- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
12. Mae rheoliadau 13 i 19, ac (i'r graddau y mae'n ymwneud â hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 15 neu 17) rheoliad 20, yn gymwys i ladd-dai yng Nghymru.
13.—(1) Caiff gweithredydd lladd-dy wneud cais i'r Bwrdd am gofrestru lladd-dy i gigydda anifeiliaid premiwm heblaw lloi premiwm, neu loi premiwm, neu'r ddau.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1)—
(a)bod yn ysgrifenedig;
(b)bod yn yr iaith Saesneg neu'r iaith Gymraeg:
(c)cael ei lofnodi gan y gweithredydd lladd-dy neu ar ei ran;
(ch)cynnwys enw, neu enw busnes, a chyfeiriad y gweithredydd lladd-dy;
(d)enwi'r lladd-dy y mae'r cais yn ymwneud ag ef;
(dd)nodi'r anifeiliaid premiwm y gwneir y cais am gofrestru ar eu cyfer;
(e)cynnwys ymrwymiad—
(i)os caiff y lladd-dy ei gofrestru, a chyhyd ag y caiff y lladd-dy ei gofrestru, i gigydda anifeiliaid premiwm heblaw lloi premiwm, y cydymffurfir â'r amodau a nodir yn Rhan 1 o'r Atodlen; a
(ii)os caiff y lladd-dy ei gofrestru a chyhyd ag y caiff lladd-dy ei gofrestru, i gigydda lloi premiwm, y cydymffurfir â'r amodau a nodir yn Rhannau I a II o'r Atodlen.
14. Os caiff cais sy'n cydymffurfio â rheoliad 13(2) ei gyflwyno o dan reoliad 13(1), rhaid i'r Bwrdd gofrestru'r lladd-dy a enwir ynddo i gigydda'r anifeiliaid premiwm a nodir yn unol â rheoliad 13(2)(dd) drwy nodi'r lladd-dy, ynghyd â nodyn o'r anifeiliaid premiwm a nodwyd felly, ar restr, y mae'n rhaid i'r Bwrdd ei chadw, o'r lladd-dai sydd wedi'u cofrestru fel hyn.
15. Os nad yw'r Bwrdd wedi'i fodloni bod yr amodau a nodir yn Rhan I o'r Atodlen yn cael eu bodloni mewn lladd-dy cofrestredig, neu fod yr amodau a nodir yn Rhan II o'r Atodlen yn cael eu bodloni mewn lladd-dy sydd wedi'i gofrestru ar gyfer cigydda lloi premiwm, caiff gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i weithredydd y lladd-dy—
(a)yn datgan ei fod yn bwriadu dileu cofrestriad y lladd-dy am nad yw wedi'i fodloni bod yr amodau a nodir yn yr Atodlen yn cael eu bodloni yno;
(b)yn pennu'r amodau nad yw'r Bwrdd wedi'i fodloni mewn perthynas â hwy, y camau y mae'n ofynnol i weithredydd y lladd-dy eu cymryd er mwyn eu bodloni, ac amser rhesymol o ddwy wythnos o leiaf y mae'n rhaid i'r gweithredydd lladd-dy gymryd y camau hynny o'i fewn; ac
(c)yn datgan y caiff cofrestriad y lladd-dy ei ddileu os nad yw wedi'i fodloni pan ddaw'r amser rhesymol hwnnw i ben fod y camau angenrheidiol wedi'u cymryd.
16. Yn unol â'r weithdrefn yn rheoliad 17, caiff y Bwrdd ddileu cofrestriad lladd-dy—
(a)os yw'r Bwrdd wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig ar weithredydd y lladd-dy yn unol â rheoliad 15 a'i fod yn dal heb ei fodloni, pan ddaw'r amser rhesymol y cyfeirir ato yn rheoliad 15(b) i ben, fod yr amodau a bennir yn yr hysbysiad wedi'u bodloni; neu
(b)os yw gweithredydd y lladd-dy, neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i weithredydd y lladd-dy wedi'i gollfarnu am dramgwydd mewn perthynas ag unrhyw gais.
17.—(1) Rhaid i'r Bwrdd ddileu cofrestriad lladd-dy drwy gyflwyno hysbysiad dileu yn unol â pharagraff (2) a dileu'r lladd-dy oddi ar y rhestr sy'n cael ei chadw gan y Bwrdd o dan reoliad 14.
(2) Rhaid i hysbysiad dileu o dan baragraff (1) gael ei gyflwyno i weithredydd y lladd-dy a rhaid iddo ddatgan—
(a)bod cofrestriad y lladd-dy ar gyfer cigydda anifeiliaid premiwm wedi'i ddileu, a
(b)na roddir unrhyw bremiwm cigydda am gigydda unrhyw anifail buchol a gaiff ei gigydda yn y lladd-dy oni bai ac hyd nes i'r lladd-dy gael ei gofrestru eto.
18. Os yw cofrestriad lladd-dy wedi'i ddileu yn unol â rheoliad 16, rhaid i weithredydd y lladd-dy ganiatáu i berson awdurdodedig ddodi copi o'r hysbysiad dileu yno mewn man amlwg y mae'n hawdd i bob person sy'n dod ag anifeiliaid i'r lladd-dy ei weld a rhaid iddo ei gadw yn y fan honno mewn cyflwr clir a darllenadwy nes bod blwyddyn o ddyddiad y dileu wedi dod i ben neu nes i'r lladd-dy gael ei gofrestru eto, p'un bynnag sydd gyntaf.
19.—(1) Os yw cofrestriad lladd-dy wedi'i ddileu yn unol â rheoliad 16, rhaid i'r Bwrdd beidio â'i gofrestru eto oni bai bod y Bwrdd wedi'i fodloni bod yr amodau a nodir yn Rhan I ac, os yw'r gweithredydd lladd-dy yn gwneud cais am gofrestru'r lladd-dy ar gyfer cigydda lloi premiwm, Rhan II o'r Atodlen yn cael eu bodloni yno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1) beth bynnag, os yw cofrestriad lladd-dy wedi'i ddileu yn unol â rheoliad 16(b) caiff y Bwrdd wrthod ei gofrestru eto nes bod unrhyw gyfnod, heb fod yn fwy na chwe mis ar ôl y dyddiad dileu, y mae'r Bwrdd yn credu ei fod yn rhesymol yn amgylchiadau'r achos yn dod i ben.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: