Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Teitl, cychwyn, a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 ac mae'n dod i rym ar 12 Ebrill 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Estyn y diffiniad o “poultry” a “disease”

2.—(1Mae'r diffiniad o “poultry” yn adran 87(4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn cael ei estyn i gynnwys pob aderyn.

(2Mae'r diffiniad o “disease” yn adran 88(3) o'r Ddeddf yn cael ei estyn i gynnwys pob clefyd adar.

Dehongli

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn —

  • mae “aderyn” (“bird”) yn cynnwys dofednod, os na fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall;

  • ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas dofednod neu unrhyw aderyn ac eithrio dofednod, yn ôl gofynion y cyd-destun, ac mae'n cynnwys rhan o garcas;

  • ystyr “clefyd dynodedig” (“designated disease”) yw paramycsofirws 1 mewn colomennod, ffliw adar a chlefyd Newcastle;

  • ystyr “colomen rasio” (“racing pigeon”) yw unrhyw golomen sy'n cael ei chludo neu y bwriedir ei chludo o'i cholomendy (sef, unrhyw sefydliad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cadw neu fridio colomennod rasio) i'w rhyddhau er mwyn iddi allu hedfan yn ddirwystr yn ôl i'w cholomendy neu i unrhyw gyrchnod arall;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw safle sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer magu neu gadw dofednod bridio neu ddofednod cynhyrchiol ac sydd ag un Rhif daliad plwyf sirol yn cael ei gydnabod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol fel yr un sy'n dynodi'r daliad hwnnw;

  • ystyr “diheintio” (“disinfect”) yw diheintio â diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(1) at ddibenion y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, adar di-gêl, ffesantod a phetris;

  • ystyr “Prif Swyddog Milfeddygol” (“Chief Veterinary Officer”) yw Prif Swyddog Milfeddygol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;

  • ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r arolygydd milfeddygol a benodwyd am y tro gan yr Ysgrifennydd Gwladol i gael gwybodaeth am adar â chlefyd neu adar dan amheuaeth, neu garcasau yn yr ardal y mae'r adar neu'r carcasau hynny wedi'u lleoli ynddi; ac

  • mae “safle” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeiladau ac unrhyw le arall.

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad neu drwydded a gyflwynir neu a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn neu o dan Orchymyn datganiadol a wnaed o dan erthygl 9 isod fod yn ysgrifenedig a gallant fod yn gyffredinol neu'n benodol yn ddarostyngedig i amodau neu gellir eu diwygio, eu gohirio neu eu dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

Y gweithdrefnau hysbysu a'r rhagofalon sydd i'w cymryd os amheuir bod clefyd dynodedig yn bresennol

4.—(1Rhaid i berson a chanddo yn ei feddiant neu o dan ei ofal unrhyw aderyn neu garcas â chlefyd dynodedig, neu yr amheuir bod arno glefyd o'r fath —

(a)hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith, a

(b)cymryd bob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfedd â'r cyfyngiadau a'r gofynion sydd wedi'u nodi yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

(2Rhaid i berson sy'n archwilio unrhyw aderyn neu garcas neu'n edrych yn fanwl arno neu sy'n dadansoddi unrhyw sampl a gymerwyd o unrhyw aderyn neu garcas, ac sy'n amau bod clefyd dynodedig yn bresennol yn yr aderyn, y carcas neu'r sampl hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith.

Y cyfyngiadau os amheuir bod clefyd

5.—(1Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros amau naill ai —

(a)bod clefyd dynodedig yn bodoli neu wedi bodoli ar unrhyw safle (p'un a yw hysbysiad wedi'i roi o dan erthygl 4 neu beidio), neu

(b)bod dofednod ar unrhyw safle wedi bod yn agored i risg clefyd dynodedig,

(c)rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraff (3), gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y safle neu i geidwad unrhyw adar ar y safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

(2Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros amau bod adar ar unrhyw safle wedi bod yn agored i risg unrhyw glefyd, caiff gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y safle neu i geidwad unrhyw adar ar y safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

(3Yn achos unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan baragraffau (1)(b) neu (2) caiff arolygydd milfeddygol—

(a)datgymhwyso un neu fwy o'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn,

(b)cyfyngu ar y gofynion sy'n gymwys i ran o'r safle ac i'r adar sydd wedi'u cynnwys yno, ar yr amod bod yr adar wedi'u lletya, eu cadw a'u bwydo yno ar wahân i adar sydd wedi'u cadw mewn rhannau eraill o'r safle ac wedi'u cadw a'u bwydo gan staff gwahanol.

(4At ddibenion paragraff (1)(a) mae “arolygydd milfeddygol” yn cynnwys arolygydd.

(5Yn yr erthygl hon, mae bod yn agored i risg clefyd yn cynnwys bod yn agored, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o ganlyniad i symudiad personau, anifeiliaid neu gerbydau, neu mewn unrhyw ffordd arall.

Ymchwiliad milfeddygol ynglŷn â bodolaeth clefyd

6.—(1Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno yn unol ag is-baragraff (1)(a) o erthygl 5, rhaid i arolygydd milfeddygol fynd ar y safle sy'n destun yr hysbysiad a gwneud yr ymholiadau, yr archwiliadau a'r profion a chymryd y samplau (gan gynnwys adar byw a charcasau), sy'n angenrheidiol er mwyn canfod a oes clefyd yn bodoli yno neu wedi bodoli yno, ac, yn benodol, i gadarnhau

(i)pa mor hir y mae'r clefyd wedi bodoli ar y safle,

(ii)tarddiad posibl y clefyd ar y safle,

(iii)pa safle allai fod wedi bod yn agored i halogiad â'r clefyd o'r safle sy'n destun yr ymchwiliad, a

(iv)i ba raddau y mae clefyd wedi'i gario i'r safle sy'n destun yr ymchwiliad neu ohono.

(2Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno yn unol ag is-baragraff (1)(b) o erthygl 5 neu baragraff (2) o erthygl 5, rhaid i arolygydd milfeddygol

(a)gwneud unrhyw ymholiadau y mae eu hangen er mwyn darganfod unrhyw seiliau rhesymol dros amau clefyd, ac wrth wneud hynny, caiff gynnal archwiliadau a phrofion a chymryd samplau fel y gwêl yn dda;

(b)cyfrif y dofednod; a

(c)monitro eu symudiadau.

(3Caiff arolygydd milfeddygol farcio, neu beri marcio, at ddibenion adnabod unrhyw aderyn, unrhyw garcas neu unrhyw beth arall y mae unrhyw un o'r pwerau o dan baragraffau (1) a (2) wedi'i arfer mewn perthynas ag ef, neu beri iddynt gael eu marcio felly.

(4Rhaid i samplau gael eu casglu a phrofion labordy gael eu cynnal o dan yr erthygl hon (mewn perthynas â ffliw adar) yn unol ag Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC ac, (mewn perthynas â chlefyd Newcastle a pharamycsofirws mewn colomennod), yn unol ag Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/66/EEC.

(5Rhaid i feddiannydd y safle neu geidwad unrhyw adar ar y safle neu unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi ganddo roi unrhyw gymorth rhesymol i arolygydd milfeddygol y bydd arno ei angen er mwyn arfer ei bwerau o dan baragraffau (1), (2) a (3) uchod.

Y mesurau i'w cymryd os cadarnheir bod clefyd dynodedig

7.—(1Pan fydd presenoldeb clefyd dynodedig ar safle yn cael ei gadarnhau gan y Prif Swyddog Milfeddygol neu gan berson sydd wedi'i awdurdodi ganddo —

(a)yn achos dofednod, rhaid i arolygydd milfeddygol, a

(b)yn achos adar caeth eraill neu golomennod rasio, caiff arolygydd milfeddygol

drwy hysbysiad a gyflwynir i feddiannydd y safle neu geidwad unrhyw adar ar y safle, osod gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn ychwanegol i'r amodau a osodir yn rhinwedd yr hysbysiadau a gyflwynir o dan erthygl 5.

(2Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o'r fath hefyd i feddiannydd safle, neu geidwad adar ar safle, a hwnnw'n safle sydd, oherwydd ei leoliad, ei ddyluniad neu ei gysylltiad â safle (yng Nghymru neu mewn man arall), lle mae presenoldeb clefyd dynodedig wedi'i gadarnhau yno gan y Prif Swyddog Milfeddygol neu gan berson sydd wedi'i awdurdodi ganddo, yn cynnwys dofednod, adar caeth eraill neu golomennod rasio a allai, ym marn yr arolygydd milfeddygol, fod wedi bod yn agored i risg clefyd dynodedig.

Dyletswyddau meddianwyr safleoedd a phersonau y mae safleoedd o dan eu gofal y cyflwynwyd hysbysiadau iddynt

8.—(1Rhaid i berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan y Gorchymyn hwn —

(a)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfedd â'r hysbysiad oni bai ei fod wedi'i awdurdodi i wneud fel arall o dan drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol; a

(b)rhoi unrhyw gymorth rhesymol y bydd ar yr arolygydd milfeddygol ei angen er mwyn arfer ei bwerau o dan erthygl 5, 7 ac 8.

(2Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad neu ofyniad sy'n cael ei osod drwy hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd neu swyddog arall i'r Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu arolygydd i awdurdod lleol

(a)atafaelu neu beri atafaelu unrhyw beth sydd wedi'i symud yn groes i'r hysbysiad a'i gadw mewn unrhyw fan y mae'n barnu ei bod yn briodol nes bod yr hysbysiad yn cael ei dynnu'n ôl; neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw gyfyngiad neu ofyniad sy'n cael ei osod drwy'r hysbysiad neu sicrhau y gweithredir y cyfyngiad neu'r gofyniad hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd o dan baragraff (2) fod heb ragfarn i unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi yn sgil mynd yn groes i hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn hwn.

(4Bydd person sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad sy'n cael ei gyflwyno o dan y Gorchymyn hwn yn atebol am unrhyw gostau a dynnir o dan baragraff (2) uchod.

Datgan ardal heintiedig

9.—(1Pan fydd presenoldeb clefyd dynodedig mewn dofednod mewn unrhyw ardal yng Nghymru neu mewn man arall yn cael ei gadarnhau gan y Prif Swyddog Milfeddygol neu gan berson sydd wedi'i awdurdodi ganddo, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy Orchymyn datganiadol, ddatgan bod y rhan o'r ardal honno sydd yng Nghymru yn ardal heintiedig.

(2Pan fydd presenoldeb clefyd dynodedig mewn adar caeth ac eithrio dofednod neu mewn colomennod rasio mewn unrhyw ardal yng Nghymru neu mewn man arall yn cael ei gadarnhau gan y Prif Swyddog Milfeddygol neu gan berson sydd wedi'i awdurdodi ganddo a phan gaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ei fodloni bod presenoldeb y clefyd hwnnw mewn adar o'r fath yn golygu risg difrifol i ddofednod, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy Orchymyn datganiadol, ddatgan bod y rhan o'r ardal honno sydd yng Nghymru yn ardal heintiedig.

(3Rhaid i ardal aros yn ardal heintiedig tan unrhyw ddyddiad sydd wedi'i nodi yn y Gorchymyn datganiadol, neu, os nad oes un, nes bod y Gorchymyn datganiadol yn cael ei dynnu'n ôl.

(4Bernir bod unrhyw safle sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i ardal heintiedig yn gyfan gwbl y tu mewn i'r ardal honno.

(5Gall Gorchymyn datganiadol fod yn gymwys i bob aderyn neu i rywogaethau dynodedig.

(6Rhaid i Orchymyn datganiadol ddarparu ar gyfer rhannu'r ardal heintiedig yn barthau diogelu a pharthau goruchwylio, a'r parth diogelu wedi'i seilio ar radiws o dri chilometr o leiaf, a'r parth diogelu hwnnw ei hun wedi'i gynnwys mewn parth goruchwylio wedi'i seilio ar radiws o ddeg cilometr o leiaf, a hynny wedi'i seilio ar ganol y safle lle mae clefyd wedi'i gadarnhau, neu ar unrhyw radiysau llai y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn eu datgan.

(7Bydd darpariaethau Atodlen II yn gymwys mewn ardal sydd wedi'i datgan yn ardal heintiedig ac eithrio i'r graddau y maent yn cael eu hamrywio neu eu heithrio drwy'r Gorchymyn datganiadol neu i'r graddau y byddai unrhyw beth a fyddai fel arall yn torri'r Gorchymyn hwn yn cael ei awdurdodi drwy drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.

Ardaloedd brechu

10.  Pan fydd Gorchymyn yn cael ei wneud o dan erthygl 9(1) uchod, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn y modd y mae'r naill neu'r llall ohonynt yn credu ei fod yn briodol, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw rywogaethau dofednod yn cael eu brechu yn erbyn clefyd dynodedig yn yr ardal diriogaethol honno ac am y cyfnod y mae'r naill neu'r llall ohonynt yn credu ei fod yn briodol a bydd yn ddyletswydd ar bob perchennog dofednod a phob person y mae dofednod o dan ei ofal yn yr ardal honno gydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw.

Colomennod rasio

11.—(1Rhaid i drefnydd sioe neu ras sy'n cael ei chynnal yn gyfan gwbl neu'n rhannol yng Nghymru sicrhau bod pob colomen rasio sydd wedi'i chofnodi ar gyfer ras neu'r sioe wedi'i brechu yn erbyn paramycsofirws 1 mewn colomennod.

(2Rhaid i bob person sy'n berchennog ar golomennod rasio neu'n eu cadw gadw cofnod o bob ras neu sioe y mae'n rhoi colomennod ynddynt.

Diheintio

12.—(1Rhaid i'r person y mae safle o dan ei ofal a hwnnw'n safle lle mae dofednod neu golomennod rasio yn cael neu wedi cael eu datgelu i'w gwerthu neu eu harddangos lanhau a diheintio'n drylwyr y safle hwnnw, ei ffitiadau ac unrhyw gynhwysydd a ddefnyddiwyd ar gyfer datgelu neu arddangos yr adar hynny cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddynt gael eu defnyddio a beth bynnag cyn iddynt gael eu defnyddio eto.

(2Caiff arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae unrhyw safle neu gerbyd o dan ei ofal y mae neu yr oedd unrhyw adar arno neu ynddo, fynnu bod y person hwnnw y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn glanhau a diheintio'r safle neu'r cerbyd ac unrhyw ffitiadau neu gynhwysydd yn y modd y mae'n ei fynnu a gwahardd symud adar i'r safle neu'r cerbyd nes bod y gwaith glanhau a diheintio wedi'i gwblhau er boddhad yr arolygydd.

(3Heb ragfarn i achos sy'n cael ei ddwyn o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, os na chydymffurfir â hysbysiad o dan yr erthygl hon, caiff unrhyw berson a awdurdodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol fynd ar y safle neu i mewn i'r cerbyd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a gwneud y gwaith glanhau a diheintio sy'n ofynnol a gellir adfer costau'r gwaith hwnnw oddi wrth y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

(4At ddibenion y Gorchymyn hwn mae “glanhau” yn cynnwys gwaredu bob llaesodr, baw a sylwedd arall mewn modd nad yw'n peri risg o ledaenu clefyd.

Cofnodion

13.—(1Rhaid i bob person sy'n meddu ar unrhyw haid dofednod, sy'n cynnwys o leiaf 250 o adar o unrhyw rywogaeth ar ddaliad unigol neu'n ei gadw, gadw cofnod ynglŷn â dofednod sy'n mynd i mewn i'w safle neu'n ymadael ag ef.

(2Rhaid i bob person sy'n ymwneud â chludo neu farchnata unrhyw ddofednod neu wyau (gan gynnwys unrhyw gigyddwr neu arwerthwr) gadw cofnod mewn perthynas â phob dofednod ac wyau sy'n cael eu cludo neu eu marchnata ganddo.

(3Rhaid i'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) a (2) uchod gynnwys mewn perthynas â'r dosbarth perthnasol o ddofednod a'u hwyau —

(a)dyddiad a man eu cael;

(b)eu rhywogaeth a disgrifiad ohonynt;

(c)enw a chyfeiriad y person y cafwyd hwy oddi wrtho;

(ch)dyddiad a modd eu gwaredu;

(d)man eu cigydda, os dyna oedd dull eu gwaredu; ac

(dd)enw a chyfeiriad y person y trosglwyddwyd y dofednod neu'r wyau iddo (os yw'n hysbys), os dyna oedd modd eu gwaredu.

(4Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei gadw am o leiaf 12 mis o ddyddiad y cludo neu'r marchnata cofnodedig.

(5Rhaid i berson sy'n cadw unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan yr erthygl hon ei ddangos ar bob adeg resymol i arolygydd os gofynnir iddo wneud hynny a rhaid iddo ddarparu copïau iddo os gofynnir iddo wneud hynny.

Trwyddedau

14.  Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn —

(a)cadw'r drwydded gydag ef ar bob adeg yn ystod y symudiad trwyddedig;

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu swyddog arall i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol neu gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol, dangos y drwydded a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni gael ei gymryd, ac

(c)os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi ei enw a'i gyfeiriad.

Pwerau cyffredinol arolygwyr

15.  Caiff arolygydd milfeddygol sy'n mynd ar unrhyw safle o dan y Gorchymyn hwn fynd ag unrhyw bersonau ac unrhyw bethau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef at unrhyw ddiben sy'n ymwneud â chyflawni a gorfodi'r Gorchymyn hwn.

Gorfodi

16.  Rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, gael eu cyflawni a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Dirymiadau a diwygiadau

17.  Dirymir Gorchymyn Clefydau Dofednod 1994(2) a Gorchymyn Clefydau Dofednod (Diwygio) 1997(3) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mike German

Dirprwy Brif Weinidog, Y Gweinidog dros Ddatblygu Gweldig a Chymru Dramor

4 Ebrill 2003

E.A. Morley

Is-ysgrifennydd Seneddol,

Adran yr Amgylchedd,

Bwyd a Materion Gwledig

9 Ebrill 2003

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill