- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARBED YNNI, CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Ebrill 2000
Yn dod i rym
6 Ebrill 2000
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn,
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref 1997(3).
3. Yn Rheoliad 5(1) o Rheoliadau 1997, yn lle “…not more than one…”, rhowch “…one or more…”.
4. Yn Rheoliad 6 o Reoliadau 1997 (Cyfrifo swm y grant) –
(1) Yn lle Rheoliad 6 (1) (a), rhowch –
“(a)in the case of a works application, the amount properly charged for the works or £500, whichever is the lower, and”.
(2) Yn lle Rheoliad 6 (1) (b), rhowch –
“(b)in the case of a materials-only application, the amount properly charged for the materials purchased for and used in the works carried out, or £250, whichever is the lower.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywoxdraeth Cymru 1998(4).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Ebrill 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Cynllun ar gyfer rhoi grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol, neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau, yw'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref presennol (“y Cynllun”).
Nodir y Cynllun yn Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref 1997 (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau'n creu Asiantaethau Rhanbarthol i weinyddu'r cynllun, ac yn nodi pwy sy'n gymwys i gael grant. Mae'r prif Reoliadau hefyd yn rhagnodi'r math o waith a'r dibenion y gellir cymeradwyo grantiau ar eu cyfer. Darperir dull ar gyfer cyfrifo grantiau, a nodir yr uchafsymiau a all gael eu rhoi fel grantiau. Mae'r prif Reoliadau yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am grantiau a'u cymeradwyo, ac ar gyfer trefnu gwneud y gwaith neu gyflenwi'r deunyddiau.
Cafodd y prif Reoliadau eu gwneud o dan Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996). Mae Adran 15(1) yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud, neu drefnu gwneud, grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau. Ni all unrhyw grantiau gael eu gwneud o dan Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (“Deddf 1990”) ac eithrio yn unol â rheoliadau a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Mae rheoliad 3 yn newid y cyfyngiad ar y dibenion y gellir dyfarnu grant atynt o dan y prif Reoliadau o “…not more than one..” i “…one or more…” o'r dibenion sydd wedi'u nodi yn y prif Reoliadau.Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu uchafsymiau newydd ar gyfer grantiau o dan y prif Reoliadau.
1990 (p.27); diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: