Search Legislation

Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

(2Maent yn gymwys i Gymru.

Diddymu ac eithrio

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) diddymir Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999(1).

(2Bydd Atodlen 6 i'r Ddeddf fel y'i cymhwyswyd, gydag addasiadau, gan y Rheoliadau hynny yn parhau yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyhoeddir, yn unol â'r Atodlen honno fel y'i cymhwyswyd gydag addasiadau, cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall:

  • ystyr “Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf” (“modified Schedule 6 to the Act”) yw'r Atodlen honno fel y mae'n effeithiol gydag addasiadau yn rhinwedd rheoliad 7 a Rhan I o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf” (“modified Schedule 12 to the Act”) yw'r Atodlen honno fel y mae'n effeithiol gydag addasiadau yn rhinwedd rheoliad 12 a Rhan VI o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “y corff llywodraethu” (“the governing body”) yw corff llywodraethu'r ysgol y cynigir newid categori neu, yn ôl fel y digwydd, y mae'r newid hwnnw'n digwydd mewn perthynas â hi;

  • mae i “corff sefydledig” yr ystyr a roddir i “foundation body” gan adran 21(4)(a) o'r Ddeddf;

  • ystyr “y cyfnod gweithredu” (“the implementation period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y cymeradwyir y cynigion o dan baragraff 8 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf, ac sy'n dod i ben ar y dyddiad gweithredu;

  • ystyr “y cynigion” (“the proposals”) yw'r cynigion a gyhoeddir o dan baragraff 2 neu 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf gydag unrhyw addasiadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 8 neu 10 o'r Atodlen 6 addasedig i'r Ddeddf;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “cytundeb trosglwyddo” (“transfer agreement”) yw cytundeb—

    (a)

    sy'n cael ei wneud rhwng yr awdurdod addysg lleol a'r ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig neu gorff llywodraethu'r ysgol (yn ôl fel y digwydd), a

    (b)

    sy'n darparu bod tir yn cael ei drosglwyddo i'r awdurdod addysg lleol a'i freinio ynddo ar y dyddiad gweithredu (p'un ai yn gydnabyddiaeth am swm a delir gan yr awdurdod neu beidio)

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (2);

  • ystyr “y dyddiad gweithredu” (“the implementation date”) yw'r dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i'r newid categori ddigwydd;

  • mae i “grŵ p” yr ystyr a roddir i “group” gan adran 21(4)(b) o'r Ddeddf;

  • ystyr “tir a ariennir yn gyhoeddus”(“publicly funded land” ) yw tir a gafodd ei gaffael—

    (a)

    oddi wrth awdurdod lleol drwy drosglwyddiad o dan adran 201(1)(a) o Ddeddf Addysg 1996(3) ;

    (b)

    yn gyfan gwbl drwy gyfrwng unrhyw grant cynnal, grant dibenion arbennig neu grant cyfalaf (o fewn ystyr Pennod VI o Ran III(4) o'r Ddeddf honno);

    (c)

    yn gyfan gwbl drwy gyfrwng unrhyw grant a dalwyd o dan reoliad 3 o Reoliadau Addysg (Atodlen 32 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) (Cymru) 1999(5);

    (ch)

    yn gyfan gwbl drwy gyfrwng gwariant a dynnwyd at ddibenion yr ysgol ac yr ymdriniwyd ag ef gan yr awdurdod addysg lleol fel gwariant o natur cyfalaf;

    (d)

    o dan drosglwyddiad o dan Atodlen 4; neu

    (dd)

    yn gyfan gwbl drwy'r enillion wrth waredu unrhyw dir a gafodd ei gaffael fel y crybwyllir yn unrhyw un o baragraffau (a) i (d).

(2Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu at yr Atodlen iddynt, sy'n dwyn y rhif hwnnw ac mae cyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.

Torri terfynau amser rhagnodedig

4.  Ni fydd methiant gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r awdurdod neu'r corff llywodraethu o'r ddyletswydd honno.

Cyfyngiadau ar newid categori ysgol

5.—(1Rhaid i ysgol beidio â newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir oni fydd corff llywodraethu'r ysgol yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd y corff llywodraethu (fel corff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn gallu cyflawni ei rwymedigaethau o dan Atodlen 3 i'r Ddeddf am gyfnod o bum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad gweithredu.

(2Ni chaiff ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir ddod yn ysgol gymunedol ac ni chaiff ysgol arbennig sefydledig ddod yn ysgol arbennig gymunedol oni bai bod unrhyw gytundeb trosglwyddo a chytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau sy'n ofynnol o dan Atodlen 4 wedi'u gwneud.

(3Ni chymerir bod newid categori ysgol o dan y Rheoliadau hyn yn awdurdodi ysgol i sefydlu corff sefydledig, neu i ymuno neu ymadael â chorff o'r fath.

Cynigion

6.—(1Bydd rheoliadau 7 i 18 yn gymwys mewn perthynas â chynigion o dan baragraff 2 neu (yn ôl fel y digwydd) baragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf o'r math a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Mae'r cynigion hynny yn gynigion—

(a)gan awdurdod addysg lleol y dylai ysgol gymunedol newid categori i ddod yn ysgol sefydledig neu y dylai ysgol arbennig gymunedol newid categori i ddod yn ysgol arbennig sefydledig;

(b)gan gorff llywodraethu y dylai ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir newid categori i ddod yn ysgol o fewn un arall o'r categorïau hynny (gan gynnwys, yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, gynigion y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu eu cyhoeddi yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 8 i'r Ddeddf);

(c)gan gorff llywodraethu y dylai ysgol arbennig gymunedol newid categori i ddod yn ysgol arbennig sefydledig neu i'r gwrthwyneb.

Cymhwyso adran 28 o'r Ddeddf ac Atodlen 6 iddi

7.—(1Mae Rhan I o Atodlen 1 yn effeithiol ar gyfer cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, mewn perthynas â'r cynigion a grybwyllir yn rheoliad 6.

(2Mae darpariaethau adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, sydd wedi'u cymhwyso felly wedi'u nodi yn Rhan II o Atodlen 1 fel y'u haddaswyd; gan roi cyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol (y mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u breinio ynddo bellach) yn lle cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gweithredu'r cynigion

8.  Ar y dyddiad gweithredu rhaid i'r ysgol newid categori yn unol â'r cynigion.

Trosglwyddo staff

9.  Mae Atodlen 2 yn effeithiol mewn perthynas â throsglwyddo staff.

Yr offeryn llywodraethu

10.—(1Bydd y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yn sicrhau bod offeryn llywodraethu newydd yn cael ei wneud ar gyfer yr ysgol erbyn diwedd y cyfnod gweithredu yn unol â'r Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf .

(2Daw'r offeryn llywodraethu newydd yn effeithiol o ddyddiad ei wneud er mwyn ailgyfansoddi'r corff llywodraethu ond ni fydd yn effeithio ar gyfansoddiad y corff llywodraethu sy'n arwain yr ysgol tra'n aros am y dyddiad gweithredu.

(3At bob diben arall, daw'r offeryn llywodraethu newydd yn effeithiol o'r dyddiad gweithredu.

11.—(1Rhaid i'r offeryn llywodraethu newydd ar gyfer ysgol sy'n newid ei chategori gael ei wneud ar y ffurf a nodir yn y Rhan berthnasol o Atodlen 3.

(2Cydymffurfir yn ddigonol â pharagraff (1) os yw'r offeryn llywodraethu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurf a nodir yn y Rhan berthnasol o Atodlen 3.

12.  Bydd Atodlen 12 i'r Ddeddf, o ran ei chymhwyso at yr offerynnau llywodraethu newydd a grybwyllir yn rheoliad 11, yn effeithiol gyda'r is-baragraffau a nodir yn Rhan VI o Atodlen 3 wedi'u rhoi yn lle is-baragraffau (2) i (6) o baragraff 3 o Atodlen 12.

Ailgyfansoddi'r corff llywodraethu

13.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu presennol a'r awdurdod addysg lleol sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau'r cyfnod gweithredu (a beth bynnag o fewn cyfnod o dri mis gan ddechrau ar y dyddiad gweithredu), fod y corff llywodraethu yn cael ei ailgyfansoddi yn unol â'r offeryn llywodraethu newydd a'r Atodlen 12 addasedig i'r Ddeddf.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu presennol arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn mewn ffordd a fydd yn caniatáu i'r awdurdod addysg lleol gyflawni ei swyddogaethau yntau o dan baragraff (1).

Llywodraethwyr presennol yn parhau yn eu swyddi

14.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw aelod o gorff llywodraethu presennol y mae offeryn llywodraethu newydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r corff o dan y Rheoliadau hyn.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 15, bydd llywodraethwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn parhau o'r dyddiad gweithredu (neu ddyddiad gwneud yr offeryn llywodraethu newydd os yw'n ddiweddarach) yn llywodraethwr yn y categori cyfatebol sy'n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu newydd (pan fydd categori cyfatebol yn bodoli).

(3Bydd aelod o gorff llywodraethu presennol sy'n parhau yn llywodraethwr o dan baragraff (2) yn dal ei swydd am weddill y tymor y cafodd ei benodi neu ei ethol ar ei gyfer yn wreiddiol.

(4Ni chaiff trafodion y corff llywodraethu eu hannilysu am fod gan yr ysgol fwy o lywodraethwyr mewn categori penodol na'r hyn y darperir ar ei gyfer gan yr offeryn llywodraethu newydd, tra'n aros i'r llywodraethwyr gormodol gael eu diswyddo o dan reoliad 15.

Llywodraethwyr gormodol

15.—(1Os bydd—

(a)gan ysgol fwy o lywodraethwyr ar neu ar ôl y dyddiad gweithredu mewn categori penodol na'r hyn sy'n ofynnol fel llywodraethwyr yn y categori hwnnw o dan yr offeryn llywodraethu newydd, a

(b)bod y gormodedd heb ei ddileu drwy ymddiswyddiadau,

bydd y nifer yn y categori hwnnw y mae ei angen i ddileu'r gormodedd yn peidio â dal eu swyddi yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ar sail eu cyfnod yn eu swydd y penderfynir pa lywodraethwyr sydd i beidio â dal eu swyddi, a'r llywodraethwr sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod di-dor byrraf ar hyn o bryd (p'un ai fel llywodraethwr un categori neu fwy nag un) fydd y cyntaf i beidio â dal ei swydd.

(3Os bydd angen at ddibenion paragraff (2) dewis un neu fwy o lywodraethwyr o blith grŵ p sy'n gyfartal o ran eu cyfnod yn eu swydd, gwneir hynny drwy dynnu enwau ar hap.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid ymdrin â llywodraethwyr cyfetholedig ychwanegol a enwebir gan gategori penodol o berson fel petaent yn gategori ar wahân o lywodraethwyr.

(5Ni fydd unrhyw weithdrefn a nodir yn yr offeryn llywodraethu newydd ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sefydledig gormodol yn gymwys ar gyfer ailgyfansoddi'r corff llywodraethu o dan y Rheoliadau hyn.

Tir

16.  Mae Atodlen 4 yn effeithiol mewn perthynas â thir.

Darpariaethau trosiannol

17.  Os bydd ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yn newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, neu'n ysgol sefydledig, bydd unrhyw beth a wneir cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran III o'r Ddeddf (trefniadau derbyn) yn effeithiol, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, fel petai wedi'i wneud gan y corff llywodraethu.

18.  Os bydd ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn newid categori i ddod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir, bydd unrhyw beth a wneir cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran III o'r Ddeddf (trefniadau derbyn) yn effeithiol, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, fel petai wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol.

19.  Rhaid cyfrif unrhyw gyfnod ymgynghori cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r ddyletswydd o dan adran 28(5) o'r Ddeddf fel y mae'n effeithiol gydag addasiadau yn rhinwedd rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn a Rhan I o Atodlen 1 iddynt.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2001

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources