Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3762 (Cy.311)

AER GLÅN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001

Wedi'i gwneud

20 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

17 Rhafyr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2001.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993

2.  Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm anweddolrwydd isel a'r tanwyddau a ddisgrifir yn Atodlen 1 yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993.

Diddymu ac eithrio

3.—(1Mae'r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 2 wedi'u diddymu.

(2Bydd unrhyw danwydd a weithgynhyrchwyd cyn 17 Rhagfyr 2001 a oedd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn danwydd awdurdodedig yn parhau yn danwydd awdurdodedig er bod y Rheoliadau a restrir yn Atodlen 2 wedi'u diddymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Tachwedd 2001

Rheoliad 2

ATODLEN 1TANWYDDAU AWDURDODEDIG

1  Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, County Durham—

(a)sy'n cynnwys golosg petrolewm (sef 60 i 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo anweddolrwydd isel a golosg adweithiol (sef 20 i 25 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 73 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

2  Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 25 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c)yn frics glo ar siâp gobennydd gydag un llinell wedi'i hindentio ar un ochr a dwy linell wedi'u hindentio ar yr ochr arall ac sy'n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

3  Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 i 85 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at ryw 30 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at ryw 15 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glos heb eu marcio ar siâp clustog sy'n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

4  Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys llwch glo caled (sef 20 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef 40 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef 12 i 22 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid fforsfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C,

(c)sy'n frics glo ar siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

5  Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon—

(a)sy'n cynnwys cwyr hydrin (sef rhyw 55 y cant o'r cyfanswm pwysau), blawd llif pren caled (sef rhyw 45 y cant o'r cyfanswm pwysau) a lleithder (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c)sy'n foncyffion tân, rhyw 255 milimetr eu hyd a 75 milimetr eu diamedr, a chyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol, yn pwyso 1.3 chilogram (net) ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

6  Bryant and May Firelogs a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria—

(a)sy'n cynnwys cwyr paraffin (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), pren poplys mâl (sef rhyw 25 y cant o'r cyfanswm pwysau), blawd gwenith (sef rhyw 15 y cant o'r cyfanswm pwysau), solidau cyneuadwy ar wasgar mewn cwyr paraffin ar ffurf jel (sef rhyw 1 y cant o'r cyfanswm pwysau) a dŵ r, cyfryngau chwyddo a chadwolyn (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu hallwthio;

(c)y mae iddynt drawstoriad cwadrant o ryw 80 milimetr o radiws, ac sy'n rhyw 265 milimetr o hyd gyda stribyn cynnau ar hyd un ymyl, ac sy'n pwyso rhyw 1.15 cilogram; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

7  Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczon aowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl—

(a)sy'n cynnwys golosg glo meddal (sef rhyw 45 i 95 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo caled (sef rhyw 0 i 20 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 0 i 20 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 110°C;

(c)sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

8  Coalite a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, yn ymyl Chesterfield, Derbyshire ac yn Grimethorpe, South Yorkshire drwy ddefnyddio proses carboneiddio tymheredd isel.

9  Golosg a weithgynhyrchir gan—

(a)Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdre, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, a'i werthu fel “Sunbrite”;

(b)Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire a'i werthu fel “Sunbrite” neu “Monckton Boiler Beans”;

(c)Corus UK Limited yn Teesside Works, Redcar & Cleveland a'i werthu fel “Redcar Coke Nuts (Doubles)”; ac

(ch)Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdre, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf a'i werthu fel “Cwm Coke Doubles”.

10  Cosycoke (sy'n cael ei farchnata hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus) a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire ac Aimcor Supercoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, sydd ym mhob achos—

(a)yn cynnwys golosg caled o faint penodol (sef rhyw 45 i 65 y cant o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm o faint penodol (sef gweddill y pwysau);

(b)wedi'i weithgynhyrchu o'r cyfansoddion hynny drwy eu cyfuno;

(c)o hap-siapiau heb eu marcio; ac

(ch)heb fod yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

11  Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 96 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;

(c)sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd mewn dau faint sydd, ar gyfartaledd yn pwyso 37 gram yn achos y maint lleiaf a 48 gram yn achos y maint mwyaf; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

12  Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft mbH yn Hückelhoven, Yr Almaen—

(a)sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 95.5 y cant o'r cyfanswm pwysau) a lleisw ammonium lignosulphonate yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c)sy'n frics glo ariannaidd ar siâp clustog a'r llythrennau “S” a “J” wedi'u marcio arnynt ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)sy'n cynnwys rhyw 1.2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

13  Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Defumage yn Rouen, Ffrainc—

(a)sy'n cynnwys llychau Cymreig wedi'u golchi (sef rhyw 92 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr pyg glo (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 330°C;

(c)sy'n ofoidau â thair llinell ar un ochr a'r ochr arall yn llyfn ac sy'n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.8 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

14  Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 40 i 70 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), cols (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 5 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sydd fel brics glo gorffenedig yn cynnwys nid llai na 9 y cant ac nid mwy na 15 y cant o fater anweddol o'r cyfanswm pwysau pan fyddant yn sych;

(ch)sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; a

(d)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

15  Homefire ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 57 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 17 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 13 y cant o'r cyfanswm pwysau) a thriagl ac asid ffosfforig yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo ar siâp gobennydd â dwy linell gyfochrog wedi'u hindentio yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

16  Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 50 i 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 45 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 5 i 17 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n frics glo ar siâp gobennydd â dwy linell gyfochrog wedi'u hindentio yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

17  Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America—

(a)sy'n cynnwys golosg petrolewm;

(b)a weithgynhyrchwyd o'r golosg petrolewm drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm;

(c)sy'n hap-siapiau heb eu marcio ac sy'n pwyso 80 gram ar gyfartaledd (Island Lump) neu 30 gram ar gyfartaledd (Island Nuts); ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

18  Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 30 i 50 y cant o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm Long Beach (sef rhyw 50 i 70 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr carbohydrad (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 150°C;

(c)sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 33 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

19  Long Beach Lump nuts (sydd fel arall yn cael eu hadnabod fel LBL nuts), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America—

(a)sy'n cynnwys golosg petrolewm (sef rhyw 85 i 100 y cant o'r cyfanswm pwysau), calchfaen (sef rhyw 0 i 10 y cant o'r cyfanswm pwysau) a phyg tar glo (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm;

(c)sy'n hap-siapiau heb eu marcio; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

20  Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 84 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar 250°C;

(c)sy'n frics ar siâp clustog wedi'u marcio â'r llythyren “M” ac sy'n pwyso 35 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

21  Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 84 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C;

(c)sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

22  Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys llwch glo caled (sef rhyw 65 i 85 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo ar siâp ofoidau â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

23  Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, East Riding of Yorkshire—

(a)sy'n cynnwys sglodion pren (sef rhyw 40 i 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr Cwyr Palmwydden (sef rhyw 45 i 60 y cant o'r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys gwasgu'r cynhwysion, ar ôl eu cymysgu, ar ryw 40°C i 50°C;

(c)sy'n foncyffion tân petryal caled â dwy agen ddofn sy'n gorgyffwrdd yn yr wyneb uchaf, un agen ddi-dor yn yr wyneb isaf, ac sy'n pwyso 1.8 cilogram; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

24  Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 75 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo a golosg adweithiol (sef rhyw 21 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu hallwthio;

(c)sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

25  Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H.J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, County Durham—

(a)sy'n cynnwys golosg metelegol (sef rhyw 40 i 60 y cant o'r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu cyfuno a'u sgrinio;

(c)sy'n hap-siapiau heb eu marcio; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.95 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

26  Supacite briquettes, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys gronynnau glo caled (sef rhyw 84 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 12 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 240°C;

(c)sy'n ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 45 gram; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

27  Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham—

(a)sy'n cynnwys cyfuniad (mewn cyfrannedd o 19:1) o lo caled a glo canolig ei anweddolrwydd (sef rhyw 93 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

28  Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 36 i 51 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 40 i 55 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

29  Brics glo Taybrite (sydd fel arall yn cael eu hadnabod fel brics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 60 i 80 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)sy'n frics glo ar siâp gobennydd sydd wedi'u marcio ag un llinell wedi'i hindentio yn rhedeg yn hydredol ar hyd pob wyneb, yn gorwedd 10 milimetr oddi wrth y llinell gyfatebol neu heb eu marcio, ac sydd yn y naill achos a'r llall yn pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

30  Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 90 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy na 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 2DIDDYMIADAU

Y Rheoliadau sydd wedi'i diddymu:—

  • Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) 1991 (O.S. 1991/1282)

  • Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/72)

  • Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Rhif 2) 1992 (O.S. 1992/3148)

  • Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1993 (O.S. 1993/2499)

  • Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1996 (O.S. 1996/1145)

  • Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/2658)

  • Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/2154)

  • Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio Rhif 2) 1998 (O.S. 1998/3096)

  • Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) (O.S. 2000/3156 (Cy.205))

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Pan fydd mwg yn cael ei ollwng o simnai mewn ardal rheoli mwg a bod y simnai honno naill ai—

(a)yn simnai adeilad; neu

(b)yn simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol (heb fod yn simnai adeilad),

mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn darparu bod meddiannydd yr adeilad, neu yn ôl fel y digwydd, y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau, yn euog o dramgwydd. Mae'n amddiffyniad os gellir dangos mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r holl Reoliadau blaenorol ar danwyddau awdurdodedig ac yn pennu'r holl danwyddau sy'n danwyddau awdurdodedig ar hyn o bryd at ddibenion Deddf 1993. Mae'r tanwyddau a bennir wedi'u hawdurdodi i gael eu defnyddio yng Nghymru. Er bod y rhan fwyaf o'r tanwyddau yn y rheoliadau hyn wedi bod yn danwyddau awdurdodedig o'r blaen, mae disgrifiad llawer ohonynt wedi'i ddiwygio i adlewyrchu newidiadau wrth eu gweithgynhyrchu neu yn y lle gweithgynhyrchu. Mae nifer o danwyddau awdurdodedig blaenorol na chredir eu bod yn cael eu gweithgynhyrchu neu eu marchnata yn y Deyrnas Unedig wedi'u tynnu oddi ar y rhestr o danwyddau awdurdodedig.

Mae Bord na Móna Firelogs, Bryant and May Firelogs, a brics glo Charglow wedi'u hawdurdodi i gael eu defnyddio am y tro cyntaf.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi ac yn disodli Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) 1991 (O.S.1991/1282), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1992 (O.S.1992/72), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Rhif 2) 1992 (O.S.1992/3148), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1993 (O.S.1993/2499), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1996 (O.S.1996/1145), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1997 (O.S.1997/2658), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) 1998 (O.S.1998/2154), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio Rhif 2) 1998 (O.S.1998/3096) a Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S 2000/3156 (Cy. 2000/205 )).

Gall tanwydd a weithgynhyrchwyd cyn 17 Rhagfyr 2001 ac a awdurdodwyd gan y Rheoliadau a ddiddymir gan y Rheoliadau hyn gael ei ddefnyddio er gwaethaf y diddymu.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill