Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 2

ATODLEN 1

Adrannau 1 i 6At bob diben.
Adran 7Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, at bob diben.
Adrannau 8 i 11At bob diben.
Adrannau 13 i 15At bob diben.
Adrannau 17 i 19At bob diben.
Is-adrannau (4) i (6) o adran 20At bob diben.
Is-adrannau (3) a (4) o adran 21At bob diben.
Adrannau 22 i 38At bob diben.
Adran 39At bob diben nad yw eisoes wedi'i chychwyn, ond dim ond o ran y cyfrifon neu'r datganiadau o gyfrifon a baratowyd o ran blwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny.
Adrannau 40 i 49At bob diben.
Adran 50 ac Atodlen 1At bob diben nad ydynt eisoes wedi'u cychwyn.
Adrannau 51 i 53At bob diben.
Adrannau 55 i 57At bob diben.
Rhan 3At bob diben.
Adran 65At bob diben.
Adran 66 ac Atodlen 2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, at bob diben.
Adran 67At bob diben.
Adrannau 69 i 70At bob diben.
Adran 72 ac Atodlen 4Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, at bob diben.

Erthygl 3

ATODLEN 2Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion

Pŵer yr Archwilydd Cyffredinol i godi ffi am archwilio cyfrifon.

1.  Er i adran 7 ac Atodlen 4 ddod i rym, mae adran 93(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) yn parhau i fod yn effeithiol, fel pe na bai'r Ddeddf wedi'i diddymu, i'r graddau y mae'n ymwneud â ffioedd ar gyfer archwilio cyfrifon y Cynulliad a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.

Rheoliadau cyfrifon ac archwilio

2.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys er—

(a)i adran 67 a pharagraffau 35, 36 a 38(3) o Atodlen 2, a

(b)i'r geiriau “or the National Assmebly for Wales” yn adran 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 gael eu diddymu(2).

(2Mae pŵer y Cynulliad i wneud rheoliadau o dan adrannau 27 a 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym, o ran cyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.

Deddf y Comisiwn Archwilio 1998: darpariaethau ynghylch adennill symiau nad oes cyfrif amdanynt

3.  Er i is-adrannau (1) a (2) o adran 69 a pharagraff 38(3) o Atodlen 2 ddod i rym—

(a)mae adran 2 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i barhau i fod yn gymwys i gyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) at ddibenion —

(i)adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno, i'r graddau bod yn ddarpariaeth honno'n cael ei harbed gan is-baragraff (c); a

(ii)adran 18 o'r Ddeddf honno, i'r graddau mae'r adran honno yn cael ei harbed gan is-baragraff (b);

(b)mae adran 18 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym—

(i)i'r graddau y mae'n ymwneud â chyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) a baratowyd o ran blwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005; a

(ii)er mwyn i swyddogaeth archwilydd o dan is-adran (1) o'r adran honno fod yn arferadwy yn unig o ran mater y mae etholwr llywodraeth leol wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn ei gylch o dan adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno;

(c)mae hawliau etholwr llywodraeth leol o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i ddod gerbron archwilydd ac i gyflwyno gwrthwynebiadau i aros mewn grym i'r graddau —

(i)y mae'r gwrthwynebiad yn ymwneud ag unrhyw fater y gallai archwilydd gymryd camau yn ei gylch o dan adran 18(1) o'r Ddeddf honno fel y mae wedi'i harbed gan is-baragraff (b);

(ii)mai cyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) yw'r cyfrifon dan sylw; a

(iii)yr oedd y cyfrifon dan sylw wedi'u paratoi o ran blwyddyn ariannol a oedd yn dechrau cyn 1 Ebrill 2005.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill