- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog o'r awdurdod sy'n gyfrifol am weinyddu eu cyllid neu ei ddirprwy.
(2) Rhaid i geisiadau am dalu grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (3) a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y gwneir cais am grant ar ei gyfer ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd y bydd yn cael ei dynnu gan yr awdurdod addysg yn ystod pob un o'r cyfnodau hynny.
(3) Y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)o 1 Ebrill hyd at 31 Gorffennaf;
(b)o 1 Awst hyd at 31 Rhagfyr;
(c)o 1 Ionawr hyd at 31 Mawrth.
(4) Os cyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd iddo gael ei dynnu yn ystod y cyfnod sy'n ymestyn o 1 Ionawr hyd at 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn o dan baragraff (1), ceir gwneud yn ddi-oed unrhyw daliad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno nad yw'n fwy na thri chwarter o'r grant y gwnaed cais amdano mewn perthynas â'r gwariant hwnnw, ac eithrio pan fydd yn penderfynu fel arall, ond ni thelir grant pellach ar gyfer y gwariant hwnnw hyd nes cyflwyno datganiad yn unol â pharagraff (5)(a).
(5) Rhaid i bob awdurdod addysg a dderbyniodd grant neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw—
(a)gyflwyno datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ac mae'n rhaid i'r datganiad hwnnw bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y mae cais wedi'i wneud neu'n cael ei wneud am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod y flwyddyn honno; a
(b)sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif wedi'i llofnodi gan archwilydd a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adrannau 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1988(1) ac sy'n ardystio bod y manylion a roddwyd yn y datganiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn, ym marn yr archwilydd, wedi'u datgan yn deg a bod y gwariant a dynnwyd wedi'i gymeradwyo at ddibenion adran 484 o Ddeddf 1996(2).
(6) Ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 31 Rhagfyr mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ond nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b) am y flwyddyn honno.
(7) Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n dal heb ei dalu ar ôl derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b), heb ragfarnu camau i adennill unrhyw ordaliad o unrhyw daliad dilynol o grant i'r awdurdod addysg, gael ei addasu â thaliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diwygiwyd adran 484 gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 125 o Atodlen 30 iddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys