- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
18.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am grant newydd at ffioedd o swm nad yw'n fwy na'r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid oes grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd —
(a)os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus;
(b)os yw'r cwrs dynodedig yn hen gwrs HCA ôl-radd hyblyg
(3) Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw'r un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys yw £1,890 neu y gwahaniaeth rhwng £1,255 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.
(4) Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys yw £945 neu y gwahaniaeth rhwng £625 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n berson y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
(6) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw myfyriwr a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys ar gyfer grant newydd at ffioedd os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod oddi tano yw paragraff 9.
(7) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr y mae ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariannir yn gyhoeddus yng Nghymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys