Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2001.

(2Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli a chymhwyso

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid) sy'n cael ei fridio neu ei gadw ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân, croen neu ffwr neu ar gyfer dibenion ffermio eraill;

  • ystyr “cawell batri” (“battery cage”) yw gofod wedi'i amgáu a fwriadwyd ar gyfer ieir dodwy mewn system fatri;

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid neu â gofal ohonynt p'un ai ar sail dros dro neu barhaol;

  • ystyr “cod lles statudol” (“statutory welfare code”) yw cod sydd wedi'i gyhoeddi am y tro o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968;

  • ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr lawndwf o'r rhywogaeth Gallus gallus a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau;

  • ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol hyd at chwe mis oed;

  • ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o'r rhywogaeth fochaidd o unrhyw oedran, a gedwir ar gyfer ei fridio neu ei besgi;

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 6 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968;

  • ystyr “system fatri” (“battery system”) yw trefniant o gewyll mewn rhesi neu mewn haenau neu mewn rhesi a haenau; ac

  • mae i “triniaeth söotechnegol” yr ystyr a roddir i “zootechnical treatment” gan Erthygl 1(2)(c) o Gyfarwyddeb 96/22/EEC(1) ynghylch gwahardd defnyddio sylweddau penodol sy'n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid mewn ffermio stoc.

(2Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid ac eithrio —

(a)anifeiliaid sy'n byw yn y gwyllt;

(b)anifeiliaid tra byddant mewn cystadlaethau, sioeau, digwyddiadau neu weithgareddau diwylliannol neu chwaraeol ac anifeiliaid a fwriedir yn unig i gael eu defnyddio ynddynt;

(c)anifeiliaid arbrofol neu mewn labordai; neu

(ch)unrhyw anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

(3Bydd Rhan 1 o Atodlen 6 yn effeithiol at ddibenion dehongli Atodlen 6.

(4Yn y Rheoliadau hyn —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(c)mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn digwydd; ac

(ch)mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn.

Dyletswyddau perchenogion a cheidwaid anifeiliaid

3.—(1Rhaid i berchenogion a cheidwaid anifeiliaid gymryd pob cam rhesymol —

(a)i sicrhau lles yr anifeiliaid o dan eu gofal; a

(b)i sicrhau na pherir unrhyw boen, dioddefaint nac anaf diangen i'r anifeiliaid.

(2Rhaid i berchenogion a cheidwaid anifeiliaid (ac eithrio pysgod, ymlusgiaid ac amffibiaid) gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu bridio neu eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 1.

(3Wrth benderfynu a yw'r amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu bridio neu eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 1, rhaid i berchennog a cheidwad yr anifeiliaid roi sylw i'w rhywogaeth, ac i radd eu datblygiad, eu haddasiad a'u dofiad, ac i'w hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol â phrofiad cynefin a gwybodaeth wyddonol.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri

4.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 2.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri)

5.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw ieir dodwy sy'n cael eu cadw mewn cewyll batri) sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 3.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid lloi sy'n cael eu caethiwo ar gyfer eu magu a'u pesgi

6.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 4.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid gwartheg

7.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid gwartheg a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 5.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid moch

8.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid moch sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio —

(a)â'r gofynion a nodir yn Rhan II o Atodlen 6; a

(b)â'r gofynion a nodir yn Rhannau III, IV, V neu VI o Atodlen 6 (yn ôl fel y digwydd) sy'n gymwys i'r categori penodol o fochyn a gedwir.

Dyletswyddau ychwanegol perchenogion a cheidwaid cwningod

9.  Rhaid i berchenogion a cheidwaid cwningod sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r anifeiliaid yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 7.

Codau lles statudol

10.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflogi person neu'n ei gymryd ymlaen i ofalu am anifeiliaid sicrhau bod y person sy'n gofalu am yr anifeiliaid —

(a)yn gydnabyddus â darpariaethau'r holl godau lles statudol perthnasol sy'n ymwneud â'r anifeiliaid y gofelir amdanynt;

(b)yn gallu cael gweld copi o'r codau hynny tra bydd yn gofalu am yr anifeiliaid; ac

(c)wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y codau hynny.

(2Ni chaiff unrhyw berson sy'n cadw anifeiliaid, neu sy'n peri neu'n fwriadol yn caniatáu i anifeiliaid gael eu cadw, ofalu amdanynt oni bydd yn gallu cael gweld yr holl godau lles statudol perthnasol sy'n ymwneud â'r anifeiliaid tra bydd yn gofalu amdanynt, ac yn gydnabyddus â darpariaethau'r codau hynny.

Pwerau personau awdurdodedig

11.  Os yw person awdurdodedig o'r farn bod anifeiliaid yn cael eu cadw mewn ffordd sy'n debygol o achosi poen, dioddefaint neu anaf diangen, neu mewn unrhyw ffordd arall yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, gall gyflwyno hysbysiad i'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod â gofal yr anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw, o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad, gymryd unrhyw gamau sydd ym marn y person awdurdodedig yn rhesymol angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn a rhaid i'r person awdurdodedig roi ei resymau dros fynnu'r camau hynny.

Pwerau mynediad

12.  Caiff person awdurdodedig sy'n arfer pwerau mynediad o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(2) at ddibenion y Rheoliadau hyn fynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef neu hi sy'n gweithredu at ddibenion —

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 88/166/EEC(3) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir dodwy a gedwir mewn cewyll batri;

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC(4) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn lloi fel y'i diwygiwyd gan y Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC(5)) a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC(6);

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC(7)) sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn moch; neu

(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC(8) ynghylch amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio;

yn ogystal ag unrhyw berson sy'n mynd gydag ef neu hi o dan y pwerau a ddarperir o dan adran 6(3) o'r Ddeddf honno.

Tramgwyddau

13.—(1Mae person sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithiol —

(a)yn torri neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn;

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 11 o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad;

(c)yn cofnodi unrhyw eitem mewn cofnod, neu'n rhoi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn y mae'n gwybod ei bod yn ffug mewn unrhyw fanylyn penodol neu sydd, at y dibenion hynny, yn gwneud datganiad yn ddi-hid neu'n rhoi gwybodaeth sy'n ffug mewn unrhyw fanylyn penodol; neu

(ch)yn peri neu'n caniatáu unrhyw un o'r uchod,

yn euog o dramgwydd o dan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968.

(2Mewn unrhyw achos yn erbyn perchennog neu geidwad anifeiliaid am fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(1) neu 3(2) (fel y'u darllenir ynghyd â rheoliad 3(3)), gall y perchennog neu'r ceidwad, yn ôl fel y digwydd, ddibynnu ar y ffaith eu bod wedi cydymffurfio ag unrhyw argymhelliad perthnasol a gynhwysir mewn cod lles statudol fel pe bai'n tueddu i sefydlu eu bod wedi cydymffurfio â'r rheoliad perthnasol.

Diddymiadau

14.  Drwy hyn diddymir Rheoliadau Lles Da Byw 1994(9) a Rheoliadau Lles Da Byw (Diwygio) 1998(10) mewn perthynas â Chymry yn unig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

D. Elis-Thomas

Llywydd

17 Gorffennaf 2001

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources