Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 832 (Cy. 37)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

8th Mawrth 2001

Yn dod i rym

16 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cofnodion Disgyblion) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 16 Ebrill 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion yng Nghymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “cofnod cwricwlaidd” (“curricular record”) yw cofnod ffurfiol o gyraeddiadau academaidd disgybl, medrau a galluoedd eraill y disgybl a chynnydd y disgybl yn yr ysgol;

  • ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw —

    (a)

    pennaeth ysgol annibynnol; neu

    (b)

    corff llywodraethu unrhyw ysgol arall; neu

    (c)

    y person sy'n gyfrifol am arwain unrhyw sefydliad addysg bellach neu addysg uwch neu le addysg neu le hyfforddiant arall y mae disgybl yn trosglwyddo iddo neu y gallai drosglwyddo iddo;

    ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw unrhyw ddiwrnod y mae sesiwn ysgol yn digwydd yn yr ysgol;

  • ystyr “sefydliad addysg bellach neu addysg uwch” (“institution of further or higher education”) yw unrhyw sefydliad o fewn is-adran (10) o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(3).

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Ystyr cofnodion addysgol

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cofnod addysgol” (“educational record”) yw unrhyw gofnod o wybodaeth —

(a)a brosesir gan neu ar ran corff llywodraethu unrhyw ysgol a bennir ym mharagraff (2), neu gan neu ar ran athro yn yr ysgol honno;

(b)sy'n ymwneud ag unrhyw berson sy'n ddisgybl neu sydd wedi bod yn ddisgybl yn yr ysgol; ac

(c)a ddaeth oddi wrth neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw un o'r personau a bennir ym mharagraff (3),

heblaw gwybodaeth a brosesir gan athro at ddefnydd yr athro yn unig.

(2Dyma'r ysgolion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) —

(a)ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol; a

(b)ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly.

(3Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) —

(a)gweithiwr a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;

(b)yn achos —

(i)ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig; neu

(ii)ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol,

athro neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerir ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);

(c)y disgybl y mae'r cofnod yn berthnasol iddo; ac

(ch)rhiant i'r disgybl hwnnw(4).

Dyletswyddau pennaeth - cofnodion cwricwlaidd

4.  Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ac eithrio ysgol feithrin, a phob ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly, gadw cofnod cwricwlaidd, a ddiweddarir o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn perthynas â phob disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

Dyletswyddau pennaeth - cofnodion addysgol

5.—(1Ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant i ddatgelu cofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, ac eithrio ysgol feithrin, a phennaeth ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly, o fewn pymtheng niwrnod ysgol, drefnu ei fod ar gael i'w archwilio, yn rhad ac am ddim, i'r rhiant.

(2Ar ôl cael cais ysgrifenedig gan riant am gopi o gofnod addysgol disgybl, rhaid i bennaeth ysgol o'r fath, o fewn pymtheng niwrnod ysgol, roi copi ohono i'r rhiant pan delir ffi (nad yw'n fwy na chost ei gyflenwi), os oes ffi, fel y caiff y corff llywodraethu ei ragnodi.

(3Ym mhob achos lle'r ydys yn ystyried derbyn y disgybl i ysgol arall (gan gynnwys ysgol annibynnol) neu i sefydliad addysg bellach neu addysg uwch neu i unrhyw le addysg neu le hyfforddiant arall, rhaid i'r pennaeth drosglwyddo cofnod cwricwlaidd y disgybl i'r person cyfrifol, yn rhad ac am ddim, os yw'r person yn gwneud y cais hwnnw, cyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl cael y cais.

(4Ni fydd y cofnod a roddir o dan baragraff (3) yn cynnwys canlyniadau unrhyw asesiad o gyraeddiadau'r disgybl.

(5Wrth gydymffurfio ag unrhyw gais i ddatgelu neu i gael copi o gofnod addysgol disgybl o dan baragraff (1) neu (2) o'r rheoliad hwn, rhaid i'r pennaeth beidio â datgelu unrhyw ddogfennau sy'n destun unrhyw orchymyn o dan adran 30(2) o Ddeddf Diogelu Data 1998(5).

Cyfieithu

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol trefnu ei bod ar gael i'w harchwilio neu ei rhoi o dan reoliad 5(1), (2) neu (3).

(2Os yw'n ymddangos i bennaeth yr ysgol ei bod yn ofynnol cyfieithu unrhyw ddogfen o'r fath i Gymraeg neu Saesneg, rhaid i'r pennaeth drefnu ei chyfieithu ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd rheoliad 5 yn gymwys i'r ddogfen a gyfieithwyd fel ag y mae'n gymwys i'r ddogfen wreiddiol.

(3Os yw'n ymddangos i bennaeth yr ysgol ei bod yn ofynnol cyfieithu unrhyw ddogfen o'r fath i iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid i'r pennaeth drefnu ei chyfieithu ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd rheoliad 5 yn gymwys i'r ddogfen a gyfieithwyd fel ag y mae'n gymwys i'r ddogfen wreiddiol.

(4Pan godir tâl am gopi o'r ddogfen wreiddiol, rhaid peidio â chodi tâl uwch am gopi o'r ddogfen a gyfieithwyd fel hyn.

Diddymu

7.  Mae Rheoliadau Addysg (Cofnodion Ysgol) 1989(6) wedi'u diddymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n disodli darpariaethau a geid yn flaenorol yn Rheoliadau Addysg (Cofnodion Ysgol) 1989, yn darparu i bennaeth yr ysgol gadw cofnodion am gyraeddiadau academaidd a medrau a galluoedd a chynnydd (cofnodion cwricwlaidd) disgybl mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (ac eithrio ysgol feithrin) ac ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly (rheoliad 4).

Maent hefyd yn darparu i'r pennaeth ddatgelu a throsglwyddo cofnodion addysgol (fel y'u diffinnir yn rheoliad 3) i rieni ac i ysgolion y mae disgyblion yn trosglwyddo iddynt (rheoliad 5).

Os yw hynny'n ofynnol, rhaid darparu'r cofnodion addysgol gwreiddiol ynghyd â chyfieithiad i Gymraeg neu Saesneg neu i iaith arall (rheoliad 6).

Mae Rheoliadau 1989 yn cael eu diddymu (rheoliad 7).

(1)

1996 p.56. Diddymwyd adran 563(3)(b) gan Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr “regulations”, gweler adran 579(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.

(3)

1988 p.40 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 49 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).

(4)

Yr un diffiniad yw hwn â'r diffiniad o “educational record” a geir yn Atodlen 11 i Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources