Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1797 (Cy.227)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Cymru) 2012

Gwnaed

6 Mehefin 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mehefin 2012

Yn dod i rym

1 Medi 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 5(4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Cymru) 2012, a deuant i rym ar 1 Medi 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu ac arbedion

2.—(1Mae'r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) 1980(2); a

(b)Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Diwygio) 1994(3).

(2Mae'r rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â'r cynigion hynny sydd wedi eu rhoi ar waith cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae “corff llywodraethu” (“governing body”) yn cynnwys corff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol ag adran 34 o Ddeddf 2002(4);

ystyr “cynigion” (“proposals”) yw'r cynigion y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5) ac sy'n gwneud y canlynol—

(a)

pennu oedran sy'n iau na 10 mlwydd 6 mis oed ac oedran sy'n hŷn na 12 mlwydd oed; a

(b)

darparu bod yr ysgol y mae'r cynigion yn ymwneud â hi i fod yn ysgol sy'n darparu addysg lawnamser sy'n addas i ofynion disgyblion rhwng yr oedrannau a bennir;

ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(6);

ystyr “dibenion y Ddeddf Addysg” (“Education Act purposes”) yw dibenion Deddf Addysg 1996 a'r deddfiadau eraill sy'n ymwneud ag addysg;

ystyr “hyrwyddwyr” (“promoters”) yw personau ar wahân i awdurdod lleol sydd wedi cyhoeddi cynigion i sefydlu ysgol newydd o dan adran 28(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “pedwerydd cyfnod allweddol” (“fourth key stage”) yw'r cyfnod a nodir yn adran 103(1)(d) o Ddeddf 2002;

ystyr “ystod oedran ysgol gynradd” (“primary age range”) yw'r ystod blynyddoedd pan fo disgybl rhwng 11 mlwydd oed a'r oedran ieuaf a bennir yn y cynigion; ac

ystyr “ystod oedran ysgol uwchradd” (“secondary age range”) yw'r ystod blynyddoedd pan fo disgybl rhwng 11 mlwydd oed a'r oedran hynaf a bennir yn y cynigion.

Dyfarnu bod ysgol ganol yn ysgol uwchradd

4.  Mae ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, i'w thrin yn ysgol uwchradd at ddibenion y Ddeddf Addysg—

(a)pan fo gan yr ysgol honno ystod oedran ysgol uwchradd ehangach o ddisgyblion nag o ddisgyblion o ystod oedran ysgol gynradd;

(b)pan fo'r ysgol yn bwriadu darparu addysg ar gyfer disgyblion hyd nes iddynt beidio â bod o'r oedran ysgol gorfodol mwyach neu eu bod yn hŷn na'r oedran ysgol gorfodol; ac

(c)(pan fo paragraff (b) yn gymwys) pan na fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud dyfarniad o dan reoliad 5(2).

Dyfarnu bod ysgol ganol yn ysgol gynradd

5.—(1Mae ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, i'w thrin yn ysgol gynradd at ddibenion y Ddeddf Addysg pan fo gan yr ysgol honno ystod oedran ysgol gynradd ehangach o ddisgyblion nag o ddisgyblion o ystod oedran ysgol uwchradd, ac—

(a)pan na fo rheoliad 4(b) yn gymwys; neu

(b)pan fo rheoliad 4(b) yn gymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud dyfarniad o dan baragraff (2).

(2Caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu bod ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, i'w thrin yn ysgol gynradd at ddibenion y Ddeddf Addysg—

(a)pan fo rheoliad 4(b) yn gymwys;

(b)pan fo'r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu'r hyrwyddwyr yn gofyn i Weinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan y rheoliad hwn; ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod dyfarniad o'r fath yn briodol.

Dyfarnu ynghylch ysgol ganol pan fo'r ystod oedran ysgol gynradd o ddisgyblion yn gyfartal â'r ystod oedran ysgol uwchradd o ddisgyblion

6.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu p'un a yw'r ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, i'w thrin at ddibenion y Ddeddf Addysg yn ysgol gynradd neu'n ysgol uwchradd—

(a)pan fo gan yr ysgol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, ystod oedran ysgol gynradd o ddisgyblion sy'n gyfartal â'r ystod oedran ysgol uwchradd o ddisgyblion; a

(b)pan na fo rheoliad 4(b) yn gymwys.

(2Cyn gwneud y dyfarniad hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfle i'r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu'r hyrwyddwyr wneud sylwadau; a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wneir ganddynt.

Dyfarnu bod ysgol ganol yn ysgol uwchradd at ddibenion adrannau 116A i 116K o Ddeddf 2002

7.  Pan ddyfarnwyd bod ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, yn ysgol gynradd yn unol â rheoliadau 5 neu 6, mae i'w thrin at ddibenion adrannau 116A i 116K o Ddeddf 2002 yn ysgol uwchradd pan fo gan yr ysgol honno ddisgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol.

Dyfarnu bod ysgol ganol yn ysgol gynradd neu'n ysgol uwchradd at ddibenion adran 101(1)(c) o Ddeddf 2002

8.  Pan ddyfarnwyd bod ysgol ganol, y mae'r cynigion yn ymwneud â hi, yn ysgol gynradd neu'n ysgol uwchradd yn unol â'r Rheoliadau hyn, mae i'w thrin at ddibenion adran 101(1)(c) o Ddeddf 2002—

(a)yn ysgol gynradd mewn perthynas â'r disgyblion iau yn yr ysgol; a

(b)yn ysgol uwchradd mewn perthynas â'r disgyblion hŷn yn yr ysgol.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

6 Mehefin 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) 1980 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Diwygio) 1994 o ran Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r amgylchiadau pan fo ysgol ganol i'w thrin naill ai'n ysgol gynradd neu'n ysgol uwchradd, at ddibenion y Deddfau Addysg.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod ysgol ganol i'w dyfarnu'n ysgol uwchradd pan fo gan yr ysgol honno ystod ehangach o ddisgyblion o oedran ysgol uwchradd nag o ddisgyblion o oedran ysgol gynradd, neu, oni wnaed dyfarniad o dan reoliad 5(2), pan fo'r ysgol honno yn darparu addysg hyd at yr oedran ysgol gorfodol neu ar ôl yr oedran hwnnw.

Mae rheoliad 5(1) yn darparu bod ysgol ganol i'w dyfarnu'n ysgol gynradd pan fo gan yr ysgol honno ystod ehangach o ddisgyblion o oedran ysgol gynradd nag o ddisgyblion o oedran ysgol uwchradd, a phan na fo'r ysgol honno yn darparu addysg hyd at yr oedran ysgol gorfodol nac ar ôl yr oedran hwnnw.

O dan reoliad 5(2), caiff Gweinidogion Cymru drin ysgol ganol yn ysgol gynradd pan fo'r ysgol dan sylw yn darparu addysg hyd at yr oedran ysgol gorfodol neu ar ôl yr oedran hwnnw, a phan fo naill ai'r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu'r hyrwyddwyr yn gofyn i Weinidogion Cymru wneud y dyfarniad hwnnw.

Mae gan Weinidogion Cymru hefyd y pŵer o dan reoliad 6 i ddyfarnu a yw ysgol ganol i'w thrin yn ysgol gynradd neu'n ysgol uwchradd pan fo gan yr ysgol dan sylw ystod gyfartal o ddisgyblion o oedran ysgol gynradd ac oedran ysgol uwchradd, a phan na fo'r ysgol honno yn darparu addysg hyd at yr oedran ysgol gorfodol. Rhaid i Weinidogion Cymru, o dan y rheoliad hwn, ganiatáu i'r awdurdod lleol, y corff llywodraethu neu'r hyrwyddwyr wneud sylwadau a rhaid iddynt ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

Mae rheoliad 7 yn darparu pan fo gan ysgol ganol ddisgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol fod yn rhaid ei thrin yn ysgol uwchradd at ddibenion adrannau 116A i 116K o Ddeddf Addysg 2002 yn unig, hyd yn oed os caiff ei thrin yn ysgol gynradd at bob diben arall o dan y Ddeddf Addysg.

Mae rheoliad 8 yn darparu pan fo gan ysgol ganol ddisgyblion iau (y rhai nad ydynt wedi cyrraedd 12 mlwydd oed hyd yn hyn) fod yn rhaid ei thrin yn ysgol gynradd at ddibenion adran 101(1)(c) o Ddeddf Addysg 2002 yn unig. Mae'n darparu ymhellach pan fo gan yr ysgol honno ddisgyblion hŷn (y rhai sydd wedi cyrraedd 12 mlwydd oed ond nad ydynt yn 19 mlwydd oed hyd yn hyn) fod yn rhaid ei thrin yn ysgol uwchradd at ddibenion adran 101(1)(c) o Ddeddf Addysg 2002 yn unig.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 569(4) gan Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5), adran 8. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 5 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

2002 p.32, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 11(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 2 i Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158).

(5)

Diwygiwyd y pennawd gan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), paragraff 18(1) a (10). Diwygiwyd is-adran (1) gan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), paragraff 18(1), (2)(a) a (b) o Atodlen 3 a chan Ran 3 o Atodlen 18, a hefyd gan Ddeddf Addysg 2002, adran 154(1) i (3), a chan baragraff 10(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 2 i Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010, a hefyd gan Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7), adran 26(1) a (2)(a). Diwygiwyd is-adran (2)(a) gan Ddeddf Addysg 2002, paragraff 97(1) a (3) o Atodlen 21, a chan Ddeddf Addysg 2005, Rhan 2 o Atodlen 19, a chan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, paragraff 18(1) a (3)(a) o Atodlen 3 a hefyd gan Fesur Addysg (Cymru) 2011, adran 26(1) a (2)(b). Diwygiwyd is-adran (2)(b) gan Ddeddf Addysg 2002, adran 73, a chan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, paragraff 18(1), (3)(b)(i) a (ii) o Ran 3 o Atodlen 18.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill