- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'u gwneud
24 Mai 2001
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2.—(1) Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998(4)) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996(5) yn cael ei diwygio i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru yn unol â thestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2001
Rheoliad 2
1. Yng nghwestiwn 3.31, yn y lle priodol, mewnosodwch—
“Taliad o gronfeydd mynediad (myfyrwyr) £
£
Nodyn 86D
(Rhowch fanylion yr hyn y mae'r taliadau wedi'u bwriadu ar ei gyfer, e.e. gwres, prydau)”.
2. Yng nghwestiwn 3.34, yn lle “a 90B”, rhowch “, 90B a 90C”.
3. Ar ôl cwestiwn 3.34, mewnosodwch—
“3.34A Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner ar 1 Chwefror 2001 neu ar unrhyw adeg wedyn yn ymwneud â charchariad neu gaethiwed gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 90D”
4. Yng nghwestiwn 3.38, mewnosodwch—
5. Yn nodyn 59, ar ôl y geiriau “at ddibenion budd-dâl plant”, mewnosodwch “, neu sydd yng ngofal awdurdod lleol ac sydd wedi'i leoli gyda chi gan yr awdurdod”.
6. Yn nodyn 85, ar ôl “(darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr)”, mewnosodwch—
“;
grant ar gyfer prydau ysgol i blant dibynnol, neu ar gyfer prydau i blant dibynnol 3 neu 4 oed, a dalwyd yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(7)”.
7. Ar ôl nodyn 86C, mewnosodwch—
“86D. Rhaid i chi gynnwys unrhyw daliad o gronfeydd mynediad a fwriedir i'ch galluogi chi fel myfyriwr i dalu costau byw cyffredin - cost bwyd, tanwydd yr aelwyd, rhent, dillad, ac esgidiau - taliadau dwr neu'r Dreth Gyngor. Anwybyddir taliadau cronfeydd mynediad at y dibenion hyn hyd at £20 yr wythnos, ond fe ddylent gael eu cynnwys beth bynnag. Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a roddwyd at ddibenion eraill.”.
8. Ar ôl nodyn 90B, mewnosodwch—
“90C. Peidiwch â chynnwys—
unrhyw gyfandaliad lwfans cynhaliaeth sy'n daladwy mewn perthynas â chymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogi;
unrhyw daliad mewn cysylltiad â chynllun i leihau tan-feddiannaeth, a wnaed o dan reoliad 11 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000(8).
90D. Os oes taliad ex gratia o £10,000 wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 1 Chwefror 2001 neu wedyn oherwydd bod (a) chi, (b) eich partner, (c) priod i chi sydd wedi marw, neu (ch) priod i'ch partner sydd wedi marw, wedi'u carcharu neu wedi'u caethiwo gan y Japaneaid yn yr Ail Ryfel Byd, caiff y swm hwnnw ei anwybyddu fel cyfalaf.”(9).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau..)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (OS 1998/1113 fel y'i diwygiwyd).
Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996 (OS 1996/2891 fel y'i diwygiwyd).
Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2073) (Cy.145) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890).
Gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 101.
1996 p.53; cafodd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.
O.S. 1998/1113, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2316, 1999/3470 (Cy. 56) a 2000/1735 (Cy. 119).
O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, 1997/809, 1999/1607, 1999/3470 (Cy.56) a 2000/1735 (Cy. 119).
Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000, O.S. 2000/637.
Rheoliadau Diwygio Nawdd Cymdeithasol (Anwybyddu Cyfalaf) 2001, O.S. 2001/22.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys