- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan drosglwyddir cofrestriad person yn unol â pharagraff 2(2);
(b)pan fo Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad perthnasol, wedi anfon hysbysiad at y person o'u bwriad i gymryd un o'r camau a grybwyllir yn adran 79L(1)(b) i (d) o Ddeddf 1989; ac
(c)y cam hwnnw heb gael effaith.
(2) Bydd hysbysiad a anfonwyd at y person o dan adran 79L(1) yn cael ei drin, ar ac ar ôl y dyddiad perthnasol, fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd o dan adran 36(3) o'r Mesur.
(3) Bydd person sydd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi rhoi gwybod i Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 79L(3) o Ddeddf 1989, am ei ddymuniad i wrthwynebu cymryd y cam hwnnw, yn cael ei drin fel pe bai'r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad o dan adran 36(6) o'r Mesur.
(4) Bydd gwrthwynebiad, a wnaed o dan adran 79L(3) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol yn erbyn cymryd cam, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag adran 36(6) o'r Mesur.
(5) Bydd hysbysiad, a anfonwyd gan Weinidogion Cymru at y person yn unol ag adran 79L(5) o Ddeddf 1989 cyn y dyddiad perthnasol, yn cael ei drin ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai'n hysbysiad a roddwyd yn unol ag adran 36(8) o'r Mesur.
(6) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, bydd hysbysiad yn parhau i gael effaith i'r graddau hynny, yn unig, ag y câi effaith pe bai wedi ei roi o dan adran 36 o'r Mesur.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys