- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Mae cyfarfod cyntaf y fforwm ar ôl y cyfarfod y daw penodiad holl aelodau'r fforwm yn weithredol ynddo (naill ai pan sefydlir y fforwm neu pan benodir aelodau ar ôl i aelodaeth yr holl aelodau ddod i ben o dan reoliad 4(3)) i ddigwydd yn yr amser a'r lle a benderfynir gan yr awdurdod penodi, mae ei agenda i'w benderfynu gan yr awdurdod penodi, ac mae'r Ysgrifennydd i lywyddu arno, ond wedyn gall y fforwm gyfarfod bob hyn a hyn fel y gwêl yn dda, ond rhaid iddo gyfarfod o leiaf ddwywaith ymhob cyfnod o 12 mis wedi'i gyfrifo drwy gyfeirio at y dyddiad pan sefydlwyd ef.
(2) Gellir cynnal cyfarforydd y fforwm ar unrhyw ddyddiau a lle y bydd yr aelodau yn cytuno arnynt a rhaid iddynt fod yn agored i'r cyhoedd oni fydd y person sy'n llywyddu yn dyfarnu bod eitem benodol o fusnes i'w hystyried mewn cyfarfod yn ei gwneud yn briodol i'r cyhoedd gael eu gwahardd pan ystyrir yr eitem fusnes honno.
(3) Mewn unrhyw gyfarfod o'r fforwm, y person sydd i lywyddu (y “person sy'n llywyddu” ) yw'r canlynol, yn ddarostyngedig i reoliad 12(3)—
(a)y Cadeirydd, os yw'n bresennol;
(b)os yw'r Cadeirydd yn absennol, y Dirprwy Gadeirydd; neu
(c)os yw'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd yn absennol, unrhyw aelod y mae'r aelodau sy'n bresennol yn ei ddewis.
(4) Ni chynhelir unrhyw fusnes gan y fforwm onid yw nifer yr aelodau sy'n bresennol, heb gynnwys y person sy'n llywyddu, yn fwy na thraean o'r aelodaeth lawn.
(5) Yn ddarostyngedig i unrhyw beth i'r gwrthwyneb a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, neu i unrhyw ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 94(6)(c) o'r Ddeddf, gall fforwm reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(6) Ni fydd trafodion unrhyw gyfarfod yn cael eu hannilysu os bydd unrhyw berson sydd â hawl i'w cael yn methu â chael unrhyw hysbysiad neu ddogfennau eraill sy'n berthnasol i'r cyfarfod o dan sylw y mae'n ofynnol iddynt fel arall gael eu cyflwyno neu eu hanfon o dan y Rheoliadau hyn.
(7) Rhaid paratoi cofnodion trafodion unrhyw gyfarfod (ac mae'n rhaid iddynt gynnwys enwau'r aelodau hynny sy'n bresennol ac yn absennol), eu cyflwyno i'w cytuno yn y cyfarfod nesaf a'u llofnodi gan y person sy'n llywyddu yn y cyfarfod nesaf hwnnw.
(8) Gall y Cadeirydd wahodd sylwebyddion a/neu gynghorwyr i gyfarfod, a chaiff y sawl a wahoddir, os yw'r person sy'n llywyddu yn ystyried hynny'n briodol, gyfrannu at drafodion y fforwm.
(9) Gall cynrychiolydd o'r Cynulliad Cenedlaethol a/neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ac unrhyw swyddog o awdurdod (mewn perthynas â'r fforwm o dan sylw) sy'n awdurdod penodi, fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r fforwm, neu o bwyllgor a sefydlir gan y fforwm hwnnw, fel sylwebydd.
(10) Pan fydd y person sy'n llywyddu yn ystyried ei bod yn briodol pleidleisio ynghylch unrhyw gwestiwn, rhaid i'r person sy'n llywyddu ffurfio'r cwestiwn hwnnw, yn ysgrifenedig os gofynnir amdano, a phleidleisir drwy i'r aelodau sy'n bresennol godi llaw (ac eithrio nad oes gan y person sy'n llywyddu yr hawl i bleidleisio onid yw'r pleidleisiau'n gyfartal, ac os felly mae'r person sy'n llywyddu i gael pleidlais fwrw).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: