- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Wedi'i wneud
15 Tachwedd 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 107(4)(b) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.
2. Daw Rhan 6 (hawliau tramwy) o'r Ddeddf i rym ar 16 Tachwedd 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2005 (“y Ddeddf”), sydd wedi'i ffurfio o adrannau 66 i 72 o'r Ddeddf.
Mae adrannau 66 i 71 o'r Ddeddf yn diwygio'r gyfraith o ran hawliau tramwy a cherbydau a yrrir yn fecanyddol.
Mae adran 66 yn cyfyngu ar greu hawliau tramwy i gerbydau a yrrir yn fecanyddol. Mae adran 67 yn terfynu rhai hawliau tramwy cyhoeddus sy'n bodoli ond sydd heb eu cofnodi ar gyfer cerbydau a yrrir yn fecanyddol. Mae adrannau 68 a 69 yn diwygio Deddf Priffyrdd 1980 (p. 66). Mae adran 68 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhagdybio bod cilffordd gyfyngedig wedi'i chyflwyno o dan amgylchiadau priodol ar ôl 20 mlynedd o ddefnydd gan gerbydau (megis beiciau pedal) nas gyrrir yn fecanyddol. Mae adran 69 yn ymwneud â chyflwyniadau rhagdybiedig a cheisiadau o dan adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69), ac yn egluro, pan godir amheuaeth ynglŷn â hawl sydd gan y cyhoedd i ddefnyddio ffordd drwy gais am addasu'r map a'r datganiad diffiniol, bod y dyddiad y codir amheuaeth ynghylch hawl sydd gan y cyhoedd i'w drin fel y dyddiad y caiff y cais ei wneud. Mae adran 70 yn gwneud darpariaeth atodol ac mae adran 71 yn ddarpariaeth ddehongli.
Y map a'r datganiad diffiniol ar gyfer ardal yw'r cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus a baratoir ac y cedwir golwg arno gan yr awdurdod tirfesur ar gyfer yr ardal honno (sef y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal honno). Gellir edrych ar y map a'r datganiad diffiniol yn swyddfa'r cyngor ar bob adeg resymol.
Mae adran 72 yn mewnosod yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27) (“Deddf 1984”) adrannau newydd, sef 22BB a 22BC, sy'n rhoi i awdurdod Parc Cenedlaethol bŵer i wneud gorchmynion rheoleiddio traffig a gorchmynion eraill sy'n ymwneud â thraffig o dan Ddeddf 1984 mewn perthynas â ffyrdd yn y Parc Cenedlaethol sydd naill ai'n gilffyrdd ar agar i bob math o draffig, yn llwybrau troed neu'n llwybrau ceffylau neu'n gerbytffyrdd anseliedig. Mae'r adrannau newydd yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i wneud rheoliadau i addasu'r ffordd y cymhwysir Deddf 1984 mewn perthynas â gorchmynion penodol sy'n cael eu gwneud gan awdurdodau Parciau Cenedlaethol o dan yr adrannau newydd. Nid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu arfer y pwer hwn ar hyn o bryd.
Gellir cael esboniad manylach ar y darpariaethau yn y Nodiadau Esboniadol ar gyfer y Ddeddf, sydd ar gael o'r Llyfrfa, Blwch Post 29, Norwich NR3 1GN (neu ar lein yn www.opsi.gov.uk).
Gwnaed o dan y Ddeddf gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Gorchmynion Cychwyn a ganlyn y mae i rai o'u darpariaethau effaith yng Nghymru —
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn Rhif 1) 2006 (O.S. 2006/1176) (C.40).
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/1382) (C.47).
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2006 (O.So 2006/2541) (C.86).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys