Search Legislation

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 999 (Cy.105) (C.43)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

CYFRAITH TROSEDD, CYMRU

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

30 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004

2.  Mae darpariaethau canlynol Rhan 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn dod i rym ar 31 Mawrth 2004 mewn perthynas â Chymru —

(a)adran 40 (cau mangreoedd swnllyd);

(b)adran 41 (cau mangreoedd swnllyd: atodol);

(c)adran 42 (ymdrin â sŵ n yn y nos);

(ch)adran 43 (hysbysiadau cosbau ar gyfer graffiti a gosod posteri);

(d)adran 44 (ystyr tramgwydd perthnasol);

(dd)adran 45 (derbynebau a derbyniadau cosbau);

(e)adran 47 (dehongli etc.);

(f)adran 48 (hysbysiadau cael gwared ar graffiti);

(ff)adran 49 (adennill gwariant);

(g)adran 50 (canllawiau);

(ng)adran 51 (apelau);

(h)adran 52 (esemptiad rhag atebolrwydd mewn perthynas â hysbysiadau cael gwared ar graffiti);

(i)adran 55 (gwastraff a adawyd yn anghyfreithiol etc.); ac

(l)adran 56 (estyn pwerau awdurdod sbwriel i gymryd camau adfer).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2004, mewn perthynas â Chymru, ddarpariaethau penodol o Ran 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“ y Ddeddf”), sef:

(a)adran 40, sy'n rhoi pŵer i awdurdodau lleol i wneud gorchmynion cau mewn perthynas â mangreoedd swnllyd;

(b)adran 41, sy'n gwneud darpariaethau atodol mewn perthynas â gorchmynion cau;

(c)adran 42, sy'n diwygio Deddf Sŵ n 1996 i estyn y cymhwysiad adrannau 2 i 9 o'r Ddeddf honno at ardal pob awdurdod lleol, i roi disgresiwn i ymchwilio i gwynion am sŵ n yn y nos yn lle'r ddyletswydd y mae awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn ddarostyngedig iddi, ac i roi pŵer i wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ar gyfer pa ddibenion y ceir defnyddio'r derbyniadau cosb sy'n dod i law o dan adran 8 o'r Ddeddf honno;

(ch)adran 43, sy'n rhoi pŵer i awdurdodau lleol i ddyroddi hysbysiadau cosbau penodedig i bersonau sydd wedi cyflawni tramgwydd perthnasol yn ardal yr awdurdod;

(d)adran 44, sy'n diffinio ystyr “relevant offence” at ddibenion adran 43;

(dd)adran 45, sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r cosbau sy'n daladwy yn unol â'r hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43;

(e)adran 47, sy'n gwneud darpariaeth o ran dehongli termau penodol ac sy'n rhoi pŵer i'r person priodol (a ddiffinnir, mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru) i gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43;

(f)adran 48, sy'n rhoi pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau cael gwared ar graffiti i bersonau sy'n gyfrifol am arwynebau a ddifwynwyd gan graffiti;

(ff)adran 49, sy'n rhoi pŵer i awdurdodau lleol adennill oddi wrth y personau y cyflwynwyd hysbysiadau cael gwared ar graffiti iddynt unrhyw wariant a dynnwyd yn rhesymol gan yr awdurdod wrth gael gwared ar y difwyniad;

(g)adran 50, sy'n gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol yng Nghymru at ddibenion adrannau 48 a 49, ac sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol hynny i roi sylw i'r canllawiau hynny;

(ng)adran 51, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau cael gwared ar graffiti;

(h)adran 52, sy'n esemptio awdurdodau lleol a phersonau penodol rhag atebolrwydd dros ddifrod a ddaw o arfer neu honni arfer pwerau penodol ynghylch hysbysiadau cael gwared ar graffiti;

(i)adran 55, sy'n diwygio Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 a Deddf yr Amgylchedd 1995 i estyn pwerau gorfodi awdurdodau casglu gwastraff, ac sy'n mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi cyfarwyddiadau ynghylch y categorïau o wastraff a ddylai gael blaenoriaeth o dan adran 59 o'r Ddeddf honno a dyroddi hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth mewn perthynas ag arfer pwerau o dan adrannau 33(1) a 59 o'r Ddeddf honno; ac

(l)adran 56, sy'n diwygio adran 92 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i estyn y categorïau o dir y caiff prif awdurdodau sbwriel gymryd camau mewn perthynas â hwy.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael neu yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn ogystal â Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran neu AtodlenDyddiad cychwynRhif O.S.
1 i 1120 Ionawr 20042003/3300
1827 Chwefror 20042003/3300
2327 Chwefror 20042003/3300
25 i 2927 Chwefror 20042003/3300
30 i 3820 Ionawr 20042003/3300
39(1), (2), (3) (yn rhannol), (4), (5) a (6)20 Ionawr 20042003/3300
39(3) (y gweddill)30 Ebrill 20042003/3300
5320 Ionawr 20042003/3300
57 i 5920 Ionawr 20042003/3300
60 i 6427 Chwefror 20042003/3300
85(1), (2), (3) a (4) (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
85(8)27 Chwefror 20042003/3300
86(3) (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
8720 Ionawr 20042003/3300
89(1), (2), (3), (4), (6) a (7)20 Ionawr 20042003/3300
92 (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300
Atodlen 3 (yn rhannol)20 Ionawr 20042003/3300

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources