- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002.
2. Mae'r Gorchymyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig ac eithrio mewn perthynas â
Rhan 7,
adrannau 191 i 196 ac Atodlen 18,
paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 o Atodlen 17 ac adran 189 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny,
Rhan 2 o Atodlen 22 ac adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhan honNo.
3. Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
4. 19 Rhagfyr 2002 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5. 31 Mawrth 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
6. 1 Medi 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
7. Er gwaethaf y ffaith bod adran 49 yn dod i rym, a heb ragfarn i adran 16(1)(c) o Ddeddf Dehongli 1978(1), mae adrannau 86(3)(b) a 91 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2) (trefniadau arbennig i gadw cymeriad crefyddol ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir) i barhau i gael effaith mewn perthynas â threfniadau derbyn ysgol a gynhelir ar gyfer unrhyw flwyddyn ysgol cyn 2004 i 2005.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Rhagfyr 2002
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: