- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
54.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae swm sy'n hafal i'r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5 i'w gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn —
(a)yn gyntaf, i ostwng GFF;
(b)yn ail, i ostwng ADG;
(c)yn drydydd, i ostwng CCG;
(ch)yn bedwerydd, i ostwng PLA;
(d)yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;
(dd)yn chweched, i ostwng GFT.
(2) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo swm sylfaenol y grant at ffioedd wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 16(1) a 16(7), i benderfynu swm gwirioneddol y grant at ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso'r cyfraniad yn unol â pharagraff (1);
(3) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, pan fo swm sylfaenol y grant at ffioedd wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 16(2) neu 16(8) a bod un o'r achosion a nodir yn rheoliad 16(4)(b) neu (ch) yn gymwys, i benderfynu swm gwirioneddol y ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)yn gyntaf, gymhwyso'r cyfraniad i ostwng swm sylfaenol y grant at ffioedd;
(b)yn ail, os nad yw'r cyfraniad wedi'i ddihysbyddu, didynnu swm sy'n hafal i swm sylfaenol y grant at ffioedd o'r hyn sydd ar ôl o'r cyfraniad sy'n gostwng gweddill y cyfraniad i ddim llai na dim; ac
(c)yn drydydd, os nad yw'r cyfraniad wedi'i ddihysbyddu o hyd, cymhwyso'r gweddill yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).
(4) Os yw'r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs ar gyfer gradd gyntaf), nid oes unrhyw ddidyniad o'r swm sylfaenol o'r grant at ffioedd o dan y rheoliad hwn a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).
(5) Yn achos blwyddyn Erasmus, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso'r swm y mae'r cyfraniad yn fwy na £1,255, yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).
(6) Os nad yw'r myfyriwr yn ymgymhwyso i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, mae GFF yn ddim a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG.
(7) Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, mae GFF yn ddim a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)ADG yw swm y grant dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;
(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;
(c)GFT yw swm y grant at deithio y mae'r myfyriwr cymwys yn ymgymhwyso ar ei gyfer o dan reoliad 31, os oes unrhyw swm o gwbl;
(ch)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae'r myfyriwr cymwys (heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng) yn ymgymhwyso o dan Ran 6 i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (9);
(d)PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu'r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 29 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).
(9) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) a (11), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 54(1)(ch) yw —
(a)£2,685, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b)£4,860, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c)£4,135, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch)£4,135, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d)£3,470, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.
(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs dwys y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw —
(a)£2,430, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b)£4,425, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c)£3,595, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch)£3,595, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d)£3,215, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.
(11) Os oes categorïau gwahanol yn gymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (9) a (10) yw cyfanswm y symiau a benderfynir o dan baragraff (12) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(12) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o'r swm ym mharagraff (9) neu (10) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.
(13) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £625 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £39,780.
(14) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyrwyr math 1 a math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sy'n ymgymhwyso i gael grant cynhaliaeth ac mae eu cyfraniad yn fwy na dim.
(15) Mae'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy o ran blwyddyn academaidd i fyfyriwr y mae paragraff (14) yn gymwys iddo yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn—
A - B
lle—
A yw swm y benthyciad at gostau byw sydd ar ôl wedi gorffen cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r Rhan hon; a
B yw swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy i'r myfyriwr.
(16) Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 49.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: