- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
28 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2)(b) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbed) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date” ) yw 30 Medi 2004; a
(b)mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ac Atodlenni iddi(1).
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. Yn ddarostyngedig i'r arbedion yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar y dyddiad cychwyn—
(a)yn Rhan 2 (tai)—
(i)adran 13 (gwaharddebion yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol pan fydd landlordiaid cymdeithasol penodol yn gwneud cais amdanynt);
(ii)adran 14 ac Atodlen 1 (diogelwch deiliadaeth: ymddygiad gwrthygymdeithasol) (tenantiaethau isradd) i'r graddau y maent yn rhoi'r pwer i wneud rheoliadau;
(iii)adran 16 (achosion meddiannu: ymddygiad gwrthgymdeithasol); a
(iv)adran 17 (datganoli: Cymru);
(b)yn Rhan 9 (pwerau amrywiol) adran 91 (adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2): pwer arestio sydd ynghlwm wrth waharddeb).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Medi 2004
1. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Bennod 3 o Ran 5 o Ddeddf Tai 1996 (b) gan adran 13 yn effeithiol mewn perthynas ag —
(a)unrhyw gais am waharddeb o dan adran 152, neu unrhyw gais y mae adran 153 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo, ac a ddyroddwyd cyn y dyddiad cychwyn; neu
(b)unrhyw waharddeb a roddir yn unol â'r cais hwnnw; neu
(c)unrhyw bwer arestio sydd ynghlwm wrth unrhyw ddarpariaeth merwn gwaharddeb; neu
(ch)unrhyw orchymyn llys arall a roddir, neu achos sy'n codi, mewn cysylltiad â'r cais hwnnw neu'r waharddeb honno.
2. Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Tai 1985(4) a Deddf Tai 1988(5) gan adran 16 yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw achos meddiannu ty annedd a ddechreuwyd cyn y dyddiad cychwyn.
3. Ni fydd adran 91 yn effeithiol mewn perthynas ag—
(a)unrhyw gais am waharddeb o dan adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(6) a ddyroddwyd cyn y dyddiad cychwyn;
(b)unrhyw waharddeb a roddir yn unol â'r cais hwnnw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mewn perthynas â Chymru, daw'r Gorchymyn hwn â rhai o ddarpariaethau Rhan 2 (Tai) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i rym, yn ddarostyngedig i'r arbedion yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae adran 13 yn disodli adrannau 152 a 153 o Ddeddf Tai 1996 gan ddarpariaethau newydd sy'n caniatáu i awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac ymddiriedolaethau gweithredu tai i wneud cais am waharddebion yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â'u rheolaeth o'u stoc neu sy'n effeithio ar y rheolaeth honno.
Mae adrannau 14 a 15 yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol wneud cais am orchmynion israddio os bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r gorchymyn israddio yn dod â thenantiaeth ddiogel neu denantiaeth sicr tenant i ben a rhoi yn ei lle ffurf newydd ar denantiaeth isradd ac iddi lai o ddiogelwch deiliadaeth. Caiff adran 14 ac Atodlen 1 eu cychwyn yn awr i'r graddau ei bod yn rhoi pwer i wneud rheoliadau.
Mae adran 16 yn diwygio disgresiwn y llys pan fydd yn ystyried hawliadau am feddiannu ty annedd (a osodir ar denantiaeth sicr neu denantiaeth ddiogel) a wneir ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pwysau digonol yn cael eu rhoi i effaith unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae adran 17 yn sicrhau bod holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n codi o'r diwygiadau i'r Deddfau Tai a grybwyllwyd, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'w cyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym, mewn perthynas â Chymru, adran 91 sy'n caniatáu i awdurdod lleol wneud cais am bwer arestio fod ynghlwm wrth unrhyw waharddeb a geir o dan adran 222 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r gwaharddeb hwnnw yn un sydd i wahardd ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cynnwys arbedion sy'n ymwneud â'r diwygiadau i Ddeddfau Tai 1985, 1988 a 1996 ac a gychwynnwyd gan y Gorchymyn hwn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael neu yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran neu Atodlen | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
1 i 11 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
18 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
23 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
25 i 29 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
30 i 38 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(1) a (2) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(3) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(3) (y gweddill) | 30 Ebrill 2004 | 2003/3300 |
39(4), (5) a (6) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
46 | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
53 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
54 | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
57 i 59 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
60 i 64 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
85(1), (2) a (3) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
85 (4) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
85(4) (y gweddill) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
85(5) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
85(6) (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
85(6) (y gweddill) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
85(7) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
85(8) | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
85(9), (10) ac (11) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
86(1) a (2) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
86(3) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
86(3) (y gweddill) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
86(4), (5) a (6) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
87 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
88 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
89(1), (2), (3) a (4) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
89(5) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
89(6) a (7) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
90 | 31 Gorffennaf 2004 | 2004/1502 |
92 (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
92 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
92 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran neu Atodlen | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
40 i 45 | 31 Mawrth 2004 | 2004/999 (Cy.105) |
47 i 52 | 31 Mawrth 2004 | 2004/999 (Cy.105) |
55 i 56 | 31 Mawrth 2004 | 2004/999 (Cy.105) |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: