Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cymhwyso'r cyfraniad

54.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae swm sy'n hafal i'r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5 i'w gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn —

(a)yn gyntaf, i ostwng GFF;

(b)yn ail, i ostwng ADG;

(c)yn drydydd, i ostwng CCG;

(ch)yn bedwerydd, i ostwng PLA;

(d)yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;

(dd)yn chweched, i ostwng GFT.

(2Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo swm sylfaenol y grant at ffioedd wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 16(1) a 16(7), i benderfynu swm gwirioneddol y grant at ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso'r cyfraniad yn unol â pharagraff (1);

(3Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, pan fo swm sylfaenol y grant at ffioedd wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 16(2) neu 16(8) a bod un o'r achosion a nodir yn rheoliad 16(4)(b) neu (ch) yn gymwys, i benderfynu swm gwirioneddol y ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)yn gyntaf, gymhwyso'r cyfraniad i ostwng swm sylfaenol y grant at ffioedd;

(b)yn ail, os nad yw'r cyfraniad wedi'i ddihysbyddu, didynnu swm sy'n hafal i swm sylfaenol y grant at ffioedd o'r hyn sydd ar ôl o'r cyfraniad sy'n gostwng gweddill y cyfraniad i ddim llai na dim; ac

(c)yn drydydd, os nad yw'r cyfraniad wedi'i ddihysbyddu o hyd, cymhwyso'r gweddill yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).

(4Os yw'r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs ar gyfer gradd gyntaf), nid oes unrhyw ddidyniad o'r swm sylfaenol o'r grant at ffioedd o dan y rheoliad hwn a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).

(5Yn achos blwyddyn Erasmus, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso'r swm y mae'r cyfraniad yn fwy na £1,255, yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).

(6Os nad yw'r myfyriwr yn ymgymhwyso i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, mae GFF yn ddim a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG.

(7Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, mae GFF yn ddim a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG.

(8Yn y rheoliad hwn—

(a)ADG yw swm y grant dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;

(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;

(c)GFT yw swm y grant at deithio y mae'r myfyriwr cymwys yn ymgymhwyso ar ei gyfer o dan reoliad 31, os oes unrhyw swm o gwbl;

(ch)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae'r myfyriwr cymwys (heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng) yn ymgymhwyso o dan Ran 6 i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (9);

(d)PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu'r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 29 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).

(9Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) a (11), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 54(1)(ch) yw —

(a)£2,685, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;

(b)£4,860, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;

(c)£4,135, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;

(ch)£4,135, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;

(d)£3,470, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs dwys y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw —

(a)£2,430, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;

(b)£4,425, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;

(c)£3,595, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;

(ch)£3,595, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;

(d)£3,215, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.

(11Os oes categorïau gwahanol yn gymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (9) a (10) yw cyfanswm y symiau a benderfynir o dan baragraff (12) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.

(12Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o'r swm ym mharagraff (9) neu (10) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.

(13Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £625 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £39,780.

(14Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyrwyr math 1 a math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sy'n ymgymhwyso i gael grant cynhaliaeth ac mae eu cyfraniad yn fwy na dim.

(15Mae'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy o ran blwyddyn academaidd i fyfyriwr y mae paragraff (14) yn gymwys iddo yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn—

A - B

lle—

  • A yw swm y benthyciad at gostau byw sydd ar ôl wedi gorffen cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r Rhan hon; a

  • B yw swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy i'r myfyriwr.

(16Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 49.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill