Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

Grantiau newydd at ffioedd

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am grant newydd at ffioedd o swm nad yw'n fwy na'r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd —

(a)os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus;

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn hen gwrs HCA ôl-radd hyblyg

(3Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw'r un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys yw £1,890 neu y gwahaniaeth rhwng £1,255 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.

(4Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(4) yn gymwys yw £945 neu y gwahaniaeth rhwng £625 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.

(5Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n berson y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(6Yn y Rheoliadau hyn, nid yw myfyriwr a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys ar gyfer grant newydd at ffioedd os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod oddi tano yw paragraff 9.

(7Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr y mae ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariannir yn gyhoeddus yng Nghymru.