- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3. Mae Rheoliadau 4 i 11, ac (i'r graddau y mae'n ymwneud â hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 8(1) neu (3)) rheoliad 20, yn gymwys i geiswyr a meddianwyr tir i'r graddau mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas â'u daliadau at ddibenion Rheoliadau IACS.
4.—(1) Rhaid i gais mewn perthynas â llo premiwm, anifail premiwm mewn oed ac anifail premiwm hŷn gael ei gyflwyno i'r Bwrdd a rhaid i bob cais fod ar unrhyw ffurf a chynnwys unrhyw fanylion, yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan reolau'r Gymuned, ac unrhyw ddogfennau, y bydd y Bwrdd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.
(2) Gyda chais mewn perthynas â llo premiwm sy'n bum mis oed o leiaf adeg ei gigydda, rhaid anfon y cofnod ysgrifenedig ynghylch ei gigydda y cyfeirir ato ym mharagraff 5 o'r Atodlen.
(3) Caiff cais a gyflwynir yn unol â pharagraff (1) fod yn gais mewn perthynas ag unrhyw nifer o loi premiwm, anifeiliaid premiwm mewn oed neu anifeiliaid premiwm hŷn, yn ôl fel y digwydd.
5. Rhaid i gais gael ei gyflwyno i'r Bwrdd, o fewn cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cadw am yr anifail premiwm y gwneir y cais mewn perthynas ag ef ac sy'n dod i ben—
(a)chwe mis wedyn, neu
(b)ar ddiwedd mis Chwefror yn y flwyddyn galendr yn dilyn y flwyddyn galendr y cafodd yr anifail premiwm hwnnw ei gigydda ynddi,
p'un bynnag sydd gyntaf.
6. Ni fydd gan geisydd hawl i gyflwyno mwy nag—
(a)deuddeg cais mewn perthynas â lloi premiwm, a
(b)deuddeg cais mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm mewn oed, ac
(c)deuddeg cais mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm hŷn
sy'n cael eu cigydda mewn unrhyw un flwyddyn galendr.
7.—(1) Ni roddir premiwm cigydda i unrhyw geisydd am gigydda anifail premiwm oni bai bod yr amodau a bennir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni.
(2) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)yn achos cigydda anifail premiwm heblaw llo premiwm, ei fod wedi'i gigydda mewn lladd-dy sydd wedi'i gofrestru ar gyfer cigydda anifeiliaid premiwm heblaw lloi premiwm gan y Bwrdd—
(i)yn unol â rheoliad 14; neu
(ii)yn unol ag unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi pŵ er cofrestru cyfatebol mewn perthynas â lladd-dai yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon mewn telerau sydd o ran eu sylwedd yn union yr un fath â'r telerau a geir yn rheoliadau 13 i 19 ac yn yr Atodlen;
a
(b)yn achos cigydda llo premiwm, ei fod wedi'i gigydda mewn lladd-dy sydd wedi'i gofrestru ar gyfer cigydda lloi premiwm gan y Bwrdd—
(i)yn unol â rheoliad 14; neu
(ii)yn unol ag unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi pŵ er cofrestru cyfatebol mewn perthynas â lladd-dai yn Lloegr, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon mewn telerau sydd o ran eu sylwedd yn union yr un fath â'r telerau a geir yn rheoliad 13 i 19 ac yn yr Atodlen.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os bydd y Bwrdd o'r farn bod unrhyw barsel o dir yn cael ei orbori, caiff gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meddiannydd gan bennu uchafswm yr anifeiliaid a all gael eu pori a'u cadw ar y parsel hwnnw yn y flwyddyn galendr ganlynol.
(2) Pennir yr uchafswm y cyfeirir ato ym mharagraff (1) drwy gymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau hynny a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Os yw hysbysiad mewn perthynas â pharsel o dir wedi'i gyflwyno gan y Bwrdd o'r blaen o dan baragraff (1) neu gan y Cynulliad Cenedlaethol dan unrhyw ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (5), caiff y Bwrdd gyflwyno hysbysiad pellach o dan baragraff (1) mewn perthynas ag ef heb iddo fod o'r farn ei fod yn cael ei orbori.
(4) Os yw hysbysiad mewn perthynas â pharsel o dir wedi'i gyflwyno gan y Bwrdd o dan baragraff (1) neu (3) neu gan y Cynulliad Cenedlaethol dan unrhyw ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (5), rhaid i'r Bwrdd beidio â thalu, neu os yw eisoes wedi'i dalu, adennill, unrhyw bremiwm cigydda sy'n daladwy neu a dalwyd ar y nifer hwnnw o anifeiliaid premiwm a gafodd eu pori a'u cadw yno yn y flwyddyn galendr y cyhoeddwyd yr hysbysiad hwnnw yn ei gylch, a fyddai, o'u hychwanegu at y nifer o anifeiliaid arall (gan gynnwys anifeiliaid premiwm) a borwyd ac a gynhaliwyd yno yn y flwyddyn honno, yn golygu eu bod yn mynd ymhellach na'r uchafrif anifeiliaid a bennwyd yn yr hysbysiad.
(5) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) a (4) yw'r canlynol—
(a)rheoliad 11 o Reoliadau Cynllun Premiwn Arbennig Eidion 1996;
(b)rheoliad 3A o Reoliadau Premiwm Buchod Sugno 1993(1);
(c)rheoliad 3A o Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992(2);
(6) Caiff y Bwrdd beidio a thalu, neu adennill, premiwm cigydda os yw'n fodlon bod unrhyw amod arall yn yr hysbysiad wedi'i dorri.
9.—(1) Os bydd ceisydd, mewn unrhyw flwyddyn galendr, yn defnyddio dulliau bwydo atodol anaddas, caiff y Bwrdd—
(a)yn unol â pharagraff (2), leihau swm y premiwm cigydda a fyddai fel arall yn daladwy i'r ceisydd neu ei ddal yn ôl; neu
(b)os yw'r premiwm cigydda wedi'i dalu i'r ceisydd eisoes, adennill unrhyw bremiwm cigydda a dalwyd felly;
mewn perthynas ag anifeiliaid premiwm a gafodd eu cigydda yn y flwyddyn honno.
(2) Os na chafodd y ceisydd ei gosbi am ddefnyddio dulliau bwydo atodol anaddas o dan baragraff (1) neu o dan unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) yn y flwyddyn galendr flaenorol, gall swm y premiwm cigydda y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei ostwng deg y cant; os cafodd y ceisydd ei gosbi felly yn y flwyddyn galendr flaenorol, ond nid yn y flwyddyn galendr cyn honno, gall y swm hwnnw gael ei ostwng ugain y cant; ac os cafodd y ceisydd ei gosbi felly ymhob un o'r ddwy flwyddyn galendr flaenorol, gall y swm hwnnw gael ei ddal yn ôl.
(3) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)rheoliad 12 o Reoliadau Cynllun Premiwm Arbennig Cig Eidion 1996;
(b)rheoliad 3B o Reoliadau Premiwm Buchod Sugno 1993; a
(c)rheoliad 3B o Reoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992.
10. Caiff y Bwrdd ddal yn ôl, neu adennill ar gais, y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw bremiwm cigydda a hawliwyd oddi wrtho neu a roddwyd ganddo o dan unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol—
(a)os na fyddai, neu os nad yw, rhoi premiwm cigydda i'r ceisydd o dan sylw yn cydymffurfio â rheolau'r Gymuned;
(b)os nad oedd anifail premiwm, ar unrhyw adeg rhwng cyflwyno'r cais mewn perthynas ag ef a'i gigydda—
(i)yn destun adnabyddiaeth a gymeradwywyd yn unol â gofynion erthygl 4(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marchnata a Chofnodion Bridio) 1990; neu
(ii)wedi'i adnabod â thag clust yn unol ag erthygl 8 neu 9 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995; neu
(iii)wedi'i gofrestru yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Gwartheg (Cofrestru Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000(3); neu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau ar gyfer cofrestru o'r fath a gynhwysir yn unrhyw reoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr, yr Alban neu Gogledd Iwerddon; neu
(iv)wedi'i adnabod a'i gofrestru yn unol â Rheoliad y Cyngor 820/97 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2629/97 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 ynghylch tagiau clust, cofrestrau daliadau a phasbortau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(4); neu
(v)wedi'i adnabod a'i gofrestru yn unol â Rheoliad 1760/2000;
(c)os nad yw'r amodau a bennir yn rheoliad 7(2) wedi'u bodloni;
(ch)os yw'r ceisydd o dan sylw, neu swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i'r ceisydd hwnnw, yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig, neu berson sy'n mynd gyda pherson awdurdodedig ac yn gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau, rhag arfer unrhyw bŵ er a roddir gan reoliadau 24 neu 25, neu'n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a wneir gan berson awdurdodedig o dan reoliad 25, neu â chais a wneir gan berson awdurdodedig o dan reoliad 26; a
(d)os yw'r ceisydd, gyda'r bwriad o gaffael taliad premiwn cigydda iddo'i hun neu unrhyw berson arall, yn fwriadol neu'n ddi-hid, wedi gwneud datganiad neu roi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.
11. Os yw'r Bwrdd yn adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw bremiwm cigydda yn unol â rheoliad 10, oni bai bod y swm a adenillir wedi'i dalu yn sgil gwall ar ei ran, bydd ganddo hawl hefyd i godi llog a'i adennill ar gais ar y swm a adenillir yn ôl y gyfradd o un y cant uwchlaw Cyfradd Cynnig Cyd-fanciau Llundain tri mis sterling fesul dydd am y cyfnod rhwng y talu a'r adennill.
O.S. 1992/2677, fel y'i diwygiwyd gan 1994/2741, 1995/2779, 1996/49 a 1997/2500.
OJ Rhif L354, 30.12.97, t.19.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: