- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2. Rhaid i bob mochyn gael ei archwilio gan berchennog neu geidwad y moch o leiaf unwaith y dydd i sicrhau ei fod mewn cyflwr o lesiant.
3. Pan fydd angen, rhaid ynysu moch sâl neu anafus mewn llety addas gyda gwasarn cysurus sych.
4. Ni chaiff neb roi tennyn na pheri rhoi tennyn ar unrhyw fochyn ac eithrio pan fydd yn mynd o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.
5.—(1) Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 4, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'i haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.
(2) Rhaid i bob tennyn fod o ddigon o hyd i ganiatáu i'r moch symud fel y nodir ym mharagraff 6(2) isod a rhaid i'r dyluniad fod yn gyfryw fel y bydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.
6.—(1) Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.
(2) Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn —
(a)sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;
(b)cael lle glân y gall orffwyso ynddo; ac
(c)gweld moch eraill, onid yw'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol.
7.—(1) Rhaid i faintioli unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi'i sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mae hyd y mochyn yn cael ei fesur o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bydd yn sefyll gyda'i gefn yn syth.
(2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn benyw am y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y dydd disgwyliedig iddi ddod â moch bach a'r dydd y bydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.
(3) Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn drwy gadw mochyn mewn côr neu gorlan —
(a)tra bydd o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;
(b)at ddibenion serfio, cyfebru artiffisial neu gasglu semen;
(c)tra caiff ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;
(ch)at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;
(d)tra bydd ei lety'n cael ei lanhau, neu
(dd)tra bydd yn disgwyl cael ei lwytho ar gyfer ei gludo,
ar yr amod nad yw'r cyfnod pan gedwir y mochyn yn hwy nag y mae ei angen i'r diben hwnnw.
(4) Ni fydd person yn euog o dramgwydd yn unol â rheoliad 13(1) o dorri neu fethu â chydymffurfio â'r paragraff hwn am gadw mochyn mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i'r côr neu'r gorlan o gôr neu gorlan y mae'r mochyn yn cael ei gadw ynddynt heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.
8. Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial yna, yn ddarostyngedig i baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 1, rhaid darparu golau artiffisial am gyfnod sydd o leiaf yn hafal i'r cyfnod o olau naturiol sydd ar gael fel arfer rhwng 9.00 a.m. a 5.00 p.m.
9.—(1) Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad arferol.
(2) Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu hynysu neu eu cadw ar wahân i'r grŵ p.
10.—(1) Rhaid i adeiladau, corlannau, offer a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir i atal trawsheintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.
(2) Rhaid i ddom neu tail, biswail a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud cyn amled ag y mae angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.
11.—(1) Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sy'n lân, yn gysurus ac nad yw'n effeithio yn andwyol arnynt ac y mae ganddo naill ai wasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.
(2) Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.
12. Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau fod —
(a)yn llyfn heb fod yn llithrig er mwyn rhwystro anaf i'r moch;
(b)wedi'u dylunio fel na fyddant yn peri anaf na ddioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;
(c)yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac
(ch)yn ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.
13.—(1) Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.
(2) Pan gedwir grŵ p o foch mewn adeilad heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan nad oes system fwydo awtomatig yn eu bwydo, rhaid i bob mochyn gael mynd at fwyd ar yr un adeg â'r lleill sydd yn y grŵp bwydo.
14. Rhaid darparu cyflenwad digonol o ddŵ r yfed ffres ar gyfer pob mochyn bob dydd.
15. Yn ychwanegol at y mesurau a gymerir fel arfer i rwystro brathu cynffonau a gwendidau eraill ac er mwyn eu galluogi i fodloni eu hanghenion ymddygiad, rhaid i bob mochyn, gan gymryd i ystyriaeth yr amgylchedd a'r dwysedd stocio, gael y cyfle i fynd at wellt neu ddefnydd neu wrthrych arall sy'n addas i fodloni'r anghenion hynny.
16. Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd sy'n golygu cynnal tymheredd uchel a lleithder uchel (a elwir y “system blwch-chwysu”).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: