Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1147 (Cy.102)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2010

Gwnaed

30 Mawrth 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), a pharagraff 22 o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “y BILl” (“the LHB”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(2);

  • ystyr “cyn Gomisiwn Iechyd Cymru” (“the former Health Commission Wales”) yw Comisiwn Iechyd Cymru a oedd yn gyfrifol hyd 31 Mawrth 2010 am arfer swyddogaethau comisiynu Gweinidogion Cymru yng Nghymru mewn perthynas â gwasanaethau gofal arbenigol a thrydyddol a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a wnaed ar 1 Hydref 2009;

  • ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2010; ac

  • ystyr “swyddfa CIC” (“the HCW office”) yw Uned 3a Parc Busnes Caerffili, Caerffili, CF83 3ED.

Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau

3.  Yn ddarostyngedig i erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, mae holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru sy'n ymwneud â gweithgareddau cyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn cael eu trosglwyddo i'r BILl ac yn cael eu breinio ynddo ar y dyddiad trosglwyddo.

Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Eithrir

4.  Nid yw'r eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau a grybwyllir yn erthyglau 3 a 5 yn cynnwys unrhyw un neu ragor o eiddo, hawliau neu rwymedigaethau Gweinidogion Cymru—

(a)mewn perthynas ag un o fuddiannau lesddaliadol swyddfa CIC yn unol â les ddyddiedig 4 Awst 2003 rhwng (1) Anthony Record ac I.P.M SIPP Cyf a (2) Cynulliad Cenedlaethol Cymru; neu

(b)mewn perthynas â chyfarpar neu raglenni technoleg gwybodaeth, systemau ffôn neu lungopïwr yn swyddfa CIC neu o dan unrhyw gontract ar gyfer cyflenwi, defnyddio neu gynnal a chadw unrhyw gyfarpar neu raglenni technoleg gwybodaeth, systemau ffôn neu lungopïwr yn swyddfa CIC.

Gorfodadwyedd Hawliau

5.  Yn ddarostyngedig i erthygl 4, mae unrhyw hawl a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy gan Weinidogion Cymru neu yn eu herbyn mewn perthynas â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn orfodadwy, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, gan y BILl neu yn ei erbyn.

Darparu ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau

6.—(1Mae unrhyw beth a wnaed ar neu cyn 31 Mawrth 2010 gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy ac sy'n ymwneud â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn cael ei drin fel pe bai wedi ei wneud gan y BILl neu mewn perthynas ag ef.

(2Bydd unrhyw apêl neu fater arall a oedd ar neu cyn 31 Mawrth 2010 yn cael ei ystyried gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn cael ei ystyried gan y BILl yn unol ag unrhyw Gyfarwyddiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Trosglwyddo dogfennau

7.  Bydd yr eiddo ym mhob dogfen (gan gynnwys dogfennau ar ffurf electronig) sydd ym meddiant Gweinidogion Cymru neu o dan eu rheolaeth mewn perthynas â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn trosglwyddo i'r BILl ac yn cael ei freinio ynddo ar y dyddiad trosglwyddo.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig neilltuol, mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo, ar 1 Ebrill 2010, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill