Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae “aelod o'r Arolygiaeth” (“member of the Inspectorate”) yn gyfystyr â “member of the Inspectorate” yn adran 46(1) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(1);

  • mae “anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs”) yn gyfystyr â “special educational needs” yn adran 312(1) o Ddeddf 1996;

  • ystyr “arolygydd cofrestredig” (“registered inspector”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn arolygydd yn unol ag adran 7(1) a (2) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996;

  • ystyr “athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person y rhoddwyd awdurdodiad iddo neu iddi yn unol â Rhan III o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(2);

  • ystyr “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sydd, yn rhinwedd y rheoliadau(3) ynglŷn â chyflogi athrawon sydd mewn grym o bryd i'w gilydd o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4) â chymhwyster i gael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol o'r math a ddisgrifir yn is-adran (12) o'r adran honno;

  • ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “cyfarfod adolygu blynyddol” (“annual review meeting”) yw cyfarfod i adolygu datganiad o anghenion addysgol arbennig fel y cyfeirir ato yn rheoliadau 15(5), 16(3) a 17(3) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 1994(5)) ;

  • ystyr “cyfleusterau amser hamdden” (“leisure- time facilities”) yw cyfleusterau o fath y mae awdurdodau addysg dan ddyletswydd i sicrhau eu bod yn cael eu darparu o fewn i'w hardaloedd a ‘r ddyletswydd honno wedi'i gosod gan adrannau 2(3)(b) a 508(1) o Ddeddf 1996;

  • ystyr “cyfnodau allweddol 1, 2, 3 a 4” (“key stages 1, 2, 3 and 4”) yw'r cyfnodau a bennir ym mharagraffau (a), (b), (c) a (d), yn y drefn honno, o adran 355(1) o Ddeddf 1996;

  • mae “cynllun asesu sylfaenol” (“baseline assessment scheme”) yn gyfystyr â “baseline assessment scheme” yn adran 15 o Ddeddf Addysg 1997(6);

  • ystyr “cynllun datblygu ysgol” (“school development plan”) yw cynllun a baratowyd gan gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw ac sy'n nodi cyrchnodau'r ysgol a'r camau sy'n angenrheidiol dros y blynyddoedd nesaf i alluogi'r ysgol i symud tuag at gyflawni'r cyrchnodau hynny;

  • ystyr “cynllun strategol addysg” (“education strategic plan”) yw cynllun datblygu addysg a baratowyd gan awdurdod addysg yn unol ag adran 6 o Ddeddf 1998;

  • ystyr “cynorthwyydd anghenion arbennig” (“special needs assistant”) yw person sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg neu gorff llywodraethu ysgol sydd fel arfer yn bresennol mewn ystafell ddosbarth gydag athro neu athrawes ac sy'n cynorthwyo'r athro neu'r athrawes mewn perthynas â phlant ac iddynt anghenion addysgol arbennig;

  • ystyr “cynorthwyydd ystafell ddosbarth” (“classroom assistant”) yw person sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg neu gan gorff llywodraethu ysgol ac sydd fel arfer yn bresennol mewn ystafell ddosbarth gydag athro neu athrawes ac sy'n cynorthwyo'r athro neu athrawes;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(7) ;

  • mae “disgybl” (“pupil”) yn gyfystyr â “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant yn unol â'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu” (“National Grid for Learning”) yw'r system o rwydweithiau cydgysylltiol a gwasanaethau addysg sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd ac sydd wedi'i gynllunio i gefnogi addysgu, dysgu, hyfforddi a gweinyddu mewn ysgolion, y gwasanaeth addysg ehangach, a'r gymuned;

  • ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”) yw unrhyw wariant a gymeradwywyd yn ôl darpariaeth rheoliad 3;

  • ystyr “gwariant a ragnodwyd” (“prescribed expenditure”) yw gwariant gan awdurdod addysg ar gyfer unrhyw bwrpas neu mewn cysylltiad ag unrhyw bwrpas a bennir yn yr Atodlen;

  • ystyr “gweithiwr ieuenctid a chymuned neu weithwraig ieuenctid a chymuned” (“youth and community worker”) yw person sy'n cael ei gyflogi mewn cysylltiad â chyfleusterau amser hamdden, heblaw i wneud gwaith gweinyddol, ysgrifenyddol, clerigol neu gorfforol yn unig;

  • ystyr “mentor” (“mentor”) yw pennaeth profiadol sy'n rhoi cyngor a chymorth i gefnogi datblygiad proffesiynol pennaeth dibrofiad;

  • ystyr “penderfynu” (“determine”) yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig;

  • ystyr “person a enwyd” (“named person”) yw person y mae'r awdurdod addysg yn fodlon ei fod yn gallu (gyda golwg ar unrhyw feini prawf a nodir yn y Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996(8)) darparu gwybodaeth gywir a chyngor doeth i riant am anghenion addysgol arbennig ei blentyn, ac sy'n cytuno i gael ei enwi'n berson y caiff y rhiant geisio'r wybodaeth a'r cyngor hwnnw ganddo pan fydd yr awdurdod addysg yn cyflwyno copi o ddatganiad o anghenion addysgol arbennig y plentyn i'r rhiant yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996;

  • mae “person ifanc” (“young person”) yn gyfystyr â “young person” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

  • mae “safle ysgol” (“school site”) yn gyfystyr â “school site” ym mharagraff 2(11) o Atodlen 3 i Ddeddf 1998;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg;

  • ystyr “ysgol brif-ffrwd” (“mainstream school”) yw ysgol a gynhelir nad yw'n ysgol arbennig;

  • ystyr “ysgol haf ar lythrennedd” (“summer literacy school”) yw cynllun sy'n diwgydd yn ystod gwyliau'r haf ac sydd wedi'i anelu at godi safonau llythrennedd disgyblion sydd ar fin ymuno ag ysgol uwchradd;

  • ystyr “ysgol haf ar rifedd” (“summer numeracy school”) yw cynllun sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r haf ac sydd wedi'i anelu at godi safonau rhifedd disgyblion sydd ar fin ymuno ag ysgol uwchradd;

  • mae “ysgol arbennig” (“special school”) yn gyfystyr â “special school” yn adran 337(1) o Ddeddf 1996(9).

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grantiau yn daladwy ar ei gyfer

3.  Ni fydd grantiau ond yn daladwy ar gyfer gwariant a ragnodwyd ac a dynnwyd neu a dynnir yn ystod blwyddyn ariannol ac ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant hwnnw am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Grantiau ar gyfer taliadau i drydydd partïon

4.  Os —

(a)bydd awdurdod addysg yn gwario wrth wneud taliadau, boed er mwyn cynnal, cynorthwyo neu wneud rhywbeth arall, i unrhyw gorff arall neu bersonau eraill (gan gynnwys awdurdod addysg arall) sy'n gwario at ddibenion addysgol neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)byddai gwariant y sawl sy'n derbyn y taliadau neu unrhyw ran ohonynt yn wariant a ragnodwyd petai'n wariant yr awdurdod,

rhaid i'r taliadau hynny, i'r graddau hynny, gael eu trin yn wariant a ragnodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cyfradd y Grantiau

5.  Rhaid talu grantiau ar gyfer gwariant a gymeradwywyd ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny a'r rheiny o'r math y cyfeirir atynt yn y paragraffau o'r Atodlen a restrir yn y golofn ar y chwith i'r tabl isod yn ôl cyfradd ganrannol y gwariant a bennir mewn perthynas ag ef yn y golofn ar y dde i'r tabl.

TABL

Paragraff yr AtodlenCyfradd ganrannol y grant
12100
9(c)100
3(b)100
5(c)70
Pob paragraff arall60

Amodau talau grantiau

6.—(1Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog o'r awdurdod sy'n gyfrifol am weinyddu eu cyllid neu ei ddirprwy.

(2Rhaid i geisiadau am dalu grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (3) a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y gwneir cais am grant ar ei gyfer ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd y bydd yn cael ei dynnu gan yr awdurdod addysg yn ystod pob un o'r cyfnodau hynny.

(3Y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)o 1 Ebrill hyd at 31 Gorffennaf;

(b)o 1 Awst hyd at 31 Rhagfyr;

(c)o 1 Ionawr hyd at 31 Mawrth.

(4Os cyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd iddo gael ei dynnu yn ystod y cyfnod sy'n ymestyn o 1 Ionawr hyd at 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn o dan baragraff (1), ceir gwneud yn ddi-oed unrhyw daliad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno nad yw'n fwy na thri chwarter o'r grant y gwnaed cais amdano mewn perthynas â'r gwariant hwnnw, ac eithrio pan fydd yn penderfynu fel arall, ond ni thelir grant pellach ar gyfer y gwariant hwnnw hyd nes cyflwyno datganiad yn unol â pharagraff (5)(a).

(5Rhaid i bob awdurdod addysg a dderbyniodd grant neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw—

(a)gyflwyno datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ac mae'n rhaid i'r datganiad hwnnw bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y mae cais wedi'i wneud neu'n cael ei wneud am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod y flwyddyn honno; a

(b)sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif wedi'i llofnodi gan archwilydd a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adrannau 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1988(10) ac sy'n ardystio bod y manylion a roddwyd yn y datganiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn, ym marn yr archwilydd, wedi'u datgan yn deg a bod y gwariant a dynnwyd wedi'i gymeradwyo at ddibenion adran 484 o Ddeddf 1996(11).

(6Ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 31 Rhagfyr mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ond nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b) am y flwyddyn honno.

(7Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n dal heb ei dalu ar ôl derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b), heb ragfarnu camau i adennill unrhyw ordaliad o unrhyw daliad dilynol o grant i'r awdurdod addysg, gael ei addasu â thaliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol.

7.  Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, ar adeg cymeradwyo gwariant at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn mynnu gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddiben a restrir yn yr Atodlen, bydd talu'r grant at y diben hwnnw yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg i gael taliad y grant.

8.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol o bryd i'w gilydd benderfynu ar amodau pellach y bydd talu yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.

(2Os penderfynwyd ar amodau yn unol â'r rheoliad hwn ni cheir talu grant oni fydd yr amodau hynny wedi'u cyflawni neu wedi'u tynnu'n ôl yn unol â pharagraff (3).

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio'r amodau y penderfynwyd arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy

9.  Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei fynnu, roi iddo unrhyw wybodaeth bellach y bydd yn ei mynnu i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu'n briodol o dan y Rheoliadau hyn.

10.  Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion (gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag ad-dalu'r grant neu dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw symiau sy'n perthyn i werth asedau a gaffaelwyd, a ddarparwyd neu a wellhawyd drwy gymorth grant neu log ar symiau sy'n ddyledus iddo) y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.

11.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod yn rhaid i unrhyw awdurdod addysg ddirprwyo penderfyniadau ynghylch gwario—

(a)grant, a

(b)symiau a ddyrennir gan yr awdurdod i gwrdd â gwariant a ragnodwyd ac a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 3,

i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, ar ôl ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio gofynion y penderfynir arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Darpariaethau diddymu ac eithriadu

12.  Drwy hyn mae Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2000(12) yn cael eu diddymu, ond bydd y rheoliadau hynny'n parhau'n gymwys i daliadau grant a awdurdodwyd gan y Rheoliadau hynny mewn perthynas â gwariant a dynnwyd ar y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, neu cyn hynny, ac i unrhyw amod neu ofyniad a bennwyd gan y Rheoliadau sydd wedi'u diddymu, nac yn unol â hwy.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethool o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)

D. Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2001

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill