Search Legislation

Mesur Addysg (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Treialu

17Treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer treialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 (p. 56) a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (p. 50) fel y'u diwygir gan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y rheoliadau o hyd at 40 o fisoedd (“y cyfnod treialu”).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddarparu (ymhlith eraill)—

(a)mai dim ond i blant y mae awdurdodau lleol penodedig yn gyfrifol amdanynt y mae hawliau plentyn a roddir gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;

(b)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Addysg 1996 gan y Rhan hon yn gymwys;

(c)mai dim ond i gorff sy'n gyfrifol am ysgol mewn ardaloedd penodedig y mae hawliau person a roddir gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 gan y Rhan hon yn gymwys;

(d)mai dim ond i awdurdodau lleol penodedig y mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan ddiwygiadau a wneir i Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 gan y Rhan hon yn gymwys;

(e)bod adroddiadau neu wybodaeth arall ar weithredu darpariaethau a dreialwyd yn cael eu darparu neu ei darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru gan Dribiwnlys Cymru, awdurdodau lleol a bennir o dan baragraffau (a), (b) neu (d) neu gyrff sy'n gyfrifol am ysgolion mewn ardaloedd a bennir o dan baragraff (c).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi adroddiad ynghylch sut y rhoddwyd y darpariaethau a dreialwyd ar waith a pha mor effeithiol oeddynt o ran hyrwyddo llesiant plant, a

(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Caniateir i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd y cyfnod treialu; ond ni chaniateir iddo gael ei osod ar ddyddiad lai na 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod treialu.

(5)Rhaid i adroddiad o dan is-adran (3) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb fod yn hwyrach na 30 o fisoedd ar ôl i reoliadau o dan yr adran hon ddod i rym.

18Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch apelau a hawliadau gan blentyn

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud darpariaeth ynghylch—

(a)hawliau plentyn i apelio i Dribiwnlys Cymru mewn cysylltiad â materion y mae gan riant hawl i apelio mewn perthynas â hwy o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996;

(b)hawl person i wneud hawliad i Dribiwnlys Cymru mewn cysylltiad â materion y mae gan riant i'r person hwnnw hawl i wneud hawliad mewn perthynas â hwy o dan adran 28I o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995;

(c)unrhyw fater sy'n gysylltiedig â'r cyfryw hawliau;

(d)darparu cyngor a gwybodaeth i blant ynghylch materion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig;

(e)darparu cyngor a gwybodaeth i blant anabl ynghylch materion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;

(f)gwasanaethau eirioli ynghylch anghenion addysgol arbennig neu wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;

(g)trefniadau gyda'r bwriad o osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng—

(i)awdurdod addysg lleol (ar y naill law) a phlentyn (ar y llaw arall) ynghylch arfer gan awdurdodau swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996;

(ii)perchennog ysgol berthnasol (ar y naill law) a phlentyn (ar y llaw arall) ynghylch darpariaeth addysgol arbennig (o fewn ystyr “special educational provision” yn adran 312(4) o Ddeddf Addysg 1996);

(iii)corff sy'n gyfrifol am ysgol (ar y naill law) a phlentyn anabl (ar y llaw arall) ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd.

(2)Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer—

(a)i ychwanegu, i ddileu neu i addasu hawliau;

(b)i ddiwygio neu ddiddymu un neu fwy o ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996;

(c)i ddiwygio neu ddiddymu un neu fwy o ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995;

(d)i wneud diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i ddarpariaethau yn y Deddfau hynny.

(3)Ni chaniateir arfer y pŵer i wneud gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)cyn i adroddiad gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 17(3), neu

(b)ar ôl cyfnod o 24 o fisoedd yn cychwyn ar ddiwrnod olaf y cyfnod treialu a bennir mewn rheoliadau o dan adran 17(1).

19Dehongli adrannau 17 ac 18

(1)Yn adrannau 17 ac 18—

  • ystyr “awdurdodau lleol” (“local authorities”) yw awdurdodau addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “perchennog” (“proprietor”) mewn perthynas ag ysgol yw'r person neu'r corff o bersonau sy'n gyfrifol am reoli'r ysgol (a'i ystyr felly mewn perthynas ag ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig, neu ysgol feithrin a gynhelir, yw'r corff llywodraethu);

  • mae “plentyn” (“child”) yn cynnwys unrhyw berson nad yw eto'n 19 oed ac sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol;

  • mae i “plentyn anabl” (“disabled child”) yr ystyr sydd i “disabled child” yn adran 28IB o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995;

  • mae i “rhiant” (“parent”) yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “Tribiwnlys Cymru” (“Welsh Tribunal”) yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru;

  • ystyr “ysgol berthnasol” (“relevant school”) yw—

    (a)

    ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,

    (b)

    uned cyfeirio disgyblion,

    (c)

    ysgol annibynnol a enwir yn y datganiad a gedwir ar gyfer y plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996, neu

    (d)

    ysgol a gymeradwyir o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig nas sefydlwyd mewn ysbyty;

  • ystyr “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yw ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac nad yw'n ysgol arbennig.

(2)At ddibenion adran 17(2)(c) ac 18(1)(g)(iii), penderfynir ar y corff sy'n gyfrifol am ysgol yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 4A i Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.

(3)Mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn at ddibenion adran 17(2)(a) os yw'r plentyn yn ei ardal—

(a)a bod y plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,

(b)a bod addysg yn cael ei darparu ar gyfer y plentyn mewn ysgol nad yw'n ysgol a gynhelir neu'n ysgol feithrin a gynhelir, ond ei bod yn cael ei darparu felly ar gost yr awdurdod,

(c)ac nad yw'r plentyn yn dod o fewn (a) neu (b), ond bod y plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a'i fod wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod am fod ganddo (neu am ei bod yn debygol bod ganddo) anghenion addysgol arbennig, neu

(d)ac nad yw'r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, ond nad yw o dan ddwyflwydd oed neu dros oedran ysgol gorfodol a'i fod wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod am fod ganddo (neu am ei bod yn debygol bod ganddo) anghenion addysgol arbennig.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources