graddau yr oedd yn rhan o Gyfraith yr Alban neu yn effeithiol mewn perthynas â Chymru. Cafodd ei ddiddymu mewn perthynas â'r Alban gan O.S.A. 2000/81.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill