- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ac ysgolion sefydledig ddod yn gategori arall o ysgol o fewn y categorïau hynny, ac ar gyfer ysgol arbennig gymunedol ddod yn ysgol arbennig sefydledig ac ysgol arbennig sefydledig ddod yn ysgol arbennig gymunedol.
Rheoliad 2: mae'n diddymu Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999, yn ddarostyngedig i eithriadau.
Rheoliad 3: mae'n diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion sy'n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau.
Rheoliad 4: mae'n darparu nad yw'r awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu, pan yw'r Rheoliadau'n darparu bod dyletswyddau i'w cyflawni o fewn terfyn amser, yn cael eu rhyddhau o'r ddyletswydd honno os na fyddant yn eu cyflawni o fewn y terfyn amser a osodir.
Rheoliad 5: mae'n gosod cyfyngiadau ar ysgolion sy'n newid categori.
Rheoliad 6: mae'n nodi'r mathau o gynigion y mae rheoliadau 7–18 yn gymwys iddynt.
Rheoliad 7: mae'n darparu ar gyfer sut y mae cynigion ar gyfer newid categori ysgol i gael eu gwneud a sut y mae ymdrin â hwy, drwy gymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 6 iddi mewn perthynas â chynigion o'r fath. Nodir yr addasiadau yn Rhan I o Atodlen 1 ac mae Rhan II o'r Atodlen honno'n dangos effaith addasiadau o'r fath ar adran 28 ac Atodlen 6.
Rheoliad 8: mae'n darparu y bydd yr ysgol ar y dyddiad gweithredu yn newid categori yn unol â'r cynigion.
Rheoliad 9 ac Atodlen 2: maent yn ymdrin â throsglwyddo staff o gyflogaeth awdurdod addysg lleol i gyflogaeth corff llywodraethu a vice versa.
Rheoliadau 10–12 ac Atodlen 3: maent yn ymdrin â gwneud offerynnau llywodraethu newydd ac yn rhagnodi ffurflenni safonol i'w defnyddio. Addasir Atodlen 12 i Ddeddf 1998, wrth ei chymhwyso i'r offerynnau llywodraethu newydd, fel y darperir yn Rhan VI o Atodlen 3.
Rheoliadau 13–15: maent yn darparu ar gyfer ailgyfansoddi'r corff llywodraethu pan fydd ysgol yn newid categori. Caniateir i lywodraethwyr penodol barhau yn eu swydd a gwneir darpariaeth ar gyfer diswyddo unrhyw lywodraethwyr sy'n ormodol i anghenion yr offeryn llywodraethu newydd.
Rheoliad 16 ac Atodlen 4: maent yn darparu ar gyfer trosglwyddo tir a'r hawliau a'r rhwymedigaethau cysylltiedig.
Rheoliadau 17 a 18: maent yn cynnwys darpariaethau trosiannol ar gyfer achosion lle mae newid yn yr awdurdod derbyn pan fydd ysgol yn newid categori.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: