- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sŵn, mewn perthynas â chartref cymwys, ar lefel heb fod yn llai na'r lefel benodedig neu y disgwylir iddo achosi sŵn o'r fath, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.
(2) At ddibenion paragraff (1) o'r rheoliad hwn mae defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sŵn ar lefel heb fod yn llai na'r lefel benodedig neu disgwylir iddo achosi sŵn o'r fath —
(a)os yw lefel sŵn berthnasol o leiaf 1 dB(A) yn fwy na'r lefel sŵn gyffredinol, a
(b)os yw sŵn sydd wedi'i achosi neu y disgwylir iddo gael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio'r briffordd honno neu y disgwylir iddo ei defnyddio yn gwneud cyfraniad effeithiol at y lefel sŵn berthnasol o 1 dB(A) o leiaf.
(3) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw gwaith ar gyfer adeiladu neu newid priffordd ar unrhyw bryd ar ôl y dyddiad cychwyn, yn achosi sŵn ar lefel sydd, ym marn yr awdurdod, wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad cartref cymwys dros gyfnod di-dor o nid llai na chwe mis, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.
(4) Pan ddaw priffordd yn briffordd y gellir ei chynnal ar gost y cyhoedd o fewn ystyr adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(1) o fewn tair blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd wneud taliad o dan baragraffau (1) neu (3) o'r rheoliad hwn mewn perthynas â chartref cymwys os byddai pŵ er i wneud hynny wedi codi petai'r briffordd wedi bod yn briffordd y gellid ei chynnal ar gost y cyhoedd ar y dyddiad perthnasol a phetai gwaith adeiladu neu newid y briffordd wedi'i gyflawni gan yr awdurdod priffyrdd hwnnw.
(5) Cyfeirir at daliad o dan y rheoliad hwn fel “taliad sŵn” yn y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: