- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 4
1. Rhaid i bob cawell gydymffurfio â'r gofynion canlynol —
(a)rhaid i arwynebedd y cawell, wedi'i fesur ar blan llorweddol, ar gyfer pob iâr ddodwy beidio â bod yn llai —
(i)na 1000cm2 pan gedwir un iâr yn y cawell;
(ii)na 750 cm2 pan gedwir dwy iâr yn y cawell;
(iii)na 550 cm2 pan gedwir tair iâr yn y cawell; a
(iv)na 450 cm2 pan gedwir pedair neu fwy o ieir yn y cawell;
(b)rhaid i isafswm arwynebedd y cawell ar gyfer pob iâr ddodwy allu cael ei ddefnyddio heb gyfyngiad a gall gynnwys y fan lle mae'r plât ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff (a elwir fel arall yn gard wyau) wedi'i roi cyhyd â bod modd defnyddio'r fan honno;
(c)rhaid darparu cafn bwyd nad yw ei hyd yn llai na 10 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell ac y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad;
(ch)ac eithrio pan ddarperir pigynnau dŵr a chwpanau dŵr, rhaid i'r cawell gael sianel yfed barhaol na fydd yn llai na 10cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell, ac y gellir ei defnyddio heb gyfyngiad;
(d)pan geir pwyntiau yfed wedi'i plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn yfed neu ddau gwpan yfed o fewn cyrraedd y cawell;
(dd)rhaid i uchder y cawell, am 65% o'i arwynebedd, beidio â bod yn llai na 40 cm, ac am weddill yr arwynebedd, rhaid iddo beidio â bod yn llai na 35 cm (ceir yr uchder drwy gyfrwng llinell fertigol o'r llawr i'r pwynt agosaf yn y to a cheir yr arwynebedd drwy luosi 450cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell);
(e)rhaid adeiladu llawr y cawell fel y gall gynnal yn ddigonol bob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed; ac
(f)rhaid i ogwyddiad y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd, pan yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryalog, a 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr.
2. Rhaid i gewyll batri gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal yn y fath fodd ag i atal unrhyw anaf neu ddioddefaint diangen i ieir dodwy i'r graddau sy'n bosibl yn sefyllfa bresennol technoleg.
3. Rhaid i ddyluniad a maint agoriad y cawell fod yn gyfryw fel y gellir rhoi ieir dodwy i mewn neu eu codi allan heb beri anaf na dioddefaint diangen iddynt.
4. Rhaid i'r cewyll fod wedi'u cyfarparu a'u cynnal yn addas i rwystro'r ieir dodwy rhag dianc.
5. Ac eithrio pan fydd triniaeth therapiwtig neu broffilactig yn mynnu fel arall, rhaid i bob iâr ddodwy gael cyfle i fynd at fwyd iachus, maethlon a hylan bob dydd mewn swmp digonol i'w cynnal mewn iechyd da ac i fodloni eu hanghenion maethiadol, ac i dŵr yfed ffres digonol bob amser.
6. Rhaid i'r ieir dodwy dderbyn gofal gan bersonél sydd â gwybodaeth a phrofiad digonol o'r system gynhyrchu a ddefnyddir.
7. Rhaid i'r haid neu'r grwp o ieir dodwy gael eu harchwilio'n drwyadl o leiaf unwaith y dydd a rhaid trefnu bod ffynhonnell o olau (sefydlog neu symudol) ar gael sy'n ddigon cryf i weld pob aderyn yn glir.
8. Rhaid peidio â defnyddio llety sy'n cynnwys mwy na thair haen o gewyll onid oes dyfeisiau neu fesurau addas yn ei gwneud yn bosibl archwilio pob haen yn drwyadl heb anhawster.
9.—(1) Pan fydd yn ymddangos nad yw ieir dodwy mewn iechyd da neu eu bod yn dangos newidiadau ymddygiad, rhaid cymryd camau i ddarganfod yr achos a chymryd y camau adfer priodol.
(2) Pan fydd angen cymryd camau adfer o dan is-baragraff (1) uchod, rhaid rhoi ystyriaeth i'r mathau canlynol o gamau —
(a)rhoi triniaeth;
(b)ynysu;
(c)cwlio;
(ch)cywiro ffactorau amgylcheddol; a
(d)unrhyw fath arall o gamau adferol y mae ei angen.
(3) Os olrheinir achos y mae problemau iechyd neu ymddygiad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) uchod i ffactor amgylcheddol yn yr uned gynhyrchu nad yw'n hanfodol ei adfer ar unwaith, rhaid cymryd camau adfer cyn gynted ag sy'n ymarferol, a beth bynnag pan yw'r llety yn cael ei wagio nesaf a chyn i'r llwyth nesaf o ieir dodwy gael eu rhoi yno.
10.—(1) Bob tro y mae'r holl gewyll a gedwir gyda'i gilydd yn cael eu gwagio rhaid eu glanhau'n a'u diheintio'n drylwyr cyn rhoi'r llwyth nesaf o ieir dodwy yno.
(2) Pan fydd ieir yn y cewyll, rhaid cadw'r arwynebau a'r holl offer yn foddhaol lân.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: