Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O 1 Medi 1999 ymlaen, rhennir ysgolion a gynhelir i'r categorïau canlynol: cymunedol; sefydledig; gwirfoddol (gan gynnwys gwirfoddol a gynorthwyir a gwirfoddol a reolir); arbennig cymunedol; ac arbennig sefydledig. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi moratoriwm o flwyddyn o 1 Medi 1999 ymlaen pan na fydd ysgolion yng Nghymru yn gallu cyhoeddi cynigion statudol i newid eu categori. Diben hynny yw sicrhau cyfnod “ymgynefino”. Mae'r Rheoliadau yn caniatáu un eithriad: newid categori o wirfoddol a gynorthwyir i wirfoddol a reolir lle nad yw cyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn gallu bodloni eu rhwymedigaethau ariannol. Maent yn pennu'r gweithdrefnau i'w dilyn mewn achosion o'r fath ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff a materion eraill. Nodir esboniad manylach o ddarpariaethau'r Rheoliadau isod.

Mae Rheoliad 3 yn darparu i'r moratoriwm y cyfeirir ato uchod fodoli am gyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 1999 ac yn gorffen ar 31 Awst 2000.

Mae Rheoliad 4 yn darparu i ddarpariaethau Rheoliadau 5-9 fod yn gymwys yn ystod cyfnod y moratoriwm mewn perthynas â chynigion a gyhoeddir o dan baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf a gweithredu'r cynigion hynny.

Mae Rheoliad 5 yn cymhwyso adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, gydag addasiadau, mewn perthynas â chynigion i ysgol wirfoddol a reolir ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ac mewn perthynas â gweithredu'r cynigion hynny. Nodir y darpariaethau a gymhwysir, a'r addasiadau y maent yn ddarostyngedig iddynt wrth eu cymhwyso, yn Atodlen 1. Er mwyn cynorthwyo'r darllenydd, nodir y darpariaethau hynny (fel a gymhwysir gydag addasiadau) yn Atodlen 2.

Mae Rheoliad 6 yn darparu y bydd yr ysgol ar y dyddiad gweithredu (a ddiffinnir yn rheoliad 2(1) fel “y dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i'r newid categori ddigwydd”) yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir.Mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff i gyflogaeth yr awdurdod addysg lleol.

Mae Rheoliad 8 ac Atodlen 3 yn darparu i'r corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol wneud offeryn llywodraethu newydd i'r ysgol (yn unol â'r gofynion deddfwriaethol y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwnnw), ac i'r corff llywodraethu gael ei ailgyfansoddi yn unol â'r offeryn (a'r gofynion hynny). Rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei lunio ar y ffurf neu yn ei sylwedd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 ac yn unol â'r cyfarwyddyd yn yr Atodlen honno.

Mae Rheoliad 9 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources