- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
PYSGOD CREGYN
Gwnaed
27 Mehefin 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mehefin 2012
Yn dod i rym
18 Medi 2012
Gwnaed cais i Weinidogion Cymru gan Thomas Shellfish Limited (Rhif y Cwmni: 04751727) (“y Grantî”) am Orchymyn sy'n rhoi yr hawl i bysgodfa unigol o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967(1) (“y Ddeddf”).
Paratowyd Gorchymyn drafft gan Weinidogion Cymru a chyflwynwyd copi ohono i'r Grantî yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Parodd y Grantî fod copïau printiedig o'r Gorchymyn drafft yn cael eu cyhoeddi a'u cylchredeg, a rhoddodd hysbysiad o'r cais yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn gael ei wneud.
Mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylid gwneud y Gorchymyn canlynol yn awr.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1 o'r Ddeddf ac sydd bellach wedi eu breinio(2) ynddynt hwy.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Bae Abertawe (Thomas Shellfish Limited) 2012, a daw i rym ar 18 Medi 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “yr Ardal” (“the Area”) yw'r ardal o Fae Abertawe a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw'r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “cragen las” (“mussel”) yw unrhyw bysgodyn cragen o'r math Mytilus edulis;
ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967;
ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Thomas Shellfish Limited (Rhif y Cwmni: 04751727) sydd â'i swyddfa gofrestredig yn Druslyn House, Stryd De La Beche, Abertawe, SA1 3HJ, neu pa bynnag berson arall sydd â hawl i'r bysgodfa am y tro; ac
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3).
3. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, mae gan y Grantî yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision o fewn yr Ardal am gyfnod o 20 mlynedd sy'n dechrau ar 18 Medi 2012.
4. Rhaid i'r Grantî farcio terfynau'r Ardal ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd, a rhaid iddo gynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.
5.—(1) Rhaid i'r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion daliadau—
(a)ar gyfer y cyfnod o 18 Medi 2012 i 31 Mawrth 2013, ar neu cyn 31 Gorffennaf 2013; ac ar ôl hynny
(b)ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth, ar neu cyn 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben.
(2) Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—
(a)cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn cregyn gleision a heuir yn y bysgodfa;
(b)lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn cregyn gleision ohoni;
(c)cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl gregyn gleision a gymerir o'r bysgodfa;
(d)lleoliad y man y cymerwyd y cregyn gleision ohono; ac
(e)pa bynnag wybodaeth bellach a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.
6.—(1) Rhaid i'r Grantî roi i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o incwm a gwariant y Grantî o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Heb leihau dim ar effaith paragraff (1), rhaid i'r Grantî gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir gan Weinidogion Cymru am wybodaeth mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.
(3) Rhaid i'r Grantî ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio'r Ardal a'r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy'n ymwneud â'r Gorchymyn hwn, a rhaid iddo roi i'r person hwnnw unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r materion hyn, y gofynnir amdani gan y person hwnnw.
7. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint neu esemptiad y Goron, ac yn benodol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n awdurdodi'r Grantî i gymryd, defnyddio neu ymyrryd mewn unrhyw fodd ag unrhyw ran o lan neu wely'r môr neu lan neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu aber neu unrhyw dir, hereditamentau, gwrthrychau neu hawliau o unrhyw ddisgrifiad sy'n eiddo i'w Mawrhydi drwy hawl ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron.
8. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n lleihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.
9. Ni chaiff y Grantî, heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, aseinio'r hawl hwn i bysgodfa, na'i drosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, i unrhyw berson arall.
Alun Davies
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2012
Erthygl 2
Y rhan honno o wely'r môr ym Mae Abertawe sy'n ymestyn i tua 70 hectar, ac sydd oddi mewn i linell sy'n cysylltu'r cyfesurynnau a rifwyd 1 i 4 yn y tabl isod.
Pwynt | Lledred | Hydred |
---|---|---|
1 | 51° 35. 27' Go | 3° 58. 50' Gn |
2 | 51° 35. 20' Go | 3° 58. 20' Gn |
3 | 51° 34. 45' Go | 3° 58. 90' Gn |
4 | 51° 34. 40' Go | 3° 58. 50' Gn |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi i Thomas Shellfish Limited (Rhif y Cwmni: 04751727) (“y Grantî”) yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision (Mytilus edulis) dros arwynebedd o tua 70 hectar ym Mae Abertawe am gyfnod o 20 mlynedd sy'n dechrau ar 18 Medi 2012.
Diffinnir hyd a lled y bysgodfa drwy ddefnyddio'r cyfesurynnau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir, at ddibenion eglurhaol yn unig, ar fap sydd ar gael i'w archwilio (os gwneir apwyntiad ymlaen llaw) yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae erthygl 3 yn rhoi'r hawl i bysgodfa unigol.
Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn marcio terfynau'r bysgodfa ym mha bynnag fodd y bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo o bryd i'w gilydd, ac yn cynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.
Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn cyflwyno manylion daliadau yn flynyddol i Weinidogion Cymru, gan gynnwys gwybodaeth benodedig.
Mae erthygl 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn darparu cyfrifon blynyddol ac yn cydymffurfio â phob cais am wybodaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod y Grantî yn caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio ardal y bysgodfa a'r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy'n ymwneud â'r Gorchymyn hwn a'r ardal honno.
Mae erthygl 7 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith hawliau'r Goron, ac erthygl 8 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.
Mae erthygl 9 yn gwahardd aseinio, neu drosglwyddo rywfodd arall, yr hawl i bysgodfa unigol a grëir gan y Gorchymyn hwn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.
Os na fodlonir Gweinidogion Cymru bod Grantî yn ffermio'r bysgodfa neu'n gweithredu'r cyfyngiadau a'r rheoliadau a gynhwysir yn y Gorchymyn yn briodol, mae adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud tystysgrif i'r perwyl hwnnw, a fydd yn terfynu'r bysgodfa yn llwyr, o ran yr ardal y gwneir y dystysgrif mewn perthynas â hi.
1967 p.83. Diwygiwyd adran 1 o'r Ddeddf gan adran 15(1) a (2) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77); adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) (Diwygio) 1997 (p.3); adran 9(1) o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86) a pharagraff 15 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno; adrannau 202(1), (2) a (3), 203 a 321 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23), a Rhan 5(A) o Atodlen 22 i'r Ddeddf honno. Rhaid darllen y Ddeddf ar y cyd ag adran 15(3) i (5) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77). Diwygiwyd Atodlen 1 i'r Ddeddf gan adran 15(7) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), adran 31(6) o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977 (p.45), adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) ac adrannau 202(4), 214(1) i (4) a 321 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23) a Rhan 5(A) o Atodlen 22 i'r Ddeddf honno.
Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, trosglwyddwyd swyddogaethau “the appropriate Minister” fel y'i diffinnir yn adran 22(1) o'r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys