Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 2633 (Cy.7)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

23ain Awst 1999

Yn dod i rym

1af Medi 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 35(2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) a pharagraffau 2, 3 a 5 o Atodlen 8 a pharagraff 1(5) o Atodlen 12 i'r Ddeddf honno ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “y corff llywodraethu” yw corff llywodraethu'r ysgol y cynigir bod newid categori ynglŷn â hi neu, yn ôl yr achos, y mae'r newid hwnnw'n digwydd (“the governing body”);

  • ystyr “y cynigion” yw'r cynigion a gyhoeddwyd o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf gydag unrhyw addasiadau a wnaed gan y Cynulliad o dan baragraff 8 neu 10 o Atodlen 6 (fel y mae'r paragraffau hynny'n cael effaith gydag addasiadau yn rhinwedd Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn) (“the proposals”);

  • ystyr “y Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru(2) (“the Assembly”);

  • ystyr “y dyddiad gweithredu” yw'r dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i'r newid categori ddigwydd (“the implementation date”);

  • ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“the Act”);

  • ystyr “y prif reoliadau llywodraethu ysgol” yw Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgol) (Cymru) 1999(3) (“the main school government regulations”);

(2Mae gan yr ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl isod yr ystyr a roddir iddynt gan, neu (fel y bo'r achos) rhaid eu dehongli'n unol â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn ail golofn y tabl hwnnw —

“Fforwm Gweithredu Addysg” (“Education Action Forum”)adran 11(2) o'r Ddeddf(4);
“noddwr” (“sponsor”)paragraff 1 o Atodlen 1 i'r prif reoliadau llywodraethu ysgol
“offeryn llywodraethu” (“instrument of government”)adran 37(1) o'r Ddeddf,
“parth gweithredu addysg” (“education action zone”)adran 10(1) o'r Ddeddf;

Y cyfnod a ragnodir at ddiben adran 35(2) o'r Ddeddf

3.  At ddibenion adran 35(2) o'r Ddeddf (sy'n darparu, ac eithrio mewn perthynas â newid categori o ysgol wirfoddol a gynorthwyir i ysgol wirfoddol a reolir, newid er mwyn yr hwn y mae'n ofynnol cyhoeddi cynigion yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf, nid yw'r Atodlen honno yn gymwys ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfryw gyfnod ag y gellir ei ragnodi) y cyfnod rhagnodedig yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 1999 ac yn gorffen ar 31 Awst 2000.

Cymhwyso rheoliadau 5 i 9

4.  Bydd Rheoliadau 5 i 9 yn gymwys mewn perthynas â chynigion a gyhoeddwyd o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf, yn ystod y cyfnod a ragnodir yn rheoliad 3, i ysgol wirfoddol a gynorthwyir ddod yn ysgol wirfoddol a reolir ac ynglŷn â gweithredu'r cynigion hynny.

Cymhwyso adran 28 o'r Ddeddf ac Atodlen 6 iddi

5.—(1Mae Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith i gymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, ynglŷn â chynigion o'r math a grybwyllir yn rheoliad 4.

(2Nodir darpariaethau adran 28 o'r Ddeddf a gymhwysir felly, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u haddaswyd; a chyda chyfeiriadau at y Cynulliad (y breiniwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol ynddo bellach) yn cymryd lle'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gweithredu'r Cynigion

6.  Ar y dyddiad gweithredu bydd yr ysgol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir.

Trosglwyddo staff

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd y rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson sy'n gyflogedig gan y corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu.

(2Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson y mae ei gontract cyflogaeth yn terfynu ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu.

(3Bydd person a benodir gan y corff llywodraethu cyn y dyddiad gweithredu i weithio yn yr ysgol o'r dyddiad gweithredu neu ddyddiad ar ôl hynny yn cael ei drin at ddibenion y rheoliad hwn fel petai wedi ei gyflogi gan y corff llywodraethu yn union cyn y dyddiad gweithredu i wneud y gwaith yn yr ysgol y byddai wedi bod yn ofynnol iddo ei wneud ar y dyddiad hwnnw neu wedyn yn ei gontract cyflogaeth gyda'r corff llywodraethu.

(4Bydd y contract cyflogaeth rhwng person y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo a'r corff llywodraethu yn cael effaith o'r dyddiad gweithredu fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhyngddo ef a'r awdurdod addysg lleol.

(5Heb ragfarn i baragraff (4) —

(a)drwy rinwedd y rheoliad hwn trosglwyddir holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r corff llywodraethu o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef i'r awdurdod addysg lleol ar y dyddiad gweithredu; a

(b)bernir y bydd unrhyw beth a wneir cyn y dyddiad hwnnw gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r gweithiwr cyflogedig o'r diwrnod hwnnw ymlaen wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol neu mewn perthynas ag ef.

(6Mae paragraffau (4) a (5) heb ragfarn i unrhyw hawl gan weithiwr cyflogedig i derfynu ei gontract os gwneir newid sylweddol sy'n anfanteisiol iddo i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi oherwydd y newid cyflogwr yn unig y mae'r rheoliad hwn yn ei achosi.

Offeryn llywodraethu ac ailgyfansoddi'r corff llywodraethu

8.—(1Bydd y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yn sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad gweithredu (a beth bynnag o fewn tri mis ar ôl y dyddiad gweithredu) —

(a)bod offeryn llywodraethu newydd yn cael ei wneud ar gyfer yr ysgol yn unol ag Atodlen 12 i'r Ddeddf a Rhan II o'r prif reoliadau llywodraethu ysgol; a

(b)bod y corff llywodraethu'n cael ei ailgyfansoddi yn unol â'r offeryn llywodraethu newydd a Rhan II o'r prif reoliadau llywodraethu ysgol(5);

(2Bydd yr offeryn llywodraethu yn cael ei wneud ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 ac yn unol â'r cyfarwyddiadau ynddi.

(3Bydd yn gydymffurfiad digonol â pharagraff (2) os bydd yr offeryn llywodraethu ar ffurf sydd yn ei sylwedd yn cael yr un effaith â'r ffurf a nodir yn Atodlen 3.

(4Ni fydd methiant gan y corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol i gyflawni'r ddyletswydd ym mharagraff (1) o fewn y terfyn amser a ragnodir yn y paragraff hwnnw yn rhyddhau'r corff llywodraethu neu'r awdurdod addysg lleol o'r ddyletswydd honno.

Darpariaethau trosiannol

9.—(1Bydd unrhyw beth a wneir gan y corff llywodraethu fel awdurdod derbyn cyn y dyddiad gweithredu o dan unrhyw ddarpariaeth ym mhennod I o Ran III o'r Ddeddf (trefniadau derbyn) yn cael effaith o'r dyddiad gweithredu fel pe bai wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol.

(2Os digwydd, ar y dyddiad gweithredu, fod cynigion a gyhoeddwyd gan y corff llywodraethu o dan adran 28, 29 neu 31 o'r Ddeddf i'w gweithredu o dan baragraff 10 o Atodlen 6 i'r Ddeddf, byddant yn cael eu gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

Jane Davidson

Dirprwy Llywydd y Cynulliad

23ain Awst 1999

Rheoliad 5

ATODLEN 1DARPARIAETHAU ADRAN 28 O'R DDEDDF AC ATODLEN 6 IDDI SY'N CAEL EFFAITH MEWN PERTHYNAS Å'R CYNIGION A GRYBWYLLIR YN RHEOLIAD 4

1.  Bydd is-adrannau adran 28 o'r Ddeddf, a'r paragraffau yn Rhan II o Atodlen 6 iddi, y cyfeirir atynt yn ngholofn 1 o Dablau 1 i 3 isod yn cael effaith mewn perthynas â'r cynigion a grybwyllir yn rheoliad 4 gyda'r addasiadau a bennir yn yr Atodlen hon mewn perthynas â'r darpariaethau hynny.

2.  Bydd darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 isod yn cael effaith fel pe rhoddid y geiriau yn ngholofn 3 o'r tabl hwnnw yn lle'r geiriau y cyfeirir atynt yn ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

Tabl/Table 1

colofn/column 1colofn/column 2colofn/column 3
adran/section 28(5)“under this section”“under paragraph 3 of Schedule 8”
adran/section 28(5)“the relevant body or promoters”“the governing body”
adran/section 28(5)“the relevant body or promoters”“the governing body”
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 6“section 28, 29 or 31”“paragraph 3 of Schedule 8”
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 7“section 28,29 or 31”“paragraph 3 of Schedule 8”
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 8(2)(c)“such persons or bodies as may be prescribed”“the local education authority and the governing body”

3.  Bydd darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 isod yn cael effaith fel petai'r geiriau neu'r ddarpariaeth y cyfeirir atynt yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw wedi'u hepgor.

Tabl/Table 2

colofn/column 1colofn/column 2
adran/section 28(11)is-baragraff/sub-paragraph (a)
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 6“or proposed school”
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 7is-baragraff/sub-paragraph (2)
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 8(4)“or (in the case of a new school) is proposed to be”
Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 10is-baragraffau/sub-paragraphs (3) to (6)

4.  Bydd darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 o Dabl 3 isod yn cael effaith fel pe rhoddid y geiriau y cyfeirir atynt yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw yn lle'r geiriau yn y ddarpariaeth honno.

Tabl/Table 3

colofn/column 1colofn/column 2
adran/section 28(3)

(3) Proposals under paragraph 3 of Schedule 8 shall—

(a)contain the following information —

(i)the name of the governing body publishing the proposals,

(ii)the date on which it is proposed that the change of category should take place,

(iii)a statement explaining the effect of paragraph 7 of Schedule 6 including the date by which objections should be sent to the National Assembly for Wales,

(iv)a statement that it is proposed to change the category of the school from voluntary aided to voluntary controlled,

(v)a statement that after the change of category has taken place, the local education authority will be the admission authority for the school; and

(b)shall be published —

(i)by being posted in a conspicuous place in the area served by the school,

(ii)in at least one newspaper circulating in the area served by the school, and

(iii)by being posted at or near the main entrance to the school or, if there is more than one main entrance, all of them.

adran/section 28(7)

(7) Where any proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 relate to a school in Wales, the governing body shall send —

(a)a copy of the published proposals, and

(b)the information specified in subsection (7A), to the National Assembly for Wales.

(7A) The information referred to in subsection (7) is —

(a)the objectives of the proposals;

(b)evidence of consultation before the proposals were published including —

(i)copies of the consultation documents, and

(ii)the views and responses from the persons consulted;

(c)a map showing the location of the school and all other community, voluntary and foundation schools within a radius of 3.218688 kilometres (2 miles), where the school is a primary school or 4.828032 kilometres (3 miles) where the school is a secondary school;

(d)the following information relating to the school for the school year in which the proposals were published and (except for the information specified in sub-paragraph (iv)), the previous school year —

(i)the standard number for each relevant age group,

(ii)the number of year groups,

(iii)the capacity of the school, and

(iv)the number of pupils at the school;

and a forecast of the matters specified in sub-paragraphs (ii) to (iv) for each of the subsequent five years;

(e)a list of all the schools within the radius of the school mentioned in paragraph (c) above stating which schools are maintained by different local education authorities together with the information referred to in paragraph (d) in respect of each such school;

(f)the following information relating to the accommodation at the school —

(i)the location of the accommodation,

(ii)whether the school occupies a single or split site,

(iii)how accessible the accommodation is,

(iv)details of the general and specialist accommodation (both teaching and non-teaching), and

(v)(where relevant) details of accommodation for nursery education;

(g)a breakdown of any costs involved in the change of category;

(h)details of the policy of the school relating to the education of pupils with special educational needs;

(i)a statement as to whether the school has been inspected under section 10 of the School Inspection Act 1996(7) during the period starting three years before the date of the notice of the proposals and, where the school has been inspected during that period, the date of the inspection and details of the outcome of the inspection;

(j)details of the tenure (freehold or leasehold) on which the site of the school is held and, if the premises are held as a lease, details of the lease; and

(k)details of the trusts on which the site of the school is held.

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 7(3)

(3) Any objections under this paragraph shall be sent to the National Assembly for Wales —

(a)within two months after the date of publication of the proposals, except where paragraph (b) of this sub-paragraph applies; and

(b)within one month after the date of publication of the proposals, where the school is one to which section 15 applies.

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 8(1)

(1) Proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 require approval under this paragraph.

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 8(3)

(3) An approval given under this paragraph may be expressed to take effect only if a scheme relating to any charity connected with the school is made by a date specified in the approval.

Atodlen/Schedule 6paragraff/paragraph 8(5)

(5) Proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 may only be withdrawn with the consent in writing of the National Assembly for Wales.

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 10(1)

(1) Where any proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 have been approved under paragraph 8 then (subject to the following provisions of this paragraph) the proposals shall be implemented in the form in which they were so approved in accordance with regulations made under paragraph 5 of Schedule 8.

Atodlen/Schedule 6 paragraff/paragraph 10(2)

(2) At the request of the governing body or the local education authority, the National Assembly for Wales —

(a)may modify the proposals after consulting that governing body and the local education authority; and

(b)where any approval under paragraph 8 was given in accordance with sub-paragraph (3) of that paragraph, may specify a later date by which the scheme in question must be made.

Rheoliad 5(2)

ATODLEN 2DARPARIAETHAU ADRAN 28 O'R DDEDDF, A RHAN II O ATODLEN 6 IDDI FEL Y'U CYMHWYSIR GAN ATODLEN 1 FEL AG ADDASWYD

Adran 28

(3Proposals under paragraph 3 of Schedule 8 shall —

(a)contain the following information—

(i)the name of the governing body publishing the proposals,

(ii)the date on which it is proposed that the change of category should take place,

(iii)a statement explaining the effect of paragraph 7 of Schedule 6 including the date by which objections should be sent to the National Assembly for Wales,

(iv)a statement that it is proposed to change the category of the school from voluntary aided to voluntary controlled,

(v)a statement that after the change of category has taken place, the local education authority will be the admission authority for the school; and

(b)shall be published —

(i)by being posted in a conspicuous place in the area served by the school,

(ii)in at least one newspaper circulating in the area served by the school, and

(iii)by being posted at or near the main entrance to the school or, if there is more than one main entrance, all of them.

(5Before publishing any proposals under paragraph 3 of Schedule 8, the governing body shall consult such persons as appear to them to be appropriate; and in discharging their duty under this subsection the governing body shall have regard to any guidance given from time to time by the National Assembly for Wales.

(7Where any proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 relate to a school in Wales, the governing body shall send —

(a)a copy of the proposals, and

(b)the information specified in subsection (7A),

to the National Assembly for Wales.

(7AThe information referred to in subsection (7) is —

(a)the objectives of the proposals;

(b)evidence of consultation before the proposals were published including —

(i)copies of the consultation documents, and

(ii)the views and responses from the persons consulted;

(c)a map showing the location of the school and all other community, voluntary and foundation schools within a radius of 3.218688 kilometres (2 miles), where the school is a primary school or 4.828032 kilometres (3 miles) where the school is a secondary school;

(d)the following information relating to the school for the school year in which the proposals were published and (except for the information specified in sub-paragraph (iv)), the previous school year —

(i)the standard number for each relevant age group,

(ii)the number of year groups,

(iii)the capacity of the school, and

(iv)the number of pupils at the school;

and a forecast of the matters specified in sub-paragraphs (ii) to (iv) for each of the subsequent five years;

(e)a list of all the schools within the radius of the school mentioned in paragraph (c) above stating which schools are maintained by different local education authorities together with the information referred to in paragraph (d) in respect of each such school;

(f)the following information relating to the accommodation at the school —

(i)the location of the accommodation,

(ii)whether the school occupies a single or split site,

(iii)how accessible the accommodation is,

(iv)details of the general and specialist accommodation (both teaching and non-teaching), and

(v)(where relevant) details of accommodation for nursery education;

(g)a breakdown of any costs involved in the change of category;

(h)details of the policy of the school relating to the education of pupils with special educational needs;

(i)a statement as to whether the school has been inspected under section 10 of the School Inspections Act 1996 during the period starting three years before the date of the notice of the proposals and, where the school has been inspected during that period, the date of the inspection and details of the outcome of the inspection;

(j)details of the tenure (freehold or leasehold) on which the site of the school is held and, if the premises are held on a lease, details of the lease; and

(k)details of the trusts on which the site of the school is held.

(11In this part —

(b)“area” (without more) means a local education authority area.

Rhan II o Atodlen 6

6.  This Part of this Schedule applies to proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 which relate to a school in Wales.

7.—(1Any person may make objections to any proposals published under paragraph 3 of Schedule 8.

(3Any objections under this paragraph shall be sent to the National Assembly for Wales —

(a)within two months after the date of publication of the proposals, except where paragraph (b) of this sub-paragraph applies; and

(b)within one month after the date of publication of the proposals, where the school is one to which section 15 applies.

8.—(1Proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 require approval under this paragraph.

(2Where any proposals require approval under this paragraph, the National Assembly for Wales may —

(a)reject the proposals,

(b)approve them without modification, or

(c)approve them with such modifications as it thinks desirable after consulting the local education authority and the governing body.

(3Any approval given under this paragraph may be expressed to take effect only if a scheme relating to any charity connected with the school is made by a date specified in the approval.

(4When deciding whether or not to give any approval under this paragraph the National Assembly for Wales shall have regard to the school organisation plan for the area in which the school is situated.

(5Proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 may only be withdrawn with the consent of the National Assembly for Wales.

10.—(1Where any proposals published under paragraph 3 of Schedule 8 have been approved under paragraph 8 then (subject to the following provisions of this paragraph) the proposals shall be implemented in the form in which they were so approved in accordance with regulations made under paragraph 5 of Schedule 8.

(2At the request of the governing body or the local education authority, the National Assembly for Wales.

(a)may modify the proposals after consulting the governing body and the local education authority; and

(b)where any approval under paragraph 8 was given in accordance with sub-paragraph (3) of that paragraph, may specify a later date by which the scheme in question must be made.

Rheoliad 8

ATODLEN 3OFFERYN LLYWODRAETHU

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O 1 Medi 1999 ymlaen, rhennir ysgolion a gynhelir i'r categorïau canlynol: cymunedol; sefydledig; gwirfoddol (gan gynnwys gwirfoddol a gynorthwyir a gwirfoddol a reolir); arbennig cymunedol; ac arbennig sefydledig. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi moratoriwm o flwyddyn o 1 Medi 1999 ymlaen pan na fydd ysgolion yng Nghymru yn gallu cyhoeddi cynigion statudol i newid eu categori. Diben hynny yw sicrhau cyfnod “ymgynefino”. Mae'r Rheoliadau yn caniatáu un eithriad: newid categori o wirfoddol a gynorthwyir i wirfoddol a reolir lle nad yw cyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn gallu bodloni eu rhwymedigaethau ariannol. Maent yn pennu'r gweithdrefnau i'w dilyn mewn achosion o'r fath ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff a materion eraill. Nodir esboniad manylach o ddarpariaethau'r Rheoliadau isod.

Mae Rheoliad 3 yn darparu i'r moratoriwm y cyfeirir ato uchod fodoli am gyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 1999 ac yn gorffen ar 31 Awst 2000.

Mae Rheoliad 4 yn darparu i ddarpariaethau Rheoliadau 5-9 fod yn gymwys yn ystod cyfnod y moratoriwm mewn perthynas â chynigion a gyhoeddir o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf a gweithredu'r cynigion hynny.

Mae Rheoliad 5 yn cymhwyso adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, gydag addasiadau, mewn perthynas â chynigion i ysgol wirfoddol a reolir ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ac mewn perthynas â gweithredu'r cynigion hynny. Nodir y darpariaethau a gymhwysir, a'r addasiadau y maent yn ddarostyngedig iddynt wrth eu cymhwyso, yn Atodlen 1. Er mwyn cynorthwyo'r darllenydd, nodir y darpariaethau hynny (fel a gymhwysir gydag addasiadau) yn Atodlen 2.

Mae Rheoliad 6 yn darparu y bydd yr ysgol ar y dyddiad gweithredu (a ddiffinnir yn rheoliad 2(1) fel “y dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i'r newid categori ddigwydd”) yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir.Mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff i gyflogaeth yr awdurdod addysg lleol.

Mae Rheoliad 8 ac Atodlen 3 yn darparu i'r corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol wneud offeryn llywodraethu newydd i'r ysgol (yn unol â'r gofynion deddfwriaethol y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwnnw), ac i'r corff llywodraethu gael ei ailgyfansoddi yn unol â'r offeryn (a'r gofynion hynny). Rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei lunio ar y ffurf neu yn ei sylwedd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 ac yn unol â'r cyfarwyddyd yn yr Atodlen honno.

Mae Rheoliad 9 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau y gwnaed y rheoliadau hyn odanynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

Nid yw adrannau 10-13 o'r Ddeddf yn gymwys i Gymru oni fydd Gorchymyn a wneir gan y Cynulliad yn darparu fel arall – gweler adran 10(8). Adeg gwneud y Rheoliadau hyn nid oedd unrhyw Orchymyn o'r fath wedi'i wneud.

(5)

Mae Rhan II o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion)(Cymru) 1999 yn darparu ynglŷn â chynnwys offeryn llywodraethu, penodi ac ethol llywodraethwyr, a diswyddo llywodraethwyr gorniferus, ac eithrio llywodraethwyr sefydledig gorniferus. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sefydledig gorniferus ym mharagraff 11 o'r pro-fforma llywodraethu a nodir yn Atodlen 2.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources