- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'i wneud
30 Mawrth 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004.
2. Mae darpariaethau canlynol Rhan 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn dod i rym ar 31 Mawrth 2004 mewn perthynas â Chymru —
(a)adran 40 (cau mangreoedd swnllyd);
(b)adran 41 (cau mangreoedd swnllyd: atodol);
(c)adran 42 (ymdrin â sŵ n yn y nos);
(ch)adran 43 (hysbysiadau cosbau ar gyfer graffiti a gosod posteri);
(d)adran 44 (ystyr tramgwydd perthnasol);
(dd)adran 45 (derbynebau a derbyniadau cosbau);
(e)adran 47 (dehongli etc.);
(f)adran 48 (hysbysiadau cael gwared ar graffiti);
(ff)adran 49 (adennill gwariant);
(g)adran 50 (canllawiau);
(ng)adran 51 (apelau);
(h)adran 52 (esemptiad rhag atebolrwydd mewn perthynas â hysbysiadau cael gwared ar graffiti);
(i)adran 55 (gwastraff a adawyd yn anghyfreithiol etc.); ac
(l)adran 56 (estyn pwerau awdurdod sbwriel i gymryd camau adfer).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2004, mewn perthynas â Chymru, ddarpariaethau penodol o Ran 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“ y Ddeddf”), sef:
(a)adran 40, sy'n rhoi pŵer i awdurdodau lleol i wneud gorchmynion cau mewn perthynas â mangreoedd swnllyd;
(b)adran 41, sy'n gwneud darpariaethau atodol mewn perthynas â gorchmynion cau;
(c)adran 42, sy'n diwygio Deddf Sŵ n 1996 i estyn y cymhwysiad adrannau 2 i 9 o'r Ddeddf honno at ardal pob awdurdod lleol, i roi disgresiwn i ymchwilio i gwynion am sŵ n yn y nos yn lle'r ddyletswydd y mae awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn ddarostyngedig iddi, ac i roi pŵer i wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ar gyfer pa ddibenion y ceir defnyddio'r derbyniadau cosb sy'n dod i law o dan adran 8 o'r Ddeddf honno;
(ch)adran 43, sy'n rhoi pŵer i awdurdodau lleol i ddyroddi hysbysiadau cosbau penodedig i bersonau sydd wedi cyflawni tramgwydd perthnasol yn ardal yr awdurdod;
(d)adran 44, sy'n diffinio ystyr “relevant offence” at ddibenion adran 43;
(dd)adran 45, sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r cosbau sy'n daladwy yn unol â'r hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43;
(e)adran 47, sy'n gwneud darpariaeth o ran dehongli termau penodol ac sy'n rhoi pŵer i'r person priodol (a ddiffinnir, mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru) i gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43;
(f)adran 48, sy'n rhoi pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau cael gwared ar graffiti i bersonau sy'n gyfrifol am arwynebau a ddifwynwyd gan graffiti;
(ff)adran 49, sy'n rhoi pŵer i awdurdodau lleol adennill oddi wrth y personau y cyflwynwyd hysbysiadau cael gwared ar graffiti iddynt unrhyw wariant a dynnwyd yn rhesymol gan yr awdurdod wrth gael gwared ar y difwyniad;
(g)adran 50, sy'n gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol yng Nghymru at ddibenion adrannau 48 a 49, ac sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol hynny i roi sylw i'r canllawiau hynny;
(ng)adran 51, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau cael gwared ar graffiti;
(h)adran 52, sy'n esemptio awdurdodau lleol a phersonau penodol rhag atebolrwydd dros ddifrod a ddaw o arfer neu honni arfer pwerau penodol ynghylch hysbysiadau cael gwared ar graffiti;
(i)adran 55, sy'n diwygio Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 a Deddf yr Amgylchedd 1995 i estyn pwerau gorfodi awdurdodau casglu gwastraff, ac sy'n mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi cyfarwyddiadau ynghylch y categorïau o wastraff a ddylai gael blaenoriaeth o dan adran 59 o'r Ddeddf honno a dyroddi hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth mewn perthynas ag arfer pwerau o dan adrannau 33(1) a 59 o'r Ddeddf honno; ac
(l)adran 56, sy'n diwygio adran 92 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i estyn y categorïau o dir y caiff prif awdurdodau sbwriel gymryd camau mewn perthynas â hwy.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael neu yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn ogystal â Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran neu Atodlen | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
1 i 11 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
18 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
23 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
25 i 29 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
30 i 38 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(1), (2), (3) (yn rhannol), (4), (5) a (6) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(3) (y gweddill) | 30 Ebrill 2004 | 2003/3300 |
53 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
57 i 59 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
60 i 64 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
85(1), (2), (3) a (4) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
85(8) | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
86(3) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
87 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
89(1), (2), (3), (4), (6) a (7) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
92 (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys